CYDWELI

CYDWELI

CRYNODEB

Yn dilyn y goncwest Eingl-Normanaidd yn Ne-orllewin Cymru, rhoddodd Harri I arglwyddiaeth Cydweli i Esgob Caersallog. Yn ystod dau ddegawd cyntaf y ddeuddegfed ganrif, sefydlodd gastell a thref gaerog Cydweli ar ochr ogleddol Afon Gwendraeth Fach, a phriordy ar yr ochr ddeheuol. Ehangodd y dref yn gyflym, ac erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg roedd wedi lledaenu ar hyd sawl stryd y tu allan i amddiffynfeydd y dref. Y tu mewn i’r amddiffynfeydd, gwacaodd y lleiniau tir bwrdais, ac maent wedi bod yn wag ers y cyfnod canoloesol. Roedd y priordy, ar ochr ddeheuol yr afon, yn darparu ffocws eilaidd, a datblygodd anheddiad yma, a hynny o leiaf o’r bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen. Mae ymchwiliadau archaeolegol yn y dref gaerog wedi datgelu presenoldeb dyddodion haenedig canoloesol a diweddarach.

FFEITHIAU ALLWEDDOL

Statws: Siarter tref 1107-14.

Maint: Ansicr. 136 o diroedd bwrdais ar ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg.

Archaeoleg: Mae dyddodion canoloesol haenog wedi goroesi yn yr hen dref.

LLEOLIAD

Mae tref Cydweli wedi’i lleoli mewn man ar Afon Gwendraeth Fach sydd bellter o dros un cilometr o’r aber lle y mae’n llifo i Fae Caerfyrddin (SN 408 070). Mae’r afon yn afon lanw hyd at fymryn i fyny’r afon o Gydweli, ond mae bellach wedi siltio ac nid oes modd ei mordwyo. Mae Castell Cydweli a’r ‘hen’ dref wedi’u lleoli mewn man ychydig yn uwch, ar lan ogleddol yr afon. Mae Eglwys y Santes Fair a’r dref ‘newydd’ wedi’u lleoli ar dir is i’r de o’r afon.

HANES

Yn dilyn y goncwest Eingl-Normanaidd yn Ne Cymru, rhoddodd Harri I arglwyddiaeth Cydweli i Roger, Esgob Caersallog yn 1106. Dechreuodd adeiladu’r castell yn fuan ar ôl y dyddiad hwn. Byddai cyfanheddwyr o Loegr, Ffrainc (Normandi) a Fflandrys wedi cael eu cartrefu yn agos at y castell. Rhwng 1107 ac 1114, rhoddwyd siarter i’r dref a sefydlwyd Priordy Cydweli. Felly, roedd tair elfen gwladychiad Eingl-Normanaidd – sef castell, tref a mynachlog – wedi’u sefydlu erbyn dechrau’r ddeuddegfed ganrif. Roedd y dref wedi’i lleoli mewn ardal gaerog i’r de o’r castell, ac roedd y priordy ar ochr ddeheuol Afon Gwendraeth Fach. Arhosodd y castell mewn dwylo Eingl-Normanaidd (o Loegr) yn ystod llawer o’r ddeuddegfed ganrif a’r drydedd ganrif ar ddeg, ar wahân i gyfnodau byr pan gafodd ei gipio gan reolwyr Cymreig. Amharwyd ar dwf y dref gan ymosodiadau yn 1215 ac yn 1231, a dinistriwyd y dref yn ystod rhyfel 1258. Erbyn diwedd y drydedd ganrif ar ddeg, roedd Cydweli yn nwylo’r teulu Chaworth, a’r teulu hwn a adeiladodd lawer o’r castell carreg sydd wedi goroesi hyd heddiw. Mae ychwanegiadau diweddarach yn cynnwys y porthdy cain. Parhawyd i ddefnyddio’r castell, a chofnodir mân atgyweiriadau trwy gydol yr unfed ganrif ar bymtheg, ond yn 1609 ceir cofnod fod y castell yn ‘greately decayed and ruynated’.

Yn 1280, rhoddwyd trwydded i bobl y dref amgáu’r dref â muriau. Byddai’r rhain, yn ôl pob tebyg, wedi disodli’r amddiffynfeydd pridd a phren a oedd mewn bodolaeth. Roedd y muriau a’r gatiau wedi cael eu hadeiladu cyn 1332. Erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg, roedd hen dref Cydweli wedi ehangu y tu allan i ffiniau cul yr ardal gaerog, ar hyd yr hyn a elwir bellach yn Heol y Fferi, Heol Dŵr a Heol y Bont. Mae’n ymddangos bod yr ehangu hwn wedi bod ar draul yr anheddiad y tu mewn i’r muriau gan i diroedd bwrdais anghyfannedd gael eu cofnodi yn 1401.

Y tu allan i’r hen dref, o amgylch y priordy, datblygodd anheddiad bach o denantiaid y prior. Ni chafodd y rhain freintiau hunanlywodraeth, fel y rhoddwyd i fwrdeisiaid yr hen dref, ac ni chodwyd rhagfur na mur i amddiffyn yr anheddiad. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg, ailadeiladwyd eglwys y priordy i fod yn eglwys blwyf y Santes Fair.

Ymosodwyd yn barhaus ar y castell a’r dref yn ystod Gwrthryfel Owain Glyndŵr yn 1403-04, a chawsant eu dinistrio. Cryfhawyd amddiffynfeydd y castell a’r dref yn dilyn y gwrthryfel, ond nid adferodd yr ‘hen’ dref o’r ymosodiad. Mae siarter tref 1444 yn disgrifio’r hen dref fel a ganlyn, ‘now in manner waste and desolate for want of Burgesses there dwelling’, ac, yn yr 1530au, nododd John Leland fod yr hen dref ‘is nere all desolated’.

Mae arolwg sy’n dyddio o ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg yn cofnodi tua 136 o diroedd bwrdais, a hynny’n bennaf ar hyd Heol y Fferi, Heol Dŵr a Heol y Bont, a dim ond tri thir bwrdais, saith rhandir ac wyth bwthyn y tu mewn i furiau’r dref. I’r de o’r bont, roedd yna wyth tir bwrdais i’w cael ar ‘Le Cawsey’ a thri ar Heol Fair. Cofnodwyd wyth ar hugain o anheddau eraill ar Heol Fair.

Cadarnheir bod ffocws y dref wedi symud gyntaf i’r strydoedd y tu allan i furiau’r hen dref, ac yna’n ddiweddarach i’r dref newydd i’r de o’r afon, mewn gweithred ddyddiedig 1574, sy’n sôn am fodolaeth neuadd ddinesig yn ei lleoliad presennol.

Ymddengys na fu fawr o ehangu ar y dref yn yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif, ac yna gwelwyd gwaith datblygu newydd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, a oedd yn cyd-fynd â datblygiad diwydiannol cymedrol.

MORFFOLEG

Gellir trin Cydweli fel dau endid ar wahân; y castell a’r ‘hen’ dref ar ochr ogleddol Afon Gwendraeth Fach, ac eglwys y plwyf a’r dref ‘newydd’ ar yr ochr ddeheuol.

Cynllun dychmygol o Gydweli c.1150.

Mae’r castell carreg wedi’i leoli y tu mewn i glostir o wrthgloddiau sylweddol. Cyfeirir at ran ogleddol y clostir hwn yma fel Beili’r Gogledd ac nid oes ynddo adeiladau; mae’r ‘hen dref’ gaerog wedi’i lleoli yn rhan ddeheuol y clostir. Rhennir Beili’r Gogledd yn ddwy ran, gyda ffos sylweddol yn eu rhannu, ac mae dogfennau’n dynodi bod y ffos wedi cael ei chloddio yn ystod Gwrthryfel Owain Glyndŵr yn 1403-04. Fodd bynnag, nid oes tystiolaeth yr adeiladwyd erioed ar Feili’r Gogledd – er y gallai fod wedi cael ei gynllunio i letya rhan o’r dref – ac, yn wir, cyn gynhared â diwedd y drydedd ganrif ar ddeg a’r bedwaredd ganrif ar ddeg, mae dogfennau’n cyfeirio at erddi a cholomendy, a allai fod wedi eu lleoli yn y ddau glostir hyn. Yn ddiweddarach, cyfeirir at ‘Two Conigars’ (dwy gwningar) yn yr ardal hon.

Cynllun o dref Cydweli fel yr oedd, o bosibl, pan oedd ar ei mwyaf yn y cyfnod canoloesol, c.1320.

Mewn cyferbyniad, roedd y clostir deheuol yn cwmpasu’r ‘hen’ dref, ac ymddengys ei fod yn gwneud hynny ers sefydlu’r castell ddechrau’r ddeuddegfed ganrif. Mae tystiolaeth dda ar gael o linell muriau’r dref. Mae’r mur ar ochr ddeheuol-ddwyreiniol y dref wedi goroesi; mae llinell amcanol y mur ar ochr ogleddol y dref yn cael ei diffinio gan y dopograffeg, ac mae hyd o’r mur wedi goroesi ar ymyl ogleddol y dref, lle mae’n terfynu ar ymyl ffos y castell. Dangosodd cloddiad bach yma yn 1980 fod y mur yn sefyll ar wrthglawdd.

Mae dogfennau’n cofnodi naill ai dwy neu dair gât i’r dref. Mae’r prif borthdy, sy’n dyddio’n bennaf o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, yn dal i sefyll ar ochr ddeheuol-orllewinol y dref. Byddai ail gât wedi sefyll ym mhen Heol y Castell – gât y gogledd. Dadleuwyd mai safle gât ganoloesol yw bwa sydd wedi goroesi, ond mae’n fwy tebygol ei fod yn dyddio o gyfnod diweddarach, a’i fod wedi cael ei greu pan ddefnyddid Beili’r Gogledd yn gwningar. Mae’n debygol bod y drydedd gât, os bu iddi fodoli erioed, wedi bod yn agos at borth y castell, lle byddai’n rhoi mynediad i’r felin a’r afon.

Fel y nodwyd uchod, ymddengys bod y dref y tu mewn i’r muriau wedi cael ei gadael i raddau helaeth erbyn o leiaf y bymthegfed ganrif. Mae’n bosibl bod eglwys y plwyf wedi’i lleoli’n wreiddiol yn yr ‘hen’ dref, a bod y weithred yn y bedwaredd ganrif ar ddeg o ddynodi Eglwys y Santes Fair, ar ochr ddeheuol yr afon, yn eglwys y plwyf, yn adlewyrchu ffocws newidiol y dref. Heddiw, mae’r hen dref yn cynnwys cyfres o adeiladau gwasgaredig sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn ddiweddarach, gydag elfennau cynharach, o bosibl, i’w cael yn rhai o’r adeiladweithiau. Mae yna lawer o ofod agored, a dim patrwm clir fod tiroedd bwrdais canoloesol wedi goroesi.

Mae’n amlwg o dystiolaeth ddogfennol fod y dref wedi ehangu yn y cyfnod canoloesol y tu allan i’r amddiffynfeydd o amgylch yr ‘hen’ dref. Gellir gweld tiroedd bwrdais ar ffurf eiddo hir, cul ar fapiau o hyd, ynghyd ag ar y ddaear yn Heol Dŵr, Heol y Fferi, New Street a Heol y Bont, ac mae’n bosibl iddynt gael eu sefydlu mor gynnar â’r drydedd ganrif ar ddeg. Mae enghreifftiau arbennig o dda wedi goroesi ar ochr ddeheuol Heol Dŵr. Mae ffryntiadau’r strydoedd yn ffurfio ffasâd bron yn ddi-dor o dai teras o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn ddiweddarach, gydag o bosibl un neu ddau adeilad yn dyddio o’r ddeunawfed ganrif.

Mae’r hyn a oedd bron yn sicr yn diroedd bwrdais wedi cael eu cadw hefyd yn y treflun modern i’r de o’r afon, ar hyd Heol y Bont, Heol y Sarn, Pinged Hill a Heol Fair, a hynny gyda’r ffocws ar gyffordd Heol Fair a Heol y Sarn/Heol y Bont ger Eglwys y Santes Fair a neuadd y dref. Mae ffryntiadau’r strydoedd wedi’u ffurfio o derasau bron yn ddi-dor, gydag eiddo domestig a masnachol yn frith drwyddynt. Mae’r adeiladau’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg neu’n hwyrach.

Mae eglwys blwyf y Santes Fair/Priordy’r Santes Fair wrth galon y dref ‘newydd’. Mae’r eglwys sydd wedi goroesi yn adeilad cynllun croesffurf sylweddol, ac mae’n cynnwys cangell, corff, festri, transept y gogledd a thransept y de, a thŵr. Roedd yr eglwys yn rhan o’r priordy yn wreiddiol. Ar wahân i’r eglwys, nid oes dim o’r priordy Benedictaidd wedi goroesi uwchben y ddaear. Mae yna ansicrwydd yn bodoli ynghylch lleoliad adeiladau’r cloestr a’r adeiladau eraill a oedd yn gysylltiedig â’r priordy; mae’r argraffiad cyntaf o’r map Ordnans 1:2500 yn arddangos label ‘Priory (remains of)’ i’r gogledd gogledd-ddwyrain o’r eglwys; awgrymwyd bod y priordy wedi’i leoli ym mhen dwyreiniol yr eglwys bresennol, tra bod adeilad o’r enw ‘Prior’s House’ wedi’i leoli i’r gorllewin ohoni.

Mae Melin-y-Castell yn adeilad sy’n dyddio o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond tybir ei fod wedi’i leoli ar safle melin gynharach, a oedd efallai’n ganoloesol ei tharddiad.

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru