LLANYMDDYFRI

LLANYMDDYFRI

CRYNODEB

Yn ystod y ddeuddegfed ganrif, datblygodd tref fach y tu allan i Gastell Llanymddyfri. Roedd diwedd y drydedd ganrif ar ddeg yn gyfnod o ehangu cyflym, a sefydlwyd tiroedd bwrdais newydd o amgylch marchnad triongl ei siâp. Yn 1317, cofnodwyd 81 o diroedd bwrdais, ac mae’n bosibl mai’r cyfnod hwn oedd cyfnod gorau’r dref ganoloesol. Erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg dim ond un stryd a oedd i’w chael yn y dref. Nid ehangodd y dref tan ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae ymchwiliadau archaeolegol yn y dref yn cynnwys un mantoliad bach ac iddo ganlyniadau negyddol.

FFEITHIAU ALLWEDDOL

Statws: Rhoddwyd siarter i’r dref yn 1485. Tair ffair flynyddol.

Maint: 1317 81 o diroedd bwrdais wedi’u cofnodi.

Archaeoleg: Un mantoliad ac iddo ganlyniadau negyddol.

LLEOLIAD

Mae tref Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin wedi’i lleoli ar dir gwastad tua 65 m uwchben lefel y môr yn Nyffryn Tywi, yn union i fyny’r afon o gydlifiad Afon Tywi ac Afon Brân, a lle mae Afon Gwydderig yn cwrdd ag Afon Brân (SN 7675 3427). Mae Llanymddyfri yn agos at lwybrau cysylltiol: mae Dyffryn Tywi yn darparu coridor i’r gorllewin i Landeilo, Caerfyrddin a thu hwnt, ac mae dyffryn Afon Brân yn rhoi mynediad i Ganolbarth Cymru. Mae ffyrdd i ogledd Sir Gaerfyrddin yn dilyn rhan uchaf Dyffryn Tywi, a’r rhai i’r dwyrain yn dilyn dyffryn Afon Gwydderig.

HANES

Ddechrau’r ddeuddegfed ganrif, yn ystod y goncwest Eingl-Normanaidd yn Ne-orllewin Cymru, sefydlodd Richard Fitz Pons gastell yn Llanymddyfri ar lan ogleddol Afon Gwydderig. Roedd wedi’i leoli 1 km i’r de-orllewin o’r gaer Rufeinig yn Llanfair-ar-y-bryn, a 0.4 km i’r dwyrain o eglwys blwyf bresennol Llandingad. Mae’n debygol bod anheddiad wedi datblygu’n gyflym y tu allan i’r castell gan fod bwrdeisiaid wedi cael eu cofnodi yn 1185, a chyfeirir at dref yn 1201. Sefydlodd Fitz Pons gell priordy Benedictaidd hefyd, a hynny’n ôl pob tebyg yn Llanfair-ar-y-bryn; fodd bynnag, cafodd hon ei chau gan Rhys ap Gruffudd yn 1185 yn dilyn diarddel y brodyr am ymyrryd â dinasyddion y dref. Ymosodwyd yn aml ar y castell trwy gydol y drydedd ganrif ar ddeg, a newidiodd ddwylo yn rheolaidd rhwng y Saeson a’r Cymry. O ganlyniad, ni chafodd y dref fawr ddim cyfle i ddatblygu hyd nes y cafwyd cyfnod o sefydlogrwydd gwleidyddol ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Yn 1276, rhoddodd Edward I Lanymddyfri i John Giffard. Aeth ati i gryfhau’r castell, a gwahoddodd gyfanheddwyr o Loegr i’r dref. Ehangodd Llanymddyfri’n gyflym, a chynyddodd nifer y tiroedd bwrdais o 37 yn 1299 i 81 yn 1317. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg, roedd arian o renti wedi cynyddu’n fawr, sy’n awgrymu twf yn y boblogaeth; cofnodir bod yna dair ffair flynyddol. Fodd bynnag, er bod Llanymddyfri yn gweithredu fel bwrdeistref, nid oes cofnod o siarter i’w gael hyd nes i Richard III roi un yn 1485. Ni fu erioed eglwys yn y fwrdeistref, ac nid oes tystiolaeth ddogfennol ar gael sy’n dynodi bod y dref erioed wedi cael amddiffynfeydd. Yn yr un modd â lleoedd eraill yn Ne-orllewin Cymru, ymddengys bod rhoi siarter yn ystod cyfnod cymharol hwyr fel hwn wedi bod yn ymgais i anadlu bywyd i dref a oedd yn dirywio’n ddifrifol; fodd bynnag, cyfyngedig oedd y llwyddiant oherwydd, yn 1535, disgrifiodd John Leland Lanymddyfri fel a ganlyn: ‘but one street, and that poorely builded of thatchid houses’. Cofnodwyd 76 o diroedd bwrdais yn 1659, sy’n agos at yr uchafswm a gofnodwyd yn 1317, ond dim ond 61 o fwrdeisiaid preswyl a oedd yn y dref yn 1661, sy’n dynodi bod yna ardaloedd yn Llanymddyfri heb adeiladau ynddynt. Yn 1695, pan oedd y dref wedi cael ei rhannu’n chwe ward, ychydig iawn o ddatblygiad a oedd wedi mynd rhagddo y tu allan i’w chraidd canoloesol, fel y cofnodwyd mewn arolwg: roedd 23 o fwrdeisiaid yn byw ar Stryd Lydan, 14 ar Stryd y Frenhines, 11 ar Stryd y Castell, 13 ar Lower Street a 15 ar y Stryd Fawr. Roedd y bwrdeisiaid yn Stryd Fawr yn byw i gyfeiriad ei phen gorllewinol gan fod dogfennau diweddarach yn cofnodi caeau yn ei phen dwyreiniol. Er i neuadd y dref gael ei hailadeiladu yn 1752, ar ôl cael ei chrybwyll gyntaf yn 1592, prin oedd y gwelliant cyffredinol yn ffyniant y dref pan ymwelodd Benjamin Heath Malkin yn 1804 gan iddo’i disgrifio fel ‘the worst in Wales. Its buildings are mean, irregular and unconnected; its streets filthy and disgusting’. Fodd bynnag, cafwyd gwelliant rhyfeddol yn ychydig ddegawdau cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan i Samuel Lewis adrodd y canlynol am Lanymddyfri yn 1833, ‘consists principally of two streets meeting nearly at right angles’ a ‘the houses at present are well built and of respectable appearance’. Mae’r nifer mawr o dai Sioraidd ac o ddiwedd y cyfnod Fictoraidd yn tystio i gynnydd yn statws y dref yn y cyfnod hwn. Cynyddodd y boblogaeth yn sylweddol ym mlynyddoedd canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg; mae map degwm c.1840 yn dangos tai newydd eu sefydlu ar ddwy ochr Stryd Cerrig, Stryd y Frenhines, Stryd y Berllan a Stryd Fawr cyn belled ag Afon Brân. Roedd ehangu pellach wedi digwydd pan gyhoeddodd yr Arolwg Ordnans yr Argraffiad Cyntaf o’r map 1:2500 yn 1880. Yn ystod yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain, ehangodd y dref i bob cyfeiriad ar wahân i’r de, lle mae Afon Brân yn darparu ffin naturiol.

MORFFOLEG

Mae Castell Llanymddyfri yn cynnwys olion tŵr siâp D, porthdy a llenfur o waith maen ar frigiad creigiog naturiol ac amlwg, a hwnnw wedi ei serthu mewn modd artiffisial; mae yna hefyd ward fewnol fach neu feili ynghlwm wrth ei ochr ddwyreiniol. Roedd yna wrthgloddiau yn arfer bod i’r de-orllewin anghysbell. Mae’n bosibl, yn wreiddiol, fod yna feili neu loc allanol mawr ar y tir gwastad yn union i’r gogledd, a elwid yn y cyfnod canoloesol diweddarach yn Castle Yard (sy’n faes parcio erbyn hyn); dyma’r lleoliad mwyaf credadwy ar gyfer yr anheddiad cynharaf, a allai fod wedi cael ei amddiffyn gan amddiffynfeydd pridd. Ni ddarganfuwyd unrhyw olion archaeolegol yn y beili allanol posibl mewn mantoliad yn 1991.

Cynllun dychmygol o Lanymddyfri pan oedd y dref ar ei mwyaf yn y cyfnod canoloesol, c.1320.

Mae’n debyg bod yr anheddiad cynharaf wedi datblygu’n naturiol y tu allan i gatiau’r castell, ond roedd y dref ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg/ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg yn anheddiad cynlluniedig a oedd wedi’i ganoli o amgylch marchnad siâp triongl (mae’r cynllun i’w weld yn glir o hyd ar fapiau modern, er bod mewnlenwi wedi cuddio’r amlinelliad gwreiddiol). Byddai tiroedd bwrdais wedi cael eu gosod ar y naill ochr a’r llall i Sgwâr y Farchnad a Stryd Lydan. Yn sicr, mae’n ymddangos y byddai’n hawdd cynnwys yr 81 o diroedd bwrdais a gofnodwyd yn 1317 yn Sgwâr y Farchnad, Stryd Lydan, Stryd y Castell a’r cyffiniau agos. Mae ffiniau eiddo, yn enwedig y rhai ar ochr ogleddol Sgwâr y Farchnad a Stryd Lydan, yn dal i gadw amlinelliad y tiroedd bwrdais. Safai eglwys Llanddingad i’r gorllewin, ar wahân i’r dref. Hyd yn oed erbyn 1695, dim ond ehangu cymedrol a gafwyd, a hynny i’r dwyrain ar hyd pennau gorllewinol Stryd Fawr a Stryd y Frenhines, a rhywfaint o ddatblygiad i’r dwyrain o Afon Brân, lle roedd mab enwocaf Llanymddyfri, y Ficer Pritchard, wedi adeiladu tŷ.

Nodwedd ddiddorol o’r dref oedd Nant Bawddwr, nant a ymddangosodd yn aml mewn dogfennau canoloesol a diweddarach. Carthffos agored yn llifo trwy ganol y farchnad ac i lawr Stryd Lydan oedd y nant yn wreiddiol, nes iddi gael ei sianelu, a hynny ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ôl pob tebyg.

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru