Ffosydd Y Rhyfel Mawr Penalun
Fe gafodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (NLHF) a’r Sefydliad Seilwaith Amddiffyn (DIO), a chymorth gan Cadw, i ymchwilio i archaeoleg ardal hyfforddi Penalun – gyda help y gymuned leol, darganfod sut yr oedd yn cael ei defnyddio yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a brwydrau dilynol yn ystod yr ugeinfed ganrif, a defnyddio’r canfyddiadau wrth reoli a gwarchod yr adnodd archaeolegol.
Yn 2019, cynhaliwyd ymchwiliadau a oedd yn canolbwyntio ar dair gwahanol ardal; ffosydd ymarfer Penalun [Ardal 1], ardal hyfforddi Penalun (maes saethu) [Ardal 2], a Yeomanry Field [Ardal 3].
Edrychwch ar y sioe sleidiau ffotograffig isod i gael ciplun o ein Gwaith:
Cynhaliwyd arolygon geoffisegol ym mhob un o’r tair ardal, ac fe helpodd hynny i bennu lleoliad cloddiadau gwerthuso mewn dwy o’r tair ardal.
Cynhaliwyd y cloddiad gyda llawer o gymorth gan wirfoddolwyr, a daeth Ysgol Maenorbŷr i dreulio diwrnod gyda’r cloddwyr i ddysgu am dechnegau archaeolegol a bywyd yn y ffosydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
I gael gwybod mwy am brosiect Ffosydd Ymarfer Penalun, ac i ddarllen yr adroddiad llawn Cliciwch yma