Cyhoeddir y wefan hon o ganlyniad i bartneriaeth
rhwng Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Cymru (CBHC) a
Phrifysgol Birmingham. Bwriad y bartneriaeth oedd crynhoi ymchwil diweddar i dirweddau cynhanesyddol
o dan Fôr Hafren a Bae Lerpwl. Defnyddiodd Prifysgol Birmingham y data a gasglwyd
o ganlyniad i arolygon adlewyrchol seismig, a gynhaliwyd gan gwmnïau masnachol oedd
yn chwilio am ffynonellau nwy ac olew neu’n cynllunio i gloddio am fwynau, er mwyn
adnabod a chofnodi’r tiroedd a foddwyd sy’n dal i fodoli o dan y môr yn
yr ardaloedd hyn. Gall yr arolygon seismig hyn ddod o hyd i arfordiroedd blaenorol, tir
uwch,dyffrynnoedd afonydd a’r gwastatiroedd ar eu glannau, gan roi gwybodaeth werthfawr
i ni am safleoedd archeolegol tebygol. Casglwyd yr wybodaeth o fewn system fapio gyfrifiadurol
ac yna cafodd ei dehongli i gynhyrchu mapiau sy’n dangos newidiadau bras mewn tirwedd.
Bydd y mapiau hyn o gymorth wrth gynllunio ar gyfer rheoli ardaloedd yr arolwg yn y dyfodol,
er mwyn eu diogelu rhag effaith arfaethedig cloddio o dan y môr neu ddatblygiadau
morwrol eraill.
Wedi’r Oes Ia fawr ddiwethaf, codwyd lefelau’r môr gan
gynhesu bydeang i’r fath raddau fod ardaloedd helaeth o dir isel rhwng Prydain, Iwerddon
ac Ewrop gyfandirol wedi boddi, gan greu ymhen hir a hwyr, Ynysoedd Prydain, fel yr ydym
ni’n eu hadnabod heddiw. Am filoedd o flynyddoedd bu’r tiroedd hyn, sydd bellach
wedi’u colli o dan y môr, yn dirweddau byw i’n cyndadau. Yn wir, yr ardaloedd
hyn oedd cefn gwlad y cymunedau Mesolithig, tir ffrwythlon yn llawn o adnoddau cyfoethog
ac amrywiol, nes i’r dwr eu gorfodi yn ôl i’r tiroedd uwch, lle rydym
ni’n byw heddiw.
Mae’r arolwg hwn o Fôr Hafren a Bae Lerpwl yn dilyn yn ôl
traed gwaith arloesol Prifysgol Birmingham yn 2007 ar diroedd a foddwyd yn ne Môr
y Gogledd, ardal a elwir bellach yn ‘Doggerland’. Dangosodd y gwaith hwn dirwedd
Fesolithig wedi’i boddi, mewn manylder annisgwyl a digymar, gan newid yn sylweddol
y modd y mae archeolegwyr yn deall ac yn dehongli’r cyfnod cynhanesyddol. Eisoes,
mewn gwaith diweddar ar ddata o Fôr y Gogledd, ymddengys fod rhai ardaloedd wedi bod
yn gartref i bobl am lawer yn hwy nag a feddylid gynt, hyd yn oed mor ddiweddar â’r
cyfnod Neolithig cynnar.
|