Caer Bentir Arfordirol Porth-y-Rhaw

Mae Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed wedi cael noddiant gan Cadw i ymgymryd â chloddio archaeolegol yng nghaer bentir Porth y Rhaw, ger Solfach, Sir Benfro ym mis Gorffennaf 2019. Mae Porth y Rhaw yn gaer bentir arfordirol amlgloddiog sydd wedi’i lleihau’n sylweddol gan erydiad arfordirol, fel bod tu mewn y gaer nawr yn cael ei lleihau’n i bentir bach.

Gwnaed gwaith cloddio blaenorol rhwng 1997 a 1998. Cloddiwyd rhan o’r tu mewn a rhan fechan o’r clawdd mewnol, ynghyd â dwy ffos brawf yn yr amddiffynfeydd allanol. Yr oedd tu mewn y gaer yn dangos olion nifer fawr o breswylfeydd gydag o leiaf wyth o dai crwn i’w gweld o fewn yr ardal gloddio.

Ni lwyddwyd i ddod o hyd i dystiolaeth artiffactaidd yn perthyn i’r cyfnod cynharach pan fu preswylio yn y gaer. Fodd bynnag, mae dyddiadau radiocarbon yn awgrymu fod yr amddiffynfeydd wedi dechrau cael eu hadeiladu yn ystod yr Oes Haearn gynnar hyd yr Oes Haearn ganol. Mae’r crochenwaith sy’n perthyn i gyfnod preswylio mewnol diweddarach yn cynnwys nwyddau Du Llathredig, Samiaidd a shard mortaria. Y mae’r deunydd hwn yn awgrymu fod y safle yn cael ei ddefnyddio o’r ganrif gyntaf hyd at y bedwaredd ganrif. Gweddillion ffwrnais neu bopty bychan, darnau crwsibl a swm sylweddol o slag haearn – mae’r cyfan yn awgrymu fod gwaith haearn a phres wedi bod yn cael ei wneud ar y safle.

Mae’r gaer bentir yn cael ei herydu’n ac yn 2019 nod y cloddiad yw adennill cymaint o wybodaeth posibl o fynedfa’r gaer cyn iddi gael ei cholli i’r môr, neu cyn i’r gwaith cloddio fynd yn rhy beryglus. Mae’r prosiect hwn yn cael ei noddiant gan Cadw ac mae’n cael ei gynnal mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen ar y safle.

 

Adroddiad Porth y Rhaw (mewn ffurf PDF – yn agored mewn ffenestr newydd)

Dyddiadur Cloddio 2019 – Caer Bentir Arfordirol Porth-y-Rhaw

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru