Y MOT

Y MOT

CRYNODEB

Erbyn hyn, pentref bach yng nghanol Sir Benfro yw’r Mot. Sefydlodd esgobion Tyddewi gastell, eglwys a thref yn y Mot yn y ddeuddegfed ganrif, ac erbyn 1326 cofnodir bod 42 o fwrdeisiaid yn dal 89 o diroedd bwrdais. Fodd bynnag, dirywiodd y dref, a hynny mae’n debyg yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae mantoliadau archaeolegol wedi dangos bod dyddodion archaeolegol canoloesol sylweddol sy’n gysylltiedig â’r dref wedi goroesi.

FFEITHIAU ALLWEDDOL

Statws: Ffair ddwywaith y flwyddyn.

Maint: 1326, roedd 42 o fwrdeisiaid yn dal 89 o diroedd bwrdais.

Archaeoleg: Mae cloddiadau ar gyfer mantoliadau wedi datgelu dyddodion canoloesol haenedig.

LLEOLIAD

Saif y Mot ar uchder o 150 m yng nghanol Sir Benfro (SN 064 254), a hynny 14 km i’r gogledd-ddwyrain o Hwlffordd ac 11 km i’r gogledd o Arberth. Mae hen drefi Cas-wis a Llawhaden i’r de-orllewin a’r de, yn y drefn honno. Mae’r Mot wedi’i leoli mewn tirwedd amaethyddol lle mae porfa wedi’i wella yn tra-arglwyddiaethu a fawr ddim tir âr ar gael.

HANES

Mae’r enw y Mot (New Moat yn Saesneg) yn awgrymu bod yna safle amddiffynnol eisoes yn bodoli yn y cyffiniau cyn y cafodd ei sefydlu, ond ni wyddys a oedd hwn wedi’i leoli sawl milltir i ffwrdd neu ai’r lleoliad ‘The Mote’ ydyw, sydd wedi’i farcio i’r de o’r eglwys ar fapiau Ordnans. Roedd y Mot yn rhan o ystadau Esgobion Tyddewi, a sefydlodd y castell a datblygu’r dref. Mae ffurf castell mwnt a beili y Mot yn dynodi ei fod wedi cael ei sefydlu yn ystod y ddeuddegfed ganrif – nid oes yna unrhyw ffynonellau dogfennol ar gael i ategu’r honiad hwn. Mae’r mwnt yn 7 m o uchder, mae’r diamedr ar draws y top yn 20 m, ac mae ffos wlyb o’i amgylch. Mae’r beili hirgrwn, y mae ei gylch amddiffynnol wedi cael ei wastatáu, yn sefyll ar ochr orllewinol y mwnt ac yn mesur 60 m o’r dwyrain i’r gorllewin, a 145 m o’r gogledd i’r de. Mae’n debygol bod yr anheddiad cynharaf wedi datblygu yn y beili. Nid oes yna dystiolaeth yn bodoli sy’n dynodi bod gan Eglwys Sant Nicholas yn y Mot sylfeini cyn Eingl-Normanaidd – mae’r cyfeiriad cyntaf ati yn dyddio o c.1200, pan gafodd ei rhoi i Briordy’r Pill, a oedd newydd ei sefydlu yn ne Sir Benfro. Hefyd, roedd yr un siarter yn rhoi i’r priordy ‘in the township of New Moat a burgage by the east gate and one burgage on the north side’ . Mae’n debyg y gellir tybio oddi wrth y cyfeiriad at gât ddwyreiniol fod yr egin-dref wedi’i lleoli y tu mewn i feili’r castell, neu fod y dref yn gaerog, neu fod y fwrdeistref wedi’i lleoli yn union y tu allan i borth dwyreiniol y castell. Pa ddehongliad bynnag a wneir, mae’n amlwg bod tref y Mot yn bodoli neu wrthi’n cael ei datblygu erbyn c.1200. Anogodd Esgobion Tyddewi gyfanheddwyr o Loegr i’w tref – mae’r bwrdeisiaid a restrir yn Llyfr Du Tyddewi bron i gyd yn Saeson. Yn 1291, rhoddodd yr Esgob Bek ffair ddwywaith y flwyddyn i’r Mot. Yn 1326, cofnodir bod 42 o fwrdeisiaid yn dal 89 o diroedd bwrdais. Mae hanes yn dawel ar ddirywiad y Mot, ond tybir i’r dref ddioddef, ac efallai gael ei gadael yn anghyfannedd, yn ystod y cwymp yn y boblogaeth ledled Ewrop ym mlynyddoedd canol y bedwaredd ganrif ar ddeg.

Roedd y teulu Scourfield yn byw yn The Mote o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg hyd at 1780, a daeth yn un o deuluoedd tirfeddiannol mwyaf y sir. Ddiwedd y ddeunawfed ganrif, symudodd y teulu o The Mote, ond yn 1830 symudodd yn ôl yno ac adeiladu plasty newydd, ac iddo erddi helaeth, o’r enw The Mote hefyd, a hynny i’r dwyrain o’r pentref. Erbyn hyn mae’r plasty’n adfail.

Rhestrodd John Speed y Mot yn brif dref yn Sir Benfro ar ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg. Fodd bynnag, mae’n debyg bod y rhestru hwn yn ganlyniad i’r teulu Scourfield yn ceisio gwella ei statws trwy hawlio meddiant o dref nad oedd, erbyn hynny, yn ddim mwy na phentref bach.

MORFFOLEG

Mae’r Mot bellach yn bentref bach heb fawr ddim i ddynodi ei statws blaenorol. Nid oes yna dystiolaeth bod yr anheddiad erioed wedi cael ei amddiffyn. Mae ffordd gogledd/de yn cwrdd â ffordd dwyrain/gorllewin ar gyffordd T. Mae eglwys blwyf Sant Nicholas wedi’i lleoli ar ochr orllewinol y ffordd gogledd/de a’r castell mwnt a beili ar yr ochr ddwyreiniol. Nid yw’n hawdd diffinio beili’r castell ar y ddaear, ond mae delwedd LiDAR o’r pentref yn dangos ei faint yn glir, gyda’i ochr ogleddol yn estyn i erddi a phadogau.

Cynllun sgematig o’r Mot c.1320, yn dangos tiroedd bwrdais a nodweddion eraill. Mae’n annhebygol iawn bod yr holl diroedd bwrdais yn gyfannedd ar yr adeg hon.

Mae cyfres o wrthgloddiau isel, sy’n olion tiroedd bwrdais a llwyfannau tai anghyfannedd mae’n debyg, wedi cael eu nodi mewn coetir yn union i’r gogledd o’r eglwys ym Mhlanhigfa’r Eglwys. Mae data LiDAR cydraniad dau fetr yn awgrymu bod yna ragor o lwyfannau tai/leiniau adeiladu ar ochr arall y ffordd i’r eglwys, i gyfeiriad y de-ddwyrain.

Mae map degwm 1839 o’r Mot yn darlunio pentref bychan iawn ac iddo glwstwr bach o adeiladau o amgylch y gyffordd T. Ychydig o newid a fu rhwng yr arolwg degwm a chyhoeddi’r map Ordnans 1:2500 yn 1889. Mewn gwirionedd, digwyddodd bron yr holl waith datblygu yn y pentref ers yr arolwg degwm yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif. Mae’r datblygiad hwn, gan mwyaf, yn cynnwys tai llinol gyferbyn â’r eglwys, ystad fach o dai gyferbyn â’r castell, ac adeiladau fferm modern ar fferm Awel y Coed, sydd i’r de o’r eglwys.

Cynllun sgematig o’r Mot c.1320, yn dangos tiroedd bwrdais a nodweddion eraill. Mae’n annhebygol iawn bod yr holl diroedd bwrdais yn gyfannedd ar yr adeg hon.

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru