TREFILAN

TREFILAN

CRYNODEB

Bellach, mae Trefilan yn cynnwys olion castell canoloesol, eglwys y plwyf, yr hen ysgol, yr hen reithordy a grŵp o adeiladau fferm modern mawr, heb fawr ddim i nodi bod i’r lle fwy o bwysigrwydd ar un adeg. Datblygodd i fod yn anheddiad Cymreig ar ddechrau’r drydedd ganrif ar ddeg, ond nid oedd yn dref ffurfiol ac ni fu erioed yn fawr. Mae ei hanes diweddarach yn hollol anhysbys. Nid oes unrhyw ymchwiliadau archaeolegol wedi cael eu cynnal yn Nhrefilan.

FFEITHIAU ALLWEDDOL

Statws: Ddim yn dref.

Maint: Anhysbys.

Archaeoleg: Dim.

LLEOLIAD

Saif Trefilan ar ochr ogleddol Dyffryn Aeron yng nghanol Ceredigion (SN 549 571), 9 km i’r gogledd o Lanbedr Pont Steffan. Saif Aberaeron a’r arfordir 11 km i lawr y dyffryn i gyfeiriad y gogledd-orllewin. Mae Dyffryn Aeron yn darparu llwybr o’r arfordir i fewndir Ceredigion a thu hwnt. Mae mân ffyrdd yn darparu llwybrau i’r gogledd i Aberystwyth ac i’r de i Gaerfyrddin.

HANES

Mae’r cyfeiriad cyntaf at Drefilan yn dyddio o 1233, pan fo Brut y Tywysogion yn cofnodi bod Maelgwn Fychan ap Maelgwn ap Rhys wedi atgyweirio’r castell hwnnw yr oedd ei dad wedi’i adeiladu. Mae’n debyg mai hwn oedd y ‘tŷ Trefilan’ a losgwyd gan y Saeson yn 1282. Ni cheir unrhyw gyfeiriadau hanesyddol diweddarach at y castell. Ceir y cyfeiriad cyntaf at eglwys yn Nhrefilan yn 1282. Cysegrwyd yr eglwys yn wreiddiol i’r Santes Fair, ond newidiwyd hyn yn ddiweddarach i’r Santes Hilary. Cyfeiriwyd hefyd at faer yn 1282. Yn 1301-02, cofnodir bod trigolion y ‘Welsh vill of Trefilan’ yn talu 7s 6d yn flynyddol, a gododd i 11s 2d ddwy flynedd yn ddiweddarach. Ni wyddys dim mwy am yr anheddiad canoloesol.

Yn yr 1180au, sefydlodd Rhys ap Gruffydd leiandy yn Llanllŷr, 1.2 km i’r de o Drefilan, ar lan ddeheuol Afon Aeron. Cafodd ei ddiddymu yn 1537.

Cyfeiria rhai awdurdodau at ffair a gynhaliwyd yn Nhal-sarn, 800 m i’r de o Drefilan, yn y cyfnod canoloesol, ond heb ddyfynnu dim.

Mae’r ddogfennaeth hanesyddol yn awgrymu anheddiad llawer pwysicach na’r hyn sy’n amlwg bellach, er nad oes unrhyw beth yn dynodi bod Trefilan yn dref. Mae’n debyg bod yr anheddiad yn gweithredu fel y ganolfan weinyddu a’r farchnad ar gyfer cefnwlad amaethyddol eang.

MORFFOLEG

Mae Trefilan yn cynnwys mwnt y castell, eglwys blwyf o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr hen reithordy, adeilad yr ysgol o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac amrywiaeth o adeiladau amaethyddol modern yn Fferm Penrheol. Mae’r cyfan yn clystyru o amgylch cyffordd T y B4337 ac is-ffordd. Mae pentrefan Tal-sarn, sy’n cynnwys tai o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, ynghyd â thai mwy diweddar, 800 m i’r de o Drefilan.

Nid yw mapiau na data LiDAR yn rhoi unrhyw arwydd ar gyfer lleoliad yr anheddiad canoloesol. Mae awyrluniau a dynnwyd gan CBHC yn dangos ffos ôl cnwd grom sy’n gonsentrig i fwnt 60 m i’r de-orllewin, a’r ffos hon, mae’n debyg, yw llinell cylch amddiffynnol beili.

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru