Eglwysi

Tua diwedd y 1990au, cynhaliodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed arolwg cyflym o’r eglwysi hanesyddol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro fel rhan o arolwg Cymru-gyfan, drwy gymorth grant gan Cadw, a gynhaliwyd gan y pedair ymddiriedolaeth archaeolegol yng Nghymru.

Nod y prosiect oedd darparu cofnod o’r holl eglwysi yng Nghymru dan berchenogaeth yr Eglwys yng Nghymru sy’n dyddio’n ôl yn bellach na’r 19eg ganrif.  Cofnodwyd eglwysi a ailadeiladwyd yn y 19eg ganrif ar safle eglwysi cynharach hefyd.  Ni chofnodwyd eglwysi segur a safleoedd eglwysi diffaith.

Cofnodwyd cyfanswm o 273 o eglwysi yn y tair sir. Mae gwybodaeth am y rhain i’w gweld yma.

Lluniwyd adroddiadau trosolwg sirol hefyd, a rhannwyd Sir Benfro yn ddau adroddiad, sef gogledd Sir Benfro a de Sir Benfro.

Mae’r adroddiadau ar eglwysi unigol a’r crynodebau sirol ar gael yn Saesneg yn unig.

 

 

 

 

Adroddiadau Sirol

Adroddiad Eglwysi Sir Gaerfyrddin

Adroddiad Eglwysi Ceredigion

Adroddiad Eglwysi Gogledd Sir Benfro

Adroddiad Eglwysi De Sir Benfro

 

 

 

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru