Mae gweddillion castell canoloesol wedi gorwedd ynghudd ar dir Cartref yn Nhir y Dail, Rhydaman, wedi’u hanwybyddu bron yn gyfan gwbl gan amser a’r trigolion lleol.
Nid oes llawer o wybodaeth am y castell mwnt a beili hwn. Mae’n debyg ei fod yn dyddio o’r 12fed ganrif, ond y cwestiwn yw, a gafodd ei adeiladu gan yr Arglwydd Rhys i amddiffyn ei hun rhag y Normaniaid yn y de, neu gan arglwyddi Normanaidd ar ffin y tir roeddynt newydd ei ennill?
Treuliodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, gyda chymorth Cadw, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Cyngor Tref Rhydaman, Cymdeithas Archaeoleg a Hanes Rhydaman a gwirfoddolwyr lleol, saith niwrnod yn ystod haf 2010 yn ceisio dod o hyd i atebion i’r safle enigmatig hwn.
Archwiliwyd dull adeiladu’r mwnt a’i amddiffynfeydd cysylltiedig yn ystod y cloddiadau. Canfuwyd bod pant dysglog y mwnt yn wreiddiol. Ni chanfuwyd unrhyw dystiolaeth o strwythur carreg ar y mwnt, ac ychydig o dystiolaeth yn unig oedd o strwythur coed.
Edrych allan o’r clawdd allanol i’r mwnt yn ystod y cloddiad, gan ddangos y gwrthgloddiau anferth ar y safle
Llun yn dangos wyneb dysglog y mwnt
Adroddiad Asesu Tir y Dail (mewn ffurf PDF – yn agored mewn ffenestr newydd – maint 9Mb)