TYDDEWI

TYDDEWI

CRYNODEB

Mae’r eglwys gadeiriol yn tra-arglwyddiaethu ar Dyddewi. Mae’n debygol bod anheddiad wedi datblygu yn y cyfnod canoloesol cynnar i wasanaethu’r gymuned grefyddol, ond nid yw ei leoliad na’i gymeriad yn hysbys. Yn 1115, rhoddwyd siarter tref i Dyddewi, ac erbyn 1326 roedd 130 o fwrdeisiaid yn byw yn y dref. Y cyfnod hwn oedd uchafbwynt y dref hyd nes ei hadferiad yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

FFEITHIAU ALLWEDDOL

Statws: Siarter tref 1115, marchnad ddwywaith yr wythnos, dwy ffair flynyddol.

Maint: 1326 130 o fwrdeisiaid

Archaeoleg: Dim ymchwiliadau archaeolegol arwyddocaol.

LLEOLIAD

Mae tref Tyddewi wedi’i lleoli mewn man cymharol gysgodol yng ngorllewin Sir Benfro (SM 753 253). Mae’n ddinas, gyda’r eglwys gadeiriol yn ei chlos muriog yn nyffryn Afon Alun, a strydoedd a thai y dref i’r de a’r dwyrain.

HANES

Mae yna gysylltiad annatod rhwng hanes tref Tyddewi (dinas heddiw) a’r eglwys gadeiriol. Efallai bod cymuned Gristnogol wedi cael ei sefydlu yn Nhyddewi mor gynnar â’r chweched ganrif. Mae’n debygol iawn bod anheddiad sifil bach wedi datblygu i gefnogi’r gymuned Gristnogol ganoloesol gynnar hon, ond ni wyddys beth oedd cymeriad anheddiad o’r fath, na lle oedd ei leoliad.

Yn ystod eu concwest yn Ne-orllewin Cymru ar ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg/ddechrau’r ddeuddegfed ganrif, sefydlodd yr Eingl-Normaniaid gastell 300 m i’r gorllewin o’r eglwys gadeiriol. Nid oes unrhyw hanes yn bodoli mewn perthynas â’r castell, er bod rhai awduron o’r farn iddo gael ei adeiladu gan Gwilym Goncwerwr pan ymwelodd yn 1081.

Yn 1115, rhoddodd Harri I, brenin Lloegr, siarter tref i Dyddewi, ac yn 1123 datganodd y Pab Callixtus II fod dau bererindod i Dyddewi yn cyfateb i un i Rufain. Heb os, arweiniodd y ddau ddigwyddiad hyn at ddatblygiad masnachol a gweinyddol cyflym yn y dref, er na chofnodir ei phoblogaeth yn y ddeuddegfed ganrif na’r drydedd ganrif ar ddeg. Yn 1281, rhoddodd yr Esgob Bek yr hawl i’r dref gynnal marchnad ddwywaith yr wythnos a dwy ffair flynyddol. Sefydlodd Ysbyty Ffynnon Wen i’r de o’r dref hefyd. Cofnodwyd 130 o fwrdeisiaid yn 1326, Saeson yn bennaf. Mae’r broses a gofnodwyd yr adeg hon o isrannu tiroedd bwrdais yn hanner lleiniau a chwarter lleiniau yn dystiolaeth o dref lewyrchus, hirsefydlog. Hwn, fodd bynnag, oedd uchafbwynt y dref ganoloesol, ac yn yr un modd â chymunedau eraill ledled Ewrop, byddai wedi dioddef o gwymp yn y boblogaeth yn ystod blynyddoedd canol y bedwaredd ganrif ar ddeg. Parhaodd y dref i fod mewn cyflwr dirywiedig tan yn gymharol ddiweddar – mae map John Speed o 1610 yn dangos tua 50 o dai, ac mae’n nodi mai ‘few inhabitants’ a oedd gan Dyddewi.

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cafodd lleiniau gwag eu llenwi â thai newydd, ac yn yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain, codwyd tai newydd ac adeiladau eraill ar gyrion deheuol a dwyreiniol y craidd hanesyddol.

MORFFOLEG

Map yn dangos dinas Tyddewi fel yr oedd, o bosibl, pan oedd ar ei mwyaf yn y cyfnod canoloesol, c.1320.

Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn ei chlos muriog mewn lleoliad cysgodol yn nyffryn Afon Alun. Saif y dref/ddinas i’r de a’r dwyrain o’r dyffryn, ar dir cymharol wastad. Roedd y dref yn cynnwys pedair prif stryd, sef Stryd yr Afr, Heol Non, y Stryd Fawr a Tower Hill, pob un ohonynt yn cydgyfarfod ar safle marchnad drionglog â’i chroes dref/farchnad. I ddechrau, datblygodd y dref yn naturiol o amgylch Tower Hill ac ochr ogleddol Stryd yr Afr. Mae dadansoddiad o gynllun y dref yn datgelu datblygiad eilaidd ffurfiol, gyda thiroedd bwrdais wedi’u sefydlu mewn blociau ar hyd Heol Non a’r Stryd Fawr, ac yna Heol y Bryn a Stryd Newydd yn ffurfio lonydd cefn i’r lleiniau hyn. Mae’n debyg bod y farchnad drionglog wedi cael ei sefydlu ar yr un pryd. Mae mapiau hanesyddol yn dangos bod y farchnad yn arfer bod yn lletach ac yn hirach. Roedd yr elfen gynlluniedig hon o’r dref yn sicr wedi cael ei sefydlu erbyn dechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg ac, yn debygol, erbyn diwedd y ddeuddegfed ganrif/dechrau’r drydedd ganrif ar ddeg.

Er gwaethaf y diboblogi yn y dref yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg, parhaodd patrwm y tiroedd bwrdais am sawl canrif, a chafodd ei ddarlunio ar fapiau o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Byddai’n hawdd cynnwys y 130 o fwrdeisiaid a gofnodwyd yn 1326, sy’n cyfateb yn fras i 130 o diroedd bwrdais, yn y pedair stryd a grybwyllwyd uchod.

Nid oes yna unrhyw arwydd bod y dref erioed wedi cael amddiffynfeydd.

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru