LLAWHADEN

LLAWHADEN

CRYNODEB

Sefydlodd Esgob Tyddewi gastell yn Llawhaden yn 1115. Mae’n debyg bod anheddiad wedi datblygu y tu allan i gatiau’r castell. Yn 1281, sefydlodd yr Esgob Bek dref ac anogodd gyfanheddwyr i ddod yno. Roedd y dref yn llwyddiannus i ddechrau gan fod cofnod yn 1326 yn nodi bod 126 o fwrdeisiaid yn dal 174½ o leiniau tir bwrdais, sy’n golygu ei bod yn un o’r trefi mwyaf yn Ne-orllewin Cymru. Fodd bynnag, mae tref Llawhaden yn diflannu o hanes, a thybir iddi ddirywio’n ddifrifol yn dilyn y cwymp yn y boblogaeth ledled Ewrop ym mlynyddoedd canol y bedwaredd ganrif ar ddeg. Dim ond pentref a oedd ar ôl yno wedyn. Yn rhan o’i sefydliad, cododd yr Esgob Bek ysbyty ym mhen gorllewinol y dref – cafodd hwn ei ddiddymu yn 1535; mae un adeilad wedi goroesi.

FFEITHIAU ALLWEDDOL

Statws: 1281 rhoddwyd yr hawl i Lawhaden gynnal marchnad wythnosol a dwy ffair flynyddol. Dim siarter tref.

Maint: 1326 126 o fwrdeisiaid.

Archaeoleg: Datgelodd gwaith cloddio yn yr ysbyty canoloesol ddyddodion archaeolegol helaeth.

LLEOLIAD

Mae Llawhaden wedi’i leoli yng nghanol Sir Benfro (SN 072 174). Mae iddo ddau ganol bellach: mae castell a phentref Llawhaden wedi’u lleoli ar dir gwastad 90 m uwchben lefel y môr; mae eglwys y plwyf, y bont a’r felin wedi’u lleoli i’r dwyrain, wrth droed llethr serth ar lawr dyffryn Afon Cleddau Ddu, sydd 20 m uwchben lefel y môr. Saif Arberth 5 km i’r de-ddwyrain a Hwlffordd 12 km i’r de-orllewin. Mae hen fwrdeistref Cas-wis wedi’i lleoli 4 km i’r gorllewin. Erbyn hyn, mae’r briffordd yn osgoi Llawhaden gan fod cefnffordd yr A40 yn rhedeg 2 km i’r de, ond gynt roedd y dref wedi’i lleoli ar y prif lwybr dwyreiniol/gorllewinol, a phont Llawhaden, yn hanesyddol, oedd man pontio isaf Afon Cleddau Ddu.

HANES

Mae yna dystiolaeth dda o ddefnydd crefyddol cyn Eingl-Normanaidd ar safle eglwys blwyf Sant Aidan, a hynny ar ffurf cysegriad Celtaidd (Sant Aidan) a phresenoldeb heneb Gristnogol gynnar. Yn y ddegfed ganrif, mae Llawhaden yn cael ei restru yn un o saith tŷ esgob Dyfed.

Roedd Llawhaden yn eiddo i Esgob Tyddewi; Bernard, sef yr esgob Normanaidd cyntaf, yn 1115, a adeiladodd y castell cyntaf. Roedd y castell pridd a phren gwreiddiol wedi cael ei ailadeiladu mewn carreg erbyn dechrau’r drydedd ganrif ar ddeg, ond Thomas Bek, yn dilyn ei benodiad yn esgob yn 1280, a aeth ati i’w drawsnewid yn blasty caerog mawr. Yn 1326 sonnir am ddwy ardd, yn ogystal ag adeiladau carreg y tu mewn i’r muriau ac adeiladau pren y tu allan iddynt.

Yn 1281, rhoddodd Bek drwyddedau i Lawhaden gynnal marchnad wythnosol a dwy ffair flynyddol. Yn 1287 sefydlodd ysbyty o dan reolaeth prior a gafodd y cyfrifoldeb o ofalu am ‘pilgrims, paupers, orphans, the old, weak and infirm’, a rhoddodd Bek dir yn waddol i’r ysbyty. Anogwyd cyfanheddwyr, Saeson yn bennaf, i fewnfudo i’r dref newydd, ac erbyn 1326 roedd 126 o fwrdeisiaid yn dal 174½ o leiniau tir bwrdais, gan olygu bod Llawhaden yn un o’r trefi mwyaf yn Ne-orllewin Cymru. Roedd tollau’r farchnad, tollau a rhenti a phrydlesi yn golygu mai Llawhaden oedd y mwyaf proffidiol o lein-ddaliadau’r esgob. Cofnodir gwaith adeiladu yn y castell yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg ac wedi hynny, ond mae hanes yn dawel ar dynged ddiweddarach y dref. Tybir bod ei dirywiad yr un mor ddramatig a chyflym â’i hesgyniad, ac na oroesodd y cwymp yn y boblogaeth ledled Ewrop ym mlynyddoedd canol y bedwaredd ganrif ar ddeg. Yn 1501, dim ond rhan y capel o’r ysbyty a oedd yn cael ei defnyddio, a diddymwyd hon yn 1535, pan nad oedd Llawhaden fawr mwy na phentref.

MORFFOLEG

Saif Eglwys Sant Aidan wrth droed dyffryn coediog, serth yn ymyl Afon Cleddau Ddu, sef man sydd ychydig uwch na’r hyn a oedd, tan y cyfnod ôl-ganoloesol, ym man pontio isaf yr afon. Mae Melin Llawhaden wedi’i lleoli rhwng yr eglwys a’r bont.

Map dychmygol o dref Llawhaden fel yr oedd, o bosibl, pan oedd ar ei mwyaf yn y cyfnod canoloesol, c.1320.

Saif Castell Llawhaden ar grib y dyffryn, a hynny ar uchder o 90 m, sydd dros 70 m yn uwch na’r eglwys. Mae’n debygol bod anheddiad wedi datblygu’n naturiol y tu allan i gatiau’r castell cyn i’r dref gael ei sefydlu ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg.

Tybir mai croestoriad trionglog pedair ffordd fach, 200 m i’r gorllewin o’r castell, yw safle’r farchnad ganoloesol. Mae yna grŵp eithaf llac o dai o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn fwy diweddar i’w cael ar y groesffordd hon. I’r gorllewin o’r farchnad mae’r briffordd trwy’r pentref yn rhedeg ar dir gwastad. Mae yna dir heb ei ddatblygu ar ddwy ochr y ffordd hon, er bod Tŷ Llawhaden o’r ail ganrif ar bymtheg (llosgodd y tŷ i’r llawr yn 2000), ynghyd â chasgliad o adeiladau allanol, i’w cael mewn man amlwg ar yr ochr ogleddol. Mae olion yr ysbyty canoloesol i’w gweld ym mhen gorllewinol y pentref, ac mae mwyafrif y tai modern yn Llawhaden wedi’u lleoli i’r gogledd a’r dwyrain o’r ysbyty. Mae ffiniau eiddo a chaeau i’r gogledd a’r de o’r briffordd hon yn dynodi lleoliad hen diroedd bwrdais, ac mae gwaith cloddio ar safle’r ysbyty wedi dynodi bod tiroedd bwrdais yn arfer bod i’r gorllewin o’r safle hwn ac, o bosibl, i’r de.

Mae gwrthgloddiau isel ar ochr ddeheuol lôn sy’n rhedeg i lawr i’r de-ddwyrain o’r farchnad hyd at lawr y dyffryn yn nodi lleoliadau tiroedd bwrdais anghyfannedd. Mae tai a gerddi modern ar ben uchaf y lôn hon wedi llyncu rhai o’r lleiniau hyn.

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru