Piercefield, Sir Fynwy: Canlyniad Arolwg Newydd

Ken Murphy and Liz Whittle

Piercefield yw un o’r tirweddau mwyaf nodedig a gogoneddus o’r ddeunawfed ganrif ym Mhrydain, ac mae hi’r un mor bwysig â Downton yn Lloegr a’r Hafod yng Nghymru. Canlyniad yr arolwg a wnaed yn ddiweddar gan un o’r awduron (Ken Murphy) o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, ar gyfer Cadw ac Ardal o Harddwch Naturiol Arbennig Dyffryn Gwy, oedd creu darlun llawer mwy cymhleth o’r tirlunio yno nag a oedd yn hysbys cynt. Mae i’r datblygiad hynod gyffrous hwn oblygiadau eang o ran dehongli Piercefield ei hun a’r mudiad pictwrésg ehangach.

Crëwyd Rhodfeydd Piercefield i roi pleser i’r perchnogion, eu cyfeillion a’u hymwelwyr. Cynyddodd eu poblogrwydd ymysg y nifer cynyddol o dwristiaid a ymwelodd â rhan isaf dyffryn Gwy tua diwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r ganrif ddilynol. Rhed y rhodfeydd ar hyd glannau gorllewinol Afon Gwy rhwng Cas-gwent a phwynt dair milltir i’r de o Dyndyrn. Yn fuan ar ôl 1752, y cyntaf i greu’r rhodfeydd, y golygfannau, yr hafdai a’r nodweddion cysylltiedig eraill oedd Valentine Morris ac mae’n debyg iddynt gael eu cwblhau i raddau helaeth erbyn 1760 pan ymwelodd Edward Knight â’r ystâd. Erbyn y 1780au, cawsai’r rhodfeydd eu hesgeuluso, ond ym 1794 cawsant eu hailagor gan berchennog newydd, George Smith, a’u newid mewn ffordd sy’n adlewyrchu ffordd ychydig yn wahanol o werthfawrogi’r dirwedd, a’r newid yn y ffordd y câi’r teithiau cerdded eu gwneud. Caewyd y rhodfeydd i’r cyhoedd yn y 1850au.

Mae’r arolwg wedi dadlennu dwy agwedd sy’n cymhlethu pethau ymhellach. Yn gyntaf, mae’n amlwg bod yno rwydwaith cyfan o lwybrau, golygfannau a digwyddiadau pictwrésg, ac nid un llwybr llinol yn unig (er mai hynny, o hyd, yw prif elfen y tirlunio). Dyna’r agwedd o ran gofod. Yn ail, mae’r agwedd o ran amser. Mae’n amlwg bellach fod dau gyfnod mawr o dirlunio, yn hytrach nag un, wedi bod yn Piercefield, y cyntaf yng ngofal Valentine Morris ganol y ddeunawfed ganrif a’r ail gan George Smith yn y 1790au.

Cynllun Valentine Morris oedd i’r teithiau cerdded redeg o’r gogledd i’r de. Fel rheol, byddai twristiaid yn ymweld yn gyntaf â’r olygfan ar ben y graig uchel yn y Wyndcliff, i’r gogledd o Piercefield, ac yn edmygu’r panorama gwych ar draws afonydd Gwy a Hafren, a siroedd Caerloyw, Gwlad-yr-haf a Dyfnaint y tu hwnt iddynt. Wrth ymuno â phrif rodfa Piercefield deuai’r ymwelwyr ar draws cyfres o olygfannau a gawsai eu hadeiladu – y Deml neu’r Sedd Wythochrog, Naid y Cariadon, y Sedd Tsieineaidd, Ogof y Cawr, y Sedd Hanner-Ffordd, yr Olygfa Ddwbl, y Groto, y Llwyfan a’r Gilfach, a llu o seddau a mannau gorffwys rhyngddynt. Yno, caent eu gwahodd i orffwys ac edmygu’r dirwedd. Rhwng y golygfannau yr oedd llwybr cul, troellog a phrin ei beirianwaith i bobl gerdded ar hyd-ddo y naill ar ôl y llall. Yr oedd rhai golygfannau ar hyd llwybrau ochr byr, gan greu syndod a theimlad o gyrraedd a chyflawni. Yr oedd is-lwybrau yno hefyd. Arweiniai rhai ohonynt at olygfannau pellach, rhai ohonynt i lawr at yr afon lle’r oedd glanfa i gychod a rhodfa ar hyd y lan, ac un i Faddon Oer, sydd bellach yn adfail. Ar un o’r is-lwybrau daeth yr arolwg o hyd i’r hyn a oedd, mae’n debyg, yn bâr o byllau dwr y rhedai rhodfa ar hyd brig eu hargae sylweddol. O dano yr oedd hafn greigiog a chul a all fod wedi bod yn rhaeadr.

Wrth y Groto, sydd o fewn olion gwrthglawdd caer o’r Oes Haearn, y gwelir cymhlethdod cynllun y rhodfa wreiddiol ar ei orau. Byddai’r ymwelydd wedi dod yma o’r gorllewin ar ôl cerdded heibio i Blasty Piercefield ond heb ei weld, ac yna wedi troi’n sydyn tua’r gogledd i gyrraedd adeiladwaith tanddaearol bach y Groto. Ar ôl eistedd ar sedd yn y Groto i edmygu’r olygfa gul a gawsai ei chreu’n ofalus tua’r dwyrain, fe âi’r ymwelydd ymlaen tua’r gogledd nes cyrraedd llwyfan o’r enw ‘Above Pierce Wood’ neu ‘Mount Pleasant’ a gweld golygfeydd helaeth tua’r gogledd i fyny afon Gwy. Yna, fe âi ymlaen tua’r de ar hyd teras islaw’r Groto cyn troi tua’r gorllewin. Am bellter byr iawn o ryw 10m, byddai wedi cael cipolwg o bell ar du blaen y plasty, a dyna’r unig le ar y rhodfa gyfan y gellid gweld y plasty ohono. Yna, byddai’n mynd yn ei flaen.

Map o’r Groto a’r cyffiniau

Yn y 1790au fe newidiwyd cryn dipyn ar y llwybrau ac ar adeiladwaith rhannau o’r rhodfeydd. Bellach, ar ymweliadau mwy a mwy o’r cyhoedd yr oedd y pwyslais. Yn hytrach na chael eu gollwng o gwch neu goets ym mhen gogleddol y rhodfa, fe gychwynnent gan mwyaf yn y pen deheuol – pen Cas-gwent. Sythwyd rhai o ddarnau mwyaf troellog y brif rodfa. Cafodd y golygfannau ar y llwybrau ochr eu plethu i’r brif rodfa a bu’r adeiladu mwy sylweddol yn fodd i ymwelwyr gerdded ochr yn ochr â’i gilydd. I bob golwg, cynlluniwyd i’r newidiadau fod yn fodd i’r dirwedd gael ei gweld fel cyfres o olygfeydd a fyddai’n cyson newid, ond fe gadwyd llawer o’r golygfannau gwreiddiol.

Wrth y Groto gwnaed newidiadau mawr i’r rhodfa gan golli’r elfen gudd a’r elfennau y cynlluniwyd yn wreiddiol iddynt synnu’r ymwelwyr a ddeuai atynt o’r gogledd. Bellach, deuai’r ymwelydd ar hyd llwybr mynediad newydd o’r de gan weld Plasty Piercefield yn y pellter. Yna, âi’r rhodfa drwy brif fynedfa’r gaer o’r Oes Haearn ac ymlaen i’r Groto. Rhoddwyd y gorau i’r llwyfan gwylio a rhodfa’r teras, a dilynai’r ymwelydd lwybr digon syth tua’r gorllewin.

Er bod llawer o’r golygfannau a grëwyd yn dal yno, maent wedi dirywio i wahanol raddau. Mae olion y Gilfach yn cynnwys mainc fodern ddi-raen, ond mae’r golygfeydd i lawr i Gas-gwent a thu hwnt yn dal mor agored a dramatig ag yr oeddent yn y ddeunawfed ganrif. Er bod yr adeiladwaith enfawr o gerrig yn y Llwyfan bron yn gyfan o hyd, mae’r coed wedi cuddio’r golygfeydd. O’r Groto, sy’n mynd â’i ben iddo, nid oes yr un dim i’w weld. Gwell yw hanes Ogof y Cawr a Naid y Cariadon ac er bod y cerflun o’r cawr wedi hen fynd, mae elfennau o’r adeiladwaith a’r golygfeydd yn dal i’w gweld yn y naill le a’r llall.

Er bod 250 o flynyddoedd wedi gadael eu hôl, mae cynllun a bwriadau Valentine Morris a George Smith wedi goroesi a gellir annog pawb yn gynnes, boed hwy â diddordeb yn y pictwrésg neu beidio, i ymweld â’r Wyndcliff (lle mae Nyth yr Eryr, yr olygfan ddramatig bresennol, yn ychwanegiad diweddarach) ac yna fynd am dro’n hamddenol ar hyd prif Rodfa Piercefield.

Llun modern o Ogof y Cawr

Adroddiad llawn mewn ffurf PDF, Saesneg yn unig (yn agored mewn ffenestr newydd).

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru