Cynllunio

Yn ein rhanbarth ni, mae’r awdurdodau cynllunio lleol yn gwneud penderfyniadau wedi’u seilio ar gyngor gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed (YAD). Yn Nyfed, mae YAD yn rhoi cyngor archaeolegol i:

Mae gwybodaeth broffesiynol a deunyddiau cyfeirio fel y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol, ynghyd â manylion y cais, yn cael eu harfarnu i roi cyngor i’r awdurdod cynllunio.

Os oes angen gwaith archaeolegol, mae amod archaeolegol yn cael ei osod ar y caniatâd cynllunio. Bydd hyn yn nodi natur y gwaith archaeolegol sydd ei angen.

Os yw safle wedi’i warchod fel Heneb Gofrestredig, os oes ganddo statws Adeilad Rhestredig, os yw mewn Ardal Gadwraeth neu mewn tirwedd warchodedig, mae rheoliadau/deddfau ychwanegol y mae’n rhaid cadw atynt. Os ydych yn ddatblygwr, dylech sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r rheoliadau/deddfau hyn.

Rhaid i ymgeiswyr sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag amod cynllunio. Fel arfer, byddant yn penodi ymarferydd archaeolegol; yr ymgeisydd/datblygwr sy’n gyfrifol am benodi contractwr a thalu am unrhyw waith sy’n cael ei wneud.

Mae’r ymarferydd yn gweithio i sicrhau bod yr ymgeisydd yn cyflawni’r amod cynllunio archaeolegol drwy waith maes rhagnodedig, adrodd ac archifo cofnodion.

Yr adroddiad archaeolegol yw’r ddogfen sy’n cael ei chyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau i ddangos bod y gwaith wedi’i gyflawni’n unol â’r gofynion.

Gall yr ymgeisydd/datblygwr benodi bwy bynnag y mae’n dymuno, ond rhaid i’r ymarferydd gadw at God Ymddygiad Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr (CIfA) a safonau a chanllawiau perthnasol CIfA.

Os ydych wrthi’n cyflwyno cais cynllunio, mae YAD yn awgrymu’r canlynol:

  • Ceisiwch gyngor yn gynnar. Mae YAD yn fodlon rhoi cyngor ar eich cais cynllunio.
  • Mae cyngor cychwynnol yn cael ei roi am ddim, ond y sawl sy’n gwneud y cais cynllunio sy’n gyfrifol am gael a thalu am wybodaeth archaeolegol i ategu’r cais neu i gydymffurfio ag amod cynllunio.
  • Mae olion archaeolegol yn fregus ac nid oes modd eu rhoi’n ôl wedi iddynt gael eu dinistrio. Mae’r system gynllunio wedi’i llunio i ddiogelu’r olion hyn. Os nad oes modd eu diogelu, bydd cynllunio da yn sicrhau y cânt eu cofnodi cyn iddynt gael eu difrodi neu eu dinistrio.
  • Gwnaed rhai o’r darganfyddiadau archaeolegol mwyaf rhyfeddol dros yr ychydig ddegawdau diwethaf oherwydd amodau archaeolegol a roddwyd ar ganiatâd cynllunio.

 

Mae DAT wedi cynhyrchu ‘Canllaw Deiliaid Tai i Archeoleg a Chynllunio yng Nghymru‘ i gynorthwyo pobl sy’n ystyried gwneud cais am ganiatâd cynllunio neu sydd wedi derbyn caniatâd cynllunio.

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru