LLANDEILO FAWR

LLANDEILO FAWR

CRYNODEB

Yn wahanol i lawer o drefi bach De-orllewin Cymru, mae gwreiddiau Llandeilo yn mynd yn ôl i’r cyfnod canoloesol cynnar, pan honnir bod Teilo Sant wedi sefydlu cymuned grefyddol yma, a hynny yn y chweched ganrif, o bosibl. Nid oes unrhyw dystiolaeth ffisegol hysbys wedi goroesi o’r sefydliad hwn. Yn y ddeuddegfed ganrif, tyfodd anheddiad yn naturiol o amgylch Eglwys Teilo Sant, gan ddatblygu i fod yn dref fach lle cynhelid ffeiriau blynyddol a marchnad wythnosol. Prin yw’r dystiolaeth am ffyniant y dref wedi hynny, ond mae’n ymddangos ei bod wedi parhau i fod yn gymedrol ei maint tan ddiwedd y ddeunawfed ganrif/y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nid oes unrhyw ymchwiliadau archaeolegol wedi cael eu cynnal yn Llandeilo.

FFEITHIAU ALLWEDDOL

Statws: Marchnad wythnosol a thair ffair flynyddol.

Maint: 1326 14 o fwrdeisiaid yn bresennol.

Archaeoleg: Dim ymchwiliadau wedi cael eu cynnal.

LLEOLIAD

Mae tref Llandeilo wedi’i lleoli ar fryn isel ar ochr ogleddol Afon Tywi yn Sir Gaerfyrddin (SN 629 222). Mae Dyffryn Tywi yn darparu coridor da sy’n rhoi mynediad hawdd i Gaerfyrddin 25 km i’r gorllewin, a Chanolbarth Cymru i’r gogledd-ddwyrain. Mae’r dref wedi’i lleoli ar un o groesfannau Afon Tywi, gyda chefnffordd a rheilffordd yn darparu mynediad i dde Sir Gaerfyrddin ac ymlaen i Abertawe.

HANES

Sefydlodd y Rhufeiniaid gaer yn c.OC 74, oddeutu 600 m i’r gogledd-orllewin o’r hyn sydd bellach yn Llandeilo. Datblygodd anheddiad sifil bach y tu allan i gatiau’r gaer ac, er bod y gaer wedi cael ei gadael erbyn c.OC 120, mae’n bosibl bod yr anheddiad wedi parhau i gael ei ddefnyddio, gan ffurfio egin-dref Llandeilo. Roedd y Rhufeiniaid yn adeiladu ffyrdd i gysylltu caerau. Nid yw union lwybrau’r ffyrdd Rhufeinig o amgylch Llandeilo wedi cael eu nodi gyda sicrwydd, ond mae’n debyg bod un yn rhedeg trwy’r hyn sydd bellach yn dref Llandeilo, gan groesi Afon Tywi yn agos at y bont ffordd bresennol, cyn mynd yn ei blaen i’r de, i gaer ar aber Afon Llwchwr.

Yn ôl traddodiad, sefydlodd Teilo Sant eglwys yn Llandeilo yn y chweched ganrif, a datblygodd hon i fod yn sefydliad eglwysig o’r pwys mwyaf, ac iddo ystad gysylltiedig o hyd at 6,000 erw. Roedd Llyfr Teilo, sy’n llyfr goliwiedig cain, yn cael ei gadw yma, ac ar y cyd â’r ddwy groes gerfiedig ganoloesol gynnar a ddarganfuwyd yn ystod adnewyddiadau i’r eglwys ym mlynyddoedd canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae’n amlygu pwysigrwydd y gymuned grefyddol yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag, dirywiodd y gymuned hon yn ystod y nawfed a’r ddegfed ganrif.

Yn y ddeuddegfed ganrif, bu esgobion Llandaf a Thyddewi yn dadlau ynghylch ystadau helaeth Teilo Sant, ac, yn y pen draw, Tyddewi a gafodd oruchafiaeth. Yn ddiweddarach yn y ganrif honno, roedd rhai o gyn eiddo Teilo Sant yn ffurfio rhan o waddol Abaty Talyllychau. Sonnir am ‘villa de Lanteilo’ yn 1213, pan ymosododd Rhys Grug arni a’i dinistrio. Yna, yn 1289, cofnodir pont, a honno, yn ôl pob tebyg, yn agos at safle’r bont ffordd bresennol neu yn y safle hwnnw. Rhoddwyd tair ffair flynyddol a marchnad wythnosol i’r dref. Fodd bynnag, roedd Llandeilo yn un o drefi lleiaf a lleiaf proffidiol Esgob Tyddewi, ac yn 1326 dim ond pedwar ar ddeg o fwrdeisiaid a gofnodwyd, deuddeg dyn a dwy fenyw.

Roedd sefydlu trefi deuol Dinefwr/y Drenewydd ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, a hynny ddim ond 1.6 km i’r gorllewin, wedi llesteirio datblygiad Llandeilo. Yn rhyfeddol, goroesodd Dinefwr/y Drenewydd a Llandeilo y cwymp yn y boblogaeth ym mlynyddoedd canol y bedwaredd ganrif ar ddeg, ond, ymhen hir a hwyr, roedd lleoliad mwy manteisiol Llandeilo ar groesfan Afon Tywi wedi ennill y dydd, a gadawyd Dinefwr/y Drenewydd yn anghyfannedd. Mae hanes diweddarach Llandeilo yn fylchog – llwyddodd y dref i gadw ei maint cymedrol tan ddiwedd y ddeunawfed ganrif, pan arweiniodd twf yn y boblogaeth at rywfaint o ehangu. Ddechrau/ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, codwyd adeiladau newydd yn lle’r hen rai, adeiladwyd Heol Newydd a Heol Cilgant, codwyd pont newydd dros yr afon i ddisodli’r hen un a oedd wedi cwympo, a chafodd y briffordd ei gosod ar lwybr a oedd yn mynd yn syth trwy’r fynwent fawr. Arweiniodd dyfodiad y rheilffordd yn 1856 at ddatblygiad newydd o dai ar ochr ogleddol y dref.

MORFFOLEG

Tybir bod y gymuned grefyddol ganoloesol gynnar wedi’i lleoli yng nghanol Llandeilo, ond nid oes tystiolaeth gadarn ar gael o hyn. Tyfodd Llandeilo yn naturiol; nid oes yna dystiolaeth bod iddi gynllun ffurfiol, fel llawer o drefi De-orllewin Cymru.

Cynllun dychmygol o Landeilo c.1320.

Mae’r dref wedi’i chanoli ar eglwys Teilo Sant a’i mynwent is-betryal fawr. Cafodd y canol hwn ei rannu’n ddau gan y briffordd a adeiladwyd ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac sy’n mynd trwy’r dref. Cyn hyn, roedd yn rhaid i’r traffig fynd i’r gogledd neu’r de o amgylch y fynwent. Roedd y farchnad wedi’i lleoli ar ochr ogleddol y fynwent. Ffordd lydan Stryd y Brenin yw’r hyn sy’n weddill o’r farchnad – mae bloc trionglog o adeiladau wedi llyncu’r mwyafrif ohoni, ac mae Stryd y Farchnad heddiw yn stryd gul ar ochr ogleddol y bloc. Nid yw’n hysbys pryd y digwyddodd hyn oll. Byddai ochr ogleddol y fynwent wedi bod yn ganolbwynt i’r dref ganoloesol, a chan mai dim ond pedwar ar ddeg o fwrdeisiaid a gofnodwyd yn 1326, ni fyddai wedi estyn llawer y tu hwnt i amgylchoedd y farchnad. Nid yw morffoleg y dref yn y cyfnod canoloesol diweddarach a’r cyfnod modern cynnar yn glir, ond, erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg, mae’n debygol bod tai wedi cael eu hadeiladu ar Stryd Caerfyrddin, o amgylch ochrau’r fynwent i gyd, ac ar ddwy ochr Heol y Bont a Stryd Rhosmaen, sy’n agos at y fynwent. Ymledodd tai diweddarach ar hyd Heol y Bont, Stryd Rhosmaen a George Hill. Datblygodd tai y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, eiddo masnachol ac adeiladau crefyddol y tu allan i graidd hanesyddol y dref.

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru