Melinau Canoloesol a Diweddarach

Ar ddechrau 2011, cwblhawyd arfarniad cyflym o safleoedd yr holl felinau hysbys yn ne orllewin Cymru, yn elfen gyntaf o brosiect mwy. Nodau cyffredinol y prosiect yw nodi safleoedd melinau sy’n dyddio cyn 1750 a all gynnwys gwrthgloddiau neu olion cysylltiedig eraill. Nid yw adeiladau melinau yn cael eu hystyried yn y prosiect hwn.


Melin Caerbwdy, Tyddewi, sef melin segur nodweddiol sydd wedi’i chynnwys yn yr astudiaeth, fel y dangosir ar fap 1:2500 cyntaf yr Arolwg Ordnans

Yn ystod 2012-13, archwiliwyd safleoedd melinau yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn fanylach ac ymwelwyd â detholiad o safleoedd. Yn ystod 2013-14 fe ymwelwyd a safleoedd melinau yn Sir Benfro. Nod y prosiect oedd nodi’r safleoedd hynny a all fod â thystiolaeth yn weddill sy’n rhagddyddio 1750. Cafodd melinau mewn bodolaeth sydd â pheiriannau ac adeiladau melino yn weddill sydd wedi’u trosi at ddefnyddiau eraill eu heithrio o’r arolwg, gan yr ystyriwyd y byddai’n annhebygol y byddant yn rhagddyddio 1750. Felly, canolbwyntiodd y prosiect ar felinau anghyfannedd. Ymwelwyd â thua 100 o safleoedd yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, a thua 80 yn Sir Benfro. Roedd yr hyn a oedd yn weddill yn amrywio. Roedd gan rai safleoedd adeiladau melino adfeiliedig a thystiolaeth dda o gyflenwad dwr ar ffurf pyllau melin a ffrydiau, ond roedd rhai eraill wedi gwneud yn wael ac roedd bron i ddim olion ffisegol ar ôl.


Olwyn sbardun a meini melin gadawedig ym Melin Pen-y-bont, Sir Gaerfyrddin


Melin flawd adfeiliedig yn Felin Fach, Ceredigion

Adroddiad Melinau Canoloesol 2012-14 gyda Geiriadur Daearyddol (PDF – Saesneg yn unig – yn agored mewn ffenestr newydd)

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru