LLANELLI

LLANELLI

CRYNODEB

Mae hanes canoloesol Llanelli yn aneglur. Cofnodir eglwys, y Santes Elli, yn yr unfed ganrif ar ddeg, a thybir i anheddiad ddatblygu o’i chwmpas yn dilyn y goncwest Eingl-Normanaidd yn y rhanbarth ar ddechrau’r ddeuddegfed ganrif. Fodd bynnag, ni chofnodir unrhyw farchnadoedd na ffeiriau, a dim ond yn yr ail ganrif ar bymtheg y mae dogfennau’n cyfeirio at Lanelli fel bwrdeistref. Beth bynnag oedd statws y Llanelli ganoloesol, byddai wedi bod yn fach, gyda thai wedi’u clystyru o amgylch yr eglwys. Fodd bynnag, amlygwyd potensial archaeolegol Llanelli gan ymchwiliadau yn ystod y gwaith o adfer Plas Llanelli, pan ddatgelwyd dyddodion archaeolegol haenedig yn dyddio’n ôl i gyfnod y Tuduriaid, o leiaf.

FFEITHIAU ALLWEDDOL

Statws: Nid oedd Llanelli yn dref yn y cyfnod canoloesol.

Maint: Anhysbys, ond bach.

Archaeoleg: Datgelodd gwaith ym Mhlas Llanelli archaeoleg ôl-ganoloesol.

LLEOLIAD

Mae anheddiad hanesyddol Llanelli wedi’i leoli ar ochr ogleddol Afon Leidi yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin, lle mae’r afon yn dolennu ar draws gwastadedd arfordirol eang (SN 506 005). Mae canol y dref bellach 1.3 km o’r môr, ond yn y cyfnod canoloesol mae’n bosibl bod Afon Lledi wedi bod yn gilfach lanw a oedd wedi’i lleoli cyn belled yn fewndirol â chraidd hanesyddol Llanelli.

HANES

Mae diwydiant y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif yn tra-arglwyddiaethu ar hanes Llanelli ac yn cuddio ei tharddiad, yn hanesyddol ac yn ffisegol, yn y cyfnod canoloesol.

Mae yna gyfeiriad yn Llyfr Llandaf, sy’n dyddio o ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg, at eglwys y Santes Elli, ond nid oes unrhyw wybodaeth ar gael am anheddiad cysylltiedig, os oedd yna un yn wir. Sefydlodd yr Eingl-Normaniaid gastell yng Ngharnwyllion, a hynny ar ddechrau’r ddeuddegfed ganrif, yn ôl pob tebyg, yn ystod eu goresgyniad o’r rhanbarth. Sefydlwyd Castell Carnwyllion ar safle o’r enw ‘Old Castle’, a oedd 700 m i’r gorllewin o eglwys blwyf y Santes Elli; mae bellach wedi’i foddi bron yn gyfan gwbl dan ddŵr y gronfa. Cafwyd y cofnod cyntaf o’r castell yn 1190, pan gafodd ei ddinistrio gan y Cymry. Cafodd ei ddinistrio eto yn 1215. Mae’r castell yn diflannu o hanes ar y dyddiad hwn. Nid oes yna hanes canoloesol hysbys am Lanelli ar gael; ni roddwyd siarter tref iddi ac ni wyddys am unrhyw hawliau a roddwyd iddi i gynnal marchnad neu ffair.

Yn yr 1530au, galwodd yr hynafiaethydd John Leland Lanelli yn ‘village’, ac mae arolwg o 1609-13 yn cofnodi 59 o rydd-ddeiliad ym mwrdeistref Llanelli. Mae dogfennau diweddarach hefyd yn cyfeirio at Lanelli fel bwrdeistref, ond, cyn hwyred â dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, dim ond 51 o dai a oedd wedi cael eu cofnodi. O ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen, ehangodd Llanelli yn gyflym.

MORFFOLEG

Mae mapiau o’r ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn dangos tua 50 o dai wedi’u clystyru o amgylch mynwent y Santes Elli. Dangosir tai ar Stryd yr Eglwys, Bridge Street, Thomas Street a Wind Street, pob un ohonynt ar ochr ogleddol ystumiau Afon Lledi (sydd bellach wedi’i sianelu). Maent yn dangos Plas Llanelli, sy’n blas sylweddol, yn union i’r de o’r fynwent, gyda gerddi mawr ar ei ochr ddeheuol.

Cynllun sgematig o Lanelli fel yr oedd, o bosibl, ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg.

Tybir bod yr anheddiad canoloesol wedi bod yn yr un lleoliad, fwy neu lai, â’r tai a welir ar fapiau’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond mae’n debyg nad oedd mor fawr. Fodd bynnag, mae ei union leoliad yn parhau i fod yn aneglur.

Mae’r fynwent fawr, 125 m i’r dwyrain/gorllewin a 70 m i’r gogledd/de, wedi cadw llawer o’i maint a’i siâp ers y darlun cyntaf ohoni ar fap ym mlynyddoedd canol y ddeunawfed ganrif, er y gallai fod wedi estyn ymhellach i’r de-ddwyrain ar un adeg gan i esgyrn dynol gael eu darganfod yng nghyffiniau Falcon Bridge. Roedd gwaith yn yr ugeinfed ganrif i ehangu ffyrdd ac adeiladu meysydd parcio i’r gogledd a’r gorllewin o’r fynwent yn gofyn am ddymchwel tai ac adeiladau eraill, gan olygu bod tystiolaeth o ddyddodion archaeolegol canoloesol a diweddarach wedi mynd i’w canlyn, os oedd yna rai o gwbl, mewn gwirionedd, yn y lleoliadau hyn.

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru