Cymryd Rhan

Yma yn Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed (YAD), rydym yn cydweithio â llawer o sefydliadau, cymunedau ac unigolion i annog pawb i ddysgu am dreftadaeth ac archaeoleg eu hardal leol a’r tu hwnt, a’u mwynhau.  Rydym yn cydweithio â sefydliadau eraill, cymunedau ac unigolion mewn amryw o wahanol ffyrdd ac rydym bob amser yn awyddus i archwilio cyfleoedd newydd i gydweithio â’n gilydd.

Cysylltwch ag YAD i gael cymorth a chyngor ar eich gwaith ymchwil, prosiect cymunedol neu adnodd addysgol.  Rydym bob amser yn hapus i helpu lle y gallwn ac os oes adnoddau ar gael gennym.

Gan amlaf, gwneir cysylltiad drwy brosiectau a mentrau rydym wedi’u creu ac yn eu cynnal ein hunain.  Mae’r rhain yn cynnwys cydweithio ag ysgolion lleol i gyflwyno deunyddiau sy’n cefnogi’r Cwricwlwm Cenedlaethol, cynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn cloddiadau ac arolygon, a chyflwyno sgyrsiau a seminarau.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth gyfleoedd i gymryd rhan mewn gwaith maes a phrosiectau archaeoleg yn y swyddfa.  Mae ein prosiectau ar agor i bawb.  A ydych chi wedi bod eisiau rhoi cynnig ar archaeoleg erioed, ond ddim yn siŵr sut i fynd ati?  A ydych chi eisiau ennill mwy o sgiliau a phrofiad?  Gallwch wirfoddoli â ni beth bynnag fo’ch gallu neu brofiad.

Cliciwch y dolenni isod am fwy o wybodaeth am sut gallwch gymryd rhan.

 

Gwirfoddoli a Phrofiad Gwaith

Gallwch wirfoddoli i’n helpu gyda’n gwaith yn y swyddfa yn Llandeilo ac rydym yn cynnig cyfleoedd i gael profiad gwaith.  Os na allwch deithio, mae rhai gweithgareddau y gallwch eu gwneud gartref.

Mae’r rhain yn cael eu trefnu ymhell o flaen llaw i’n galluogi i drefnu rhaglen sy’n addas i ni ac i chi!

Cloddio ac Arolygon Maes

Mae’r cyfle i ymuno â chloddiad archaeolegol neu arolwg maes yn weithgaredd poblogaidd dros ben.

Rydym yn cynnig cyfleoedd i gymaint o bobl ag y bo modd.  Cliciwch y ddolen hon am fwy o wybodaeth am yr agwedd hon ar ein gwaith.

Addysg
a Dysgu

Os oes gennych ddiddordeb yn ein gwaith ag ysgolion ac addysgwyr, cliciwch yma.

Rydym yn awyddus i drafod cyfleoedd i gydweithio â’r rhai sy’n gweithio ym myd addysg.

Eich Ymchwil Eich Hun

Mae ein hadran Darganfod yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau eraill i helpu â’ch ymchwil annibynnol.  Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru