SANCLÊR

SANCLÊR

CRYNODEB

Sefydlodd yr Eingl-Normaniaid gastell yn Sanclêr ar ddechrau’r ddeuddegfed ganrif, yn ystod eu concwest o Dde-orllewin Cymru. Datblygodd anheddiad bach, a oedd yn cael ei warchod gan amddiffynfeydd pridd a phren, y tu allan i gatiau’r castell. Ymledodd yr anheddiad bob ochr i’r ffordd sy’n rhedeg i’r gogledd tuag at y priordy, a oedd hefyd yn eglwys y plwyf. Rhoddwyd siarter tref i Sanclêr yn 1393. Parhaodd y dref i fod yn fach, ac o ganol y ddeunawfed ganrif ymlaen, symudodd ei ffocws 1 km i’r gogledd o’i chraidd canoloesol. Mae ymchwiliadau graddfa fach wedi dangos bod dyddodion canoloesol a diweddarach wedi goroesi yng nghraidd y dref hanesyddol.

FFEITHIAU ALLWEDDOL

Statws: Siarter tref 1393.

Maint: Anhysbys, ond bach.

Archaeoleg: Mae cloddiad a sawl darn llai o waith wedi amlygu presenoldeb dyddodion archaeolegol canoloesol.

LLEOLIAD

Saif Sanclêr yn ne Sir Gaerfyrddin (SN 281152), a hynny ar gydlifiad Afon Taf ac Afon Cynin yn eu man pontio isaf. Mae’r afonydd yn llanw hyd at Sanclêr, ac eto dim ond cychod bach a all eu mordwyo. Mae tref fach Talacharn wedi’i lleoli ar Afon Taf, a hynny 6 km i lawr yr afon o Sanclêr. Mae Afon Taf, Afon Tywi ac Afon Gwendraeth yn cydgyfarfod i’r de o Dalacharn, gan ffurfio aber eang. Mae tref Caerfyrddin wedi’i lleoli ar Afon Tywi a thref Cydweli ar Afon Gwendraeth.

HANES

Mae’r cofnodion am dref a chastell Sanclêr yn wael. Yn yr un modd â lleoliadau eraill yn y rhanbarth, mae’n debygol bod castell wedi cael ei sefydlu yn Sanclêr yn ystod y goncwest Eingl-Normanaidd yn Ne-orllewin Cymru ar ddechrau’r ddeuddegfed ganrif. Mae’r cyfeiriad dogfennol cyntaf ato yn 1153, pan fo Brut y Tywysogion yn cofnodi bod ‘Rhys ap Gruffudd, a llu enfawr gydag ef, wedi anrheithio castell Ystrad Cyngen’ (addasiad modern). Yna, newidiodd y rheolaeth ar y castell bob yn ail rhwng y Cymry a’r Saeson, a hynny tan 1230, pan gafodd ei rhoi i William Marshall yr ieuengaf. Roedd y teulu Marshall yn adeiladwyr cestyll rhagorol, ac felly mae’n debygol bod Marshall yr ieuengaf wedi disodli’r castell pridd a phren â chastell carreg. Mae’n ymddangos bod y castell wedi dadfeilio rywbryd rhwng canol a diwedd y drydedd ganrif ar ddeg.

Sefydlwyd priordy Clywinaidd yn Sanclêr rhwng 1147 ac 1184, a’i gysegru i Sant Clarus a Mair Magdalen. Roedd yr eglwys yn gweithredu fel priordy ac eglwys blwyf. Diddymwyd y tua 1414. Mae’r eglwys sy’n bodoli yn ganoloesol yn bennaf, gyda pheth gwaith adfer wedi’i wneud yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Awgrymwyd bod y ffaith iddi gael ei chysegru i Sant Clarus yn dynodi sylfaen ganoloesol gynnar.

Crybwyllir y dref am y tro cyntaf yn 1248, ond mae’n debygol bod anheddiad wedi datblygu y tu allan i gatiau’r castell yn fuan ar ôl ei sefydlu. Rhoddwyd siarter tref i Sanclêr yn 1393. Nid oes gwaith ymchwil trylwyr wedi cael ei wneud i hanes canoloesol a modern cynnar Sanclêr, ond gwyddys i’r dref barhau i weithredu fel porthladd bach, gyda llongau yn docio yn y cei wrth ymyl y bont, ymhell i’r ugeinfed ganrif. Y fasnach longau yw un o’r agweddau y mae iddi well dogfennaeth am y Sanclêr ganoloesol, ac mae’r cofnodion yn awgrymu porthladd ffyniannus; yn 1297, gorchmynnwyd i holl longau Sanclêr a oedd yn pwyso 40 tunnell neu fwy adrodd i’r brenin yn Plymouth, ac yn 1326, gorchmynnwyd i longau 50 tunnell a mwy adrodd yn Portsmouth er mwyn paratoi i ymosod ar y Ffrancwyr.

Yn 1763, o ganlyniad i sefydlu ymddiriedolaeth dyrpeg i uwchraddio’r ffordd o Gaerfyrddin i Sanclêr ac ymlaen i Dafarn-sbeit, symudodd canolbwynt y dref o’i chraidd canoloesol o amgylch y castell a’r eglwys, i leoliad c.1 km i’r gogledd. Yn dilyn agor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin a Hwlffordd yn 1854, gwthiwyd canolbwynt y dref hyd yn oed ymhellach i’r gogledd o’i chraidd hanesyddol.

MORFFOLEG

Mae’r Sanclêr ganoloesol wedi’i lleoli yn nhro cydlifiad Afon Taf ac Afon Cynin, gyda dim ond ochrau gogleddol a gogleddol-orllewinol y dref heb eu ffinio â dŵr. Felly, er ei fod ar dir isel, mae’n lleoliad ac iddo amddiffyniad naturiol da.

Cynllun dychmygol o dref Sanclêr fel yr oedd, o bosibl, pan oedd ar ei mwyaf yn y cyfnod canoloesol, c.1320.

Mae’r castell yn cynnwys mwnt sylweddol, gyda beili i’r de ohono. Yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, cafodd y beili ei glirio a’i lefelu; er gwaethaf hyn, canfu arolwg geoffisegol sylfeini cerrig claddedig. Mae gwaith carreg hefyd wedi cael ei nodi ar y mwnt.

Roedd y craidd cychwynnol hwn i’r dref yn fach iawn, ac er nad oes yna dystiolaeth ddogfennol ar gael i nodi ei fod yn cael ei amddiffyn, mae morffoleg a thopograffi yn dynodi ei fod; profwyd hyn trwy waith cloddio. Mae llinell yr amddiffynfeydd wedi hen sefydlu ar ochr orllewinol y dref, ond yn llai felly yn y gogledd, sy’n golygu bod gât i’w chael, siŵr o fod, lle mae’r briffordd yn mynd i mewn i’r dref heddiw. Mae’r llinell amddiffynnol i’r dwyrain a’r de yn destun cryn ddyfalu – efallai mai’r afonydd oedd y brif elfen amddiffynnol yn y mannau hyn. Mae morffoleg y dref yn awgrymu bod ardal amddiffynedig y dref wedi cael ei hestyn o leiaf unwaith, ac o bosibl ddwywaith. Mae tystiolaeth o fapiau hanesyddol yn dangos tiroedd bwrdais ar y naill ochr a’r llall i’r briffordd gogledd/de trwy’r dref (Stryd y Bont a’r Stryd Fawr). Mae yna ansicrwydd yn bodoli ynghylch a oedd yna ddatblygiad canoloesol yn estyn mor bell i’r gogledd ag Eglwys y Santes Fair Magdalen, a thu hwnt.

Tybir bod pont wedi bod yn lleoliad y bont bresennol o flynyddoedd cynharaf y dref gan ei bod ar y prif lwybr i’r gorllewin o Gaerfyrddin i Dalacharn, Dinbych-y-pysgod a Phenfro.

Roedd Eglwys y Santes Fair Magdalen (a’r priordy canoloesol) wedi’u lleoli i’r gogledd o graidd y dref ganoloesol, ac efallai wedi’u gwahanu oddi wrthi’n wreiddiol gan dir annatblygedig. Roedd yr adeiladau clwystrol wedi’u lleoli i’r de o’r eglwys.

Fel y nodwyd uchod, symudodd canolbwynt y dref i’r gogledd o leiaf o ganol y ddeunawfed ganrif ymlaen. Nid oes yna dystiolaeth o feddiannaeth ganoloesol yn yr ardaloedd gogleddol hyn.

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru