DINBYCH-Y-PYSGOD

DINBYCH-Y-PYSGOD

CRYNODEB

Sefydlwyd tref yn Ninbych-y-pysgod yn dilyn y goncwest Eingl-Normanaidd yn Ne-orllewin Cymru ar ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg/ddechrau’r ddeuddegfed ganrif. Yn dilyn cyfnod o dwf naturiol, sefydlwyd y strydoedd ar batrwm grid, a’r rheiny’n cael eu hamgáu gan fur tref, y mae’r rhan helaeth ohono yn bodoli hyd heddiw. Yn yr un modd â threfi eraill yn y rhanbarth, dirywiodd Dinbych-y-pysgod o ganol y bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen, ond, serch hynny, roedd yn anheddiad cyfoethog, a gwelir tystiolaeth o’r cyfoeth hwn yn yr eglwys blwyf ysblennydd sy’n dyddio o ddiwedd yr Oesoedd Canol. Mae ymchwiliadau graddfa fach wedi datgelu’r potensial fod olion archaeolegol sylweddol wedi goroesi.

FFEITHIAU ALLWEDDOL

Statws: Siarter tref, marchnad wythnosol a ffair flynyddol.

Maint: 1320au-1330au, 252 o diroedd bwrdais a thros 130 o dalwyr rhent eraill.

Archaeoleg: Sawl mantoliad, briff gwylio a chloddiad graddfa fach.

LLEOLIAD

Mae tref Dinbych-y-pysgod wedi’i lleoli mewn man cysgodol ar ochr orllewinol Bae Caerfyrddin yn ne Sir Benfro (SN 136 005); mae traethlin sy’n wynebu’r gogledd yn darparu harbwr naturiol da. Saif Castell Dinbych-y-pysgod ar guldir creigiog, ac mae’r dref ar lwyfandir ychydig yn uwch yn union i’r gorllewin. Mae yna gysylltiadau ffyrdd da i’r gorllewin a’r gogledd i drefi canoloesol Penfro a Hwlffordd.

HANES

Mae cerdd o’r ddegfed ganrif, ‘Etmic Dinbych’, yn dynodi presenoldeb anheddiad yn Ninbych-y-pysgod, ond ni wyddys ar ba ffurf yr oedd. Sefydlodd yr Eingl-Normaniaid gastell yn Ninbych-y-pysgod yn ystod eu concwest yn Ne-orllewin Cymru ar ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg/ddechrau’r ddeuddegfed ganrif, er na cheir y cyfeiriad cyntaf ato tan 1151. Byddai anheddiad wedi datblygu’n gyflym y tu allan i’r castell ac o amgylch yr harbwr; sonnir am borthladd mewn dogfennau o ddechrau’r ddeuddegfed ganrif. Sefydlwyd eglwys blwyf y Santes Fair yn y ddeuddegfed ganrif.

Map yn dangos Dinbych-y-pysgod fel yr oedd, o bosibl, yn 1130. Sylwch fod y clawdd amddiffynnol sy’n diogelu’r dref yn gwbl ddychmygol, ond mae y tu hwnt i bob amgyffred na fyddai tref mor bwysig â Dinbych-y-pysgod wedi meddu ar amddiffynfeydd.

Yn 1187, ymosododd lluoedd o Gymry dan arweiniad Maelgwn ap Rhys ar y dref a’i llosgi. Yn dilyn yr ymosodiad hwn, dadleuwyd bod pobl y dref wedi codi clawdd amddiffynnol â phalisâd pren, ac y dilynwyd llinell y clawdd hwn pan godwyd amddiffynfeydd o furiau cerrig rywbryd yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg. Cryfhawyd y rhain sawl gwaith, ac yn fwyaf arbennig gan Jasper Tudor yn yr 1450au. Darparwyd dwy brif gât, Porth y De a Phorth y Gogledd, gyda thrydedd gât, Porth Whitesands, yn arwain at draeth ger y castell, a phedwaredd yn rhoi mynediad i’r harbwr. Mae’r dystiolaeth ddogfennol braidd yn ddryslyd, ond ymddengys bod yna ddwy gât harbwr, un uchaf ac un isaf, ac roedd yr isaf yn agos at dŵr carreg sylweddol a safodd ar ei draed tan y ddeunawfed ganrif, ac a elwir gan rai awdurdodau yn Dŵr yr Harbwr.

Mae siarter gynharaf hysbys y dref yn dyddio o c.1290, ac addaswyd ei hawliau mewn siarteri diweddarach, gan gynnwys yr hawl i gynnal marchnad wythnosol a ffair flynyddol.

Nid oes cofnod ar gael o faint a phoblogaeth Dinbych-y-pysgod yn y ddeuddegfed ganrif. Yn 1245, roedd yna 212½ o diroedd bwrdais; yn 1307 roedd y nifer yn 241, ynghyd â’r rhenti a delid gan chwe bwrdeisiwr de vento (bwrdeisiaid nad oedd ganddynt yr hawliau llawn a oedd gan fwrdeisiaid eraill) ac ugain o dalwyr rhent eraill; ac erbyn yr 1320au-30au roedd yna 252 o diroedd bwrdais, 36 o fwrdeisiaid de vento a hyd at 100 o dalwyr rhent eraill. Mae ffynonellau dogfennol yn cofnodi dirywiad yn y boblogaeth yn dilyn y Pla Du ym mlynyddoedd canol y bedwaredd ganrif ar ddeg, ac erbyn 1585 dim ond 187 o’r 256 o diroedd bwrdais a oedd ar gael a gâi eu rhentu. Mae’n debygol bod y gweddill yn lleiniau gwag.

Roedd bron pob un o’r tiroedd bwrdais wedi’u lleoli y tu mewn i amddiffynfeydd y dref, ond roedd datblygiad hirgul wedi tyfu y tu allan i Borth y Gogledd yn Norton, y tu allan i Borth y De, a’r tu allan i Borth Whitesands (a elwid hefyd yn Borth Laston), lle, yn 1434-5, y dinistriwyd chwe thir bwrdais gan y môr yn y rhan a elwid yn ‘dref y dwyrain’.

Datblygodd Eglwys y Santes Fair o adeilad cymharol fach yn y drydedd ganrif ar ddeg, a oedd yn cynnwys corff, cangell, ac ystlys ddeheuol, i fod, erbyn diwedd y bymthegfed ganrif, yn un o’r eglwysi plwyf mwyaf a mwyaf godidog yng Nghymru, gan fod yn dyst i gyfoeth y dref yn y cyfnod canoloesol diweddarach, a hynny er gwaethaf y dirywiad yn y boblogaeth o ganol y bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen. Cafodd coleg a sefydlwyd i’r gorllewin o’r eglwys yn 1496 ei ddiddymu yn 1547. Gryn bellter o’r dref i’r gogledd safai dau ysbyty, y ddau wedi’u sefydlu yn y drydedd ganrif ar ddeg: ysbyty’r Santes Fair Magdalen (neu’r ‘Maudlins’) ar gyfer gwahangleifion, ac ysbyty Sant Ioan ar gyfer y tlawd a’r gwael. Dywedwyd bod elusendy, a oedd o bosibl yn dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg, wedi’i leoli ar y Stryd Fawr. Safai dau gapel yn y dref: capel morwyr Sant Julian, a oedd wedi’i leoli ar y pier carreg, a chapel ar Ynys y Santes Catrin.

Masnach forwrol oedd sylfaen cyfoeth Dinbych-y-pysgod, ac felly roedd cael harbwr diogel yn hanfodol. Roedd yna bier carreg yno yn y drydedd ganrif ar ddeg, a pharhaodd i sefyll, a chael ei addasu llawer yn ôl pob tebyg, tan 1842, pan gafodd ei ymgorffori mewn adeiladwaith llawer mwy. Cafodd Capel Sant Julian ar y pier ei ddymchwel yn ystod y gwaith adeiladu hwn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Gwelodd Dinbych-y-pysgod ddirywiad difrifol o leiaf o’r ail ganrif ar bymtheg ymlaen. Yn 1676, adroddwyd bod, ‘the port and towne of Tenby is very near come to utter ruine and desolation; theire houses fallen down, the peere for preserving shipping in danger to fall into decay’. Cofnododd cyfrifiad 1810 boblogaeth o ddim ond 800. Mae map yn 1809 gan Thomas Budgen yn dangos bod tai i’w cael yn llawer o’r rhannau hynny o Ddinbych-y-pysgod a oedd y tu mewn i’r muriau, ond bod y rhan helaeth o Lower Frog Street, a rhannau o Upper Frog Street a Stryd y Santes Fair, yn wag. Mae’n demtasiwn awgrymu bod yr ardaloedd hyn yn anghyfannedd ers canol y bedwaredd ganrif ar ddeg. Roedd Norton wedi datblygu i fod yn faestref linellog hir, ond i’r gorllewin o’r dref roedd yna gaeau gyda dim ond un neu ddau o dai yn cael eu dangos ynddynt ar fap Thomas Budgen. Fodd bynnag, ugain mlynedd yn unig ar ôl cyfrifiad 1810, roedd y boblogaeth yn 2,100 ac roedd Dinbych-y-pysgod wedi ei hailddyfeisio ei hun yn gyrchfan i dwristiaid

MORFFOLEG

Mae Castell Dinbych-y-pysgod yn sefyll ar guldir calchfaen creigiog, ac mae’r dref i’r gorllewin ohono. Ar yr ochr ogleddol mae yna harbwr naturiol da, ac mae clogwyni môr yn darparu amddiffyniad naturiol i’r gogledd, i’r dwyrain ac i’r de. Tybir bod yr anheddiad o’r ddegfed ganrif a gofnodir yn Etmic Dinbych wedi’i leoli ar y culdir creigiog a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach ar gyfer y castell, ond nid oes yna sicrwydd ynghylch hyn.

Cynllun dychmygol o Ddinbych-y-pysgod yn 1320.

Mae’r stryd grom, Stryd Sant Julian, ynghyd â Heol y Bont, a sawl lôn a thramwyfa afreolaidd gul sydd ar dir ar oleddf graddol yn union i’r gorllewin o’r castell ac i’r de o’r harbwr, yn ffurfio rhan gynharaf tref Dinbych-y-pysgod. Roedd hwn yn anheddiad heb ei gynllunio a dyfodd yn naturiol. Mae rhai awduron o’r farn ei fod yn anheddiad cyn Eingl-Normanaidd, sy’n golygu y byddai, pe byddai hynny’n wir, yn unigryw yn Ne-orllewin Cymru. Mae’n fwy tebygol, efallai, ei fod wedi datblygu yn dilyn y goncwest Eingl-Normanaidd ar ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg a dechrau’r ddeuddegfed ganrif. Nid oes tystiolaeth ddogfennol, archaeolegol na thopograffig ar gael sy’n nodi bod yr anheddiad cynnar hwn erioed wedi cael ei amddiffyn, ond mae y tu hwnt i amgyffred na fyddai wedi cael ei amddiffyn, a byddai wedi bod yn fater syml darparu gwrthglawdd a ffos iddo, yn rhedeg gogledd/de o’r o glogwyn i glogwyn.

Roedd creu marchnad (Sgwâr Tudur), sylfaenu Eglwys y Santes Fair a sefydlu tiroedd bwrdais bob ochr i’r farchnad a’r Stryd Fawr, yn ail gam datblygu cynlluniedig yn ystod y ddeuddegfed ganrif.

Trydydd cam cynlluniedig llawer mwy eglur oedd creu patrwm grid o strydoedd gyda thiroedd bwrdais ar y naill ochr a’r llall iddynt – Stryd y Santes Fair ac Upper a Lower Frog Street. Ar yr un pryd, adeiladwyd cylch amddiffynnol newydd, ac mae muriau’r dref ganoloesol, sy’n bodoli o hyd, yn dilyn cwrs y cylch hwn. Awgrymwyd bod y cylch amddiffynnol hwn, yn wreiddiol, yn cynnwys clawdd pridd gyda phalisâd pren ar ei ben, a chafodd ei godi yn fuan ar ôl llosgi’r dref yn 1187. Byddai’r amddiffynfeydd hyn wedi diogelu tref a oedd â thua 250 o diroedd bwrdais, gan olygu bod Dinbych-y-pysgod yn dref sylweddol ei maint yng Ngorllewin Cymru ym mlynyddoedd olaf y ddeuddegfed ganrif. Er nad yw’n amhosibl bod gan bobl y dref ar yr adeg hon uchelgais i weld Dinbych-y-pysgod yn tyfu, mae’n bosibl nad oedd ganddynt yr adnoddau i wneud hynny, ac felly mae’n fwy tebygol bod y gwaith o gynllunio’r strydoedd ar batrwm grid a chreu amddiffynfeydd yn perthyn i’r drydedd ganrif ar ddeg.

Yn y cyfnod canoloesol, roedd y dref wedi’i chyfyngu i’r ardal y tu mewn i furiau’r dref. Yr unig eithriadau oedd tiroedd bwrdais y tu allan i Borth y Gogledd yn Norton, a hefyd yn ‘nhref y dwyrain’ y tu allan i Borth Whitesands, lle dinistriwyd chwe llain tir bwrdais gan y môr yn 1434-5. Mae union leoliad ‘tref y dwyrain’ yn aneglur, ond mae’n debyg bod y tiroedd bwrdais yn agos at y traeth i’r de o’r castell. Yn wir, er y byddai’n rhaid i Borth Whitesands, ‘Tŵr yr Harbwr’ a Phorth Isaf yr Harbwr fod yn glwstwr, fwy na thebyg, uwchben yr harbwr, yn agos at y castell, mae union leoliadau’r tri yn aneglur gan nad oes dim ohonynt wedi goroesi.

Mae mwyafrif yr adeiladau domestig yn y dref yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Yr eithriadau yw Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd ac adeiladau cyfagos o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd i’r gogledd o Sgwâr Tudur ac yn cynnwys elfennau canoloesol hwyr a modern cynnar.

Yn y cyfnod modern cynnar, adeiladwyd tai bob ochr i’r ffordd sy’n arwain allan o Borth y Gogledd yn Norton, ond ni chafwyd datblygiad helaeth y tu allan i furiau’r dref tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru