Maenclochog

Yn ystod ail hanner mis Medi, bu Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed yn cloddio am bythefnos gan weithio gyda chymuned Maenclochog gyda’r nod o ddatblygu dealltwriaeth well o hanes y pentref, ac yn benodol, ymchwilio i safle’r castell y credir ei fod yn gorwedd o dan faes parcio’r pentref.

Gwnaed y gwaith cloddio gyda chymorth Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a chyda chyllid o briosect Traws-wladol Ewropeaidd a gafwyd gan PLANED, (Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro dros Fenter a Datblygu).

Agorwyd dwy ffos. Cafwyd hyd i fur Pwll Maenordy, gweddillion mur y castell, a chlawdd a ffos amddiffynnol. Rhoddodd sampl radiocarbon islaw’r clawdd amddiffynnol ddyddiad rhwng 880 OC a 1020 OC, gan nodi o bosibl bod anheddiad gydag amddiffynfeydd ym Maenclochog cyn codi’r castell cerrig yn dilyn concro Sir Benfro gan yr Eingl-Normaniaid yn 1093 OC.

Oddi mewn i ardal y castell, cafodd rhan o dy crwn ei ddatguddio. Y syndod oedd bod crochenwaith o’r 12fed a’r 13eg ganrif, gyda dyddiad radiocarbon rhwng 980 OC a 1160 OC, a gweddillion planhigion o aelwyd ganolog yn awgrymu bod pobl mwy na thebyg yn byw yn y ty crwn nes i Sir Benfro gael ei choncro gan yr Eingl-Normaniaid.
Roedd cyfranogiad y gymuned yn y cloddio yn llwyddiant mawr a chafodd y profiad ei fwynhau a’i werthfawrogi gan y cyfranogwyr. Roedd diddordeb sylweddol gan y cyfryngau yn y cloddio gyda nifer o eitemau radio, teledu a phapur newydd, yn ogystal â sylw ar y we. Roedd y safle yn boblogaidd hefyd gan ymwelwyr o’r ardal, disgyblion o ysgolion lleol a rhai ar wyliau yn y rhanbarth, gyda dros 400 o bobl yn ymweld â’r gloddfa.


Aelodau tîm cymunedol Maenclochog wrthi’n glanhau Ffos 1 yn fedrus


Wal y ffald yn dangos ffos a thwll y postyn yn y blaen

Adroddiad Maenclochog mewn ffurf PDF. (Yn agored mewn ffenestr newydd. 0.58 Mb o faint.)

Atodiadau Adroddiad Maenclochog mewn ffurf PDF. (Yn agored mewn ffenestr newydd. Gellir gymeryd tipyn o amser i is-lwytho gan fod y ffeil yn 3.9MB o faint.)

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru