Merch Ganoloesol - 1350 OC
Fy enw i ydy Nest ac rydw i’n byw mewn pentref ym Morgannwg gyda fy nheulu.
Fy nheulu
Rydw i’n byw gyda fy mam, fy nhad a dau frawd. Mae fy mam-gu yn byw gyda ni hefyd.
Saer coed ydy fy nhad ac mae e’n gweithio i Arglwydd y Faenor. Daeth fy nhad i fyw yma
pan oedd teulu’r Arglwydd eisiau codi maenordy ar eu cyfer nhw eu hunain. Mae fy nhad yn dweud bod y teulu’n
un pwysig am eu bod nhw’n adnabod Brenin Lloegr. Mae fy nhad yn bwysig hefyd oherwydd bod ganddo fe grefft,
sy’n golygu bod pawb yn y pentref yn ei barchu.
Mae fy mam yn gweithio’n galed iawn er mwyn rhoi bwyd a dillad i ni. Doedd hi ddim yn
adnabod fy nhad cyn iddyn nhw briodi oherwydd ei thad hi wnaeth ddewis fy nhad ar ei chyfer hi. Yn lwcus, mae’r
ddau ohonyn nhw’n hapus iawn gyda’i gilydd. Does dim llawer o amser ers i fy mam roi genedigaeth
i fy mrawd bach, felly mae hi wedi blino bob amser. Ond rhaid iddi hi goginio ein bwyd, troelli’r gwlân
ac yna gwehyddu’r cyfan er mwyn gwneud defnydd ar gyfer ein dillad. Rydw i’n ceisio rhoi cymaint
o help iddi ag y galla i drwy edrych ar ôl yr ieir. Yn fwy na dim, mae hi’n fy nysgu sut i fod yn
wraig dda yn barod ar gyfer pan fydda i wedi tyfu.
Mae fy mrawd mawr yn 12 oed ac mae e’n ymarfer gyda’i fwa a saeth bob dydd. Mae’r
brenin wedi dweud y bydd yn rhaid iddo ymarfer ar ddydd Sul hefyd! Fe wnaeth e ddechrau dysgu pan oedd e’n
fach ac wrth iddo fe ddysgu, mae ei fwa wedi tyfu hefyd. Mae ei fraich dde, y fraich sy’n tynnu’r
bwa, yn gryf iawn! Bydd fy nhad yn gwneud bwa hir iddo fe pan fydd e’n hyn. Mae e’n brentis gyda
fy nhad, ac un diwrnod bydd e’n saer coed hefyd.
Bydd fy mam-gu yn helpu fy mam o gwmpas y ty a bydd hi hefyd yn helpu menywod y pentref pan
fydd hi’n amser iddyn nhw gael eu babis. Mae llawer o fabis yn cael eu geni yma, ond yn anffodus, dydy
pob un ohonyn nhw ddim yn tyfu i fod yn oedolion. Cyn i fi gael fy ngeni bu farw llawer o bobl y pentref o bla
o’r enw y Pla Du. Rydw i’n falch o ddweud nad oes neb wedi marw o’r clefyd hwn ers tipyn nawr.
Rydw i’n helpu fy mam-gu i ofalu am yr ardd fach sydd gennym ni wrth ochr y ty. Rydyn
ni’n tyfu pob math o berlysiau yn yr ardd ond rhaid i ni wneud yn siwr fod yr afr yn cadw draw oherwydd
mae hi’n bwyta popeth!
Ein cartref
Gyda help gan bobl eraill y pentref, adeiladodd fy nhad ein bwthyn ni gan ddefnyddio ffrâm
bren gryf ac yna fe wnaeth e’r waliau trwy wneud plethwaith o ddarnau pren sy’n cael ei alw’n
fangorwaith. Yna, fe wnaeth e orchuddio’r bangorwaith gyda dob, sef cymysgedd o bridd, clai, tywod, dom
anifeiliaid a gwellt. Fe wnaeth brawd fy mam-gu helpu i baentio ochr allan y waliau gyda gwyngalch gwyn. Yna
gofynnodd fy nhad i’n cymydog ni, sy’n döwr, i orchuddio’r to gyda thrwch o frwyn er
mwyn gwneud yn siwr na fyddai’r tywydd drwg yn dod i mewn i’r bwthyn.
Yn y ty mae yna un ystafell fawr gyda thân ynghanol y llawr. Bydd y mwg yn codi i’r
to a dyna lle bydd fy mam yn hongian darnau mawr o gig i’w mygu er mwyn iddyn nhw bara am amser maith.
Fe wnaeth fy nhad adeiladu dau wely mawr i ni. Mae un ar gyfer fy mrawd, fy mam-gu a fi ac mae’r llall
ar gyfer fy rhieni a fy mrawd bach newydd. Fe wnaeth fy mam-gu stwffio’r matres â gwellt ac mae
gennym ni flancedi gwlân cynnes i’w rhoi drosom ni. Bydd fy mam yn gwneud yn siwr fod y tân
yn dal i losgi drwy’r nos i’n cadw ni’n gynnes. Fe wnaeth fy nhad adeiladu bwrdd mawr i ni
hefyd, a dyna ble byddwn ni’n bwyta ein bwyd. Y tro diwethaf yr aeth e i ffwrdd i weithio mewn tref yn
bell i ffwrdd, fe ddaeth e â jygiau gwyrdd a glas hyfryd i fy mam. Roedd menywod eraill y pentref yn eiddigeddus
iawn.
Dillad
Bydd fy mam yn cadw ein dillad mewn cist fawr bren yn erbyn y wal. Does dim llawer o ddillad
gyda ni oherwydd nad oes angen llawer arnom ni. Rydw i’n gwisgo pais o dan fy nhiwnig gwlanen ac mae gen
i wregys lledr am fy nghanol. Ar fy nhraed rydw i’n gwisgo clocsiau pren. Mae gen i bâr o esgidiau
lledr hefyd ond rhai gorau ydy’r rheiny, ar gyfer eu gwisgo i fynd i’r eglwys pan fydd y tywydd
yn braf. Rhaid i ni fod yn ofalus iawn beth fyddwn ni’n ei wisgo oherwydd byddwn ni’n cael ein cosbi
os byddwn ni’n gwisgo fel pobl gyfoethog.
Gwaith
Mae fy nhad yn ddigon prysur fel saer coed, ond does dim digon o waith iddo fe yn ein pentref
ac weithiau bydd angen iddo fe deithio i drefi mawr i chwilio am waith. Yn lwcus, mae e’n aelod o urdd
seiri, sy’n golygu y bydd seiri eraill mewn tref yn rhoi caniatâd iddo fe weithio yno. Mae e hefyd
yn gweithio ar y tir y bydd e’n ei rentu oddi wrth arglwydd y faenor, tu allan i’r pentref. Mae
ganddo fe sawl llain o dir ac fel y pentrefwyr eraill i gyd, dydyn nhw ddim mewn un cae, ond dros bob man. Y
rheswm dros hyn yw bod modd i bob pentrefwr gael rhywfaint o dir da a rhywfaint sydd ddim cystal. Dyna sy’n
deg.
Ers i’r pentref ddod at ei gilydd i brynu dau ych, mae aredig yn llawer haws nawr. Bydd
fy nhad wastad yn gobeithio am dywydd braf pan ddaw hi’n amser iddo e gael ei dro gyda’r ychen,
er nad oes angen iddo fe boeni gormod oherwydd mae pawb yn y pentref yn helpu’i gilydd.
Chwarae
Mae ci a chath gyda ni hefyd. Mae’r rhain yn dda ar gyfer y teulu oherwydd bydd y ci
yn gwneud yn siwr nad oes llygaid mawr yn dod i mewn i’r ty ac mae’r gath yn hoffi pan fydd rhywun
yn goglais ei bol!
Mae gen i lawer o ffrindiau yn y pentref. Byddwn ni’n chwarae cuddio, cwrso a gêm
fwrdd o’r enw Chwarae Nawtwll.
Weithiau bydd ffair yn dod i sgwâr y pentref. Y tro diwethaf y daethon nhw, roedd dynion
yn chwythu tân allan o’u cegau, yn gwneud tin-dros-ben a jyglo, yn cerdded ar stiltiau, ac roedd
cantorion a digrifwyr hefyd.
Bydd llawer o stondinau hefyd, yn gwerthu crochenwaith, gemwaith ac esgidiau a bagiau lledr
da.
Y tir
Mae ein pentref ni yn y wlad gerllaw llyn. Mae’n gyfleus iawn ar gyfer pysgota ond un
waith, pan ddaeth glaw trwm y gaeaf, gorlifodd y dwr hyd at ein drws ffrynt ni. Agorodd fy nhad a’r pentrefwyr
eraill lawer o ffosydd er mwyn i’r dwr lifo i ffwrdd oddi wrth y pentref. Bydd fy nhad yn gofidio am y
llifogydd ar y caeau oherwydd dydy’r planhigion ddim yn tyfu cystal os yw’r tir yn rhy wlyb. Mae
gyda ni ambell ddafad hefyd, sy’n pori ar y tir comin, a bydd arglwydd y faenor yn rhoi caniatâd
i ni gasglu coed o’r fforest ar gyfer coed-tân a phren. Bydd fy mrawd yn mynd â’r moch
i’r goedwig hefyd i fwyta mes.
Bwyd
Bydd fy mam yn gwneud yn siwr ein bod ni i gyd yn bwyta’n dda. Rydyn ni’n bwyta
llawer o gawl cig, uwd, llaeth, menyn a chaws. Adeg y cynhaeaf byddwn ni hefyd yn cael afalau a gellyg a chynifer
o aeron ag y gallwn ni eu pigo.
Weithiau bydd fy mam yn gwneud tafell o fara tenau, gwastad i ni, a bydd hi’n gorchuddio’r
bara â chig, llysiau a sudd y cig.
Crefydd
Rydyn ni’n mynd i’r eglwys mor aml ag y gallwn ni oherwydd rydyn ni’n credu
os ydych chi’n dda yna bydd Duw yn eich gwobrwyo ond bydd e’n eich cosbi chi os ydych chi’n
ddrwg. Dydyn ni ddim yn byw yn bell oddi wrth fynachlog a bydd y mynachod sy’n byw yno yn ein helpu ni
os oes angen bwyd arnom ni neu os bydd y cnydau’n methu, neu os bydd angen meddyg arnom ni os na fydd
y wraig ddoeth leol yn gallu helpu.
Roedd ffrind fy mam yn drist iawn ddwy flynedd yn ôl oherwydd roedd hi’n credu
na fyddai hi’n gallu cael babi. Dywedodd yr offeiriad wrthi y dylai hi a’i gwr fynd ar bererindod.
Roedd hyn yn golygu y byddai’n rhaid iddyn nhw gerdded yr holl ffordd i Dyddewi yng ngorllewin Cymru,
ac fe gymerodd hyn dros wythnos iddyn nhw. Mae pawb yn cerdded i bobman, oni bai eich bod chi’n gallu
fforddio ceffyl neu ful. Mae gan arglwydd y faenor gerbyd, ond mae e’n edrych yn anghyfforddus iawn pan
fydd e’n mynd heibio ar y ffordd ger ein pentref ni, oherwydd bydd yr olwynion yn mynd yn sownd yn y tyllau
yn y ffordd ac yn taro dros y cerrig drwy’r amser. Pan gyrhaeddodd ffrind fy mam a’i gwr Dyddewi,
dywedwyd wrthyn nhw y dylen nhw weddïo ar Dduw ac y byddai E’n ateb eu gweddïau. Fe wnaethon
nhw gyfarfod â llawer o ffrindiau newydd ar y ffordd, a daethon nhw adre gyda llawer o anrhegion i bob
un ohonom ni. Fe ges i froitsh fach bach o dun ac fe gafodd fy mrawd ddarn o asgwrn bys Dewi Sant er mwyn ei
gadw’n ddiogel pe byddai’n rhaid iddo fe fynd i ymladd ar ran Arglwydd y Faenor yn Ffrainc.
Ni chafodd eu gweddïau eu hateb ar unwaith, ond rydw i’n meddwl mod i wedi’i
chlywed hi’n dweud wrth fy mam-gu ddoe fod babi’n mynd i ddod o’r diwedd!
Yn ôl i'r llinell-amser>>
|