ABERGWILI

CRYNODEB

Ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, sefydlodd Thomas Bek, Esgob Tyddewi, goleg a thref yn Abergwili. Rhoddwyd marchnad wythnosol a ffair flynyddol i’r dref, ond roedd yn dref fach, gyda dim ond 25 o diroedd bwrdais wedi’u cofnodi yn 1326. Roedd y rhain wedi’u sefydlu bob ochr i’r Stryd Fawr. Roedd Eglwys Tyddewi wedi’i lleoli ar lôn i’r de o’r dref a’r coleg, ym mhen dwyreiniol y dref. Nid oes unrhyw waith archaeolegol wedi cael ei gynnal yng nghraidd y dref ganoloesol.

FFEITHIAU ALLWEDDOL

Statws: Marchnad wythnosol 1290; Ffair flynyddol 1313.

Maint: 1326 25 o diroedd bwrdais.

Archaeoleg: dim ymyriadau archaeolegol arwyddocaol.

LLEOLIAD

Mae Abergwili yn sefyll ar gydlifiad Afon Tywi ac Afon Gwili yn Sir Gaerfyrddin, ychydig fetrau uwchben y gorlifdir (SN 439 210). Mae llanw uchel y ddwy afon yn estyn fymryn i fyny’r afon o Abergwili. Mae tref Caerfyrddin wedi’i lleoli 2.5 km i’r dwyrain. Mae Dyffryn Tywi yn darparu llwybrau rhagorol i’r gorllewin a’r dwyrain, ac mae Dyffryn Gwili yn rhoi mynediad i ogledd Sir Gaerfyrddin a thu hwnt.

HANES

Mae yna beth tystiolaeth dros fodolaeth eglwys gyn Eingl-Normanaidd yn Abergwili, ond ni ddaeth Abergwili yn rhan o hanes tan yr 1280au, pan sefydlodd Thomas Bek, Esgob Tyddewi, goleg yno. Mae’n hynod o debygol ei fod wedi sefydlu tref fach ar yr un pryd, i’r gorllewin o’r coleg, er nad oes unrhyw siarter yn hysbys. Yn 1290, rhoddwyd yr hawl i Abergwili gynnal marchnad wythnosol bob dydd Gwener, ac yn 1313 cafodd yr hawl i gynnal ffair flynyddol. Parhaodd y dref i fod yn fach; dim ond 25 o diroedd bwrdais a gofnodwyd yn 1326. Nid oes gwaith ymchwil wedi’i wneud i hanes canoloesol diweddarach y fwrdeistref.

Yn yr 1840au, ailadeiladwyd Eglwys Dewi Sant, a gafodd ei chysegru’n wreiddiol i Sant Maurice, a hynny’n union i’r gogledd o’r eglwys ganoloesol a oedd wedi ei rhagflaenu.

Yn 1541, symudwyd y coleg i Aberhonddu ac, yn ddiweddarach, yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg, cafodd yr adeiladau yn Abergwili eu troi’n balas i’r esgob. Parhaodd yr adeiladau i fod yn balas tan yr 1970au, pan gawsant eu caffael gan Gyngor Sir Caerfyrddin a’u troi’n amgueddfa. Adeiladodd yr esgobaeth balas esgob newydd ar dir yr hen balas.

MORFFOLEG

Map yn dangos tref Abergwili c.1320, fel yr oedd, o bosibl, pan oedd ar ei mwyaf yn y cyfnod canoloesol.

Hyd at yr ugeinfed ganrif, roedd Abergwili yn cynnwys un stryd, y Stryd Fawr (a hyd at ddiwedd yr ugeinfed ganrif hon oedd cefnffordd yr A40), ac roedd palas yr esgob ym mhen dwyreiniol y stryd ac eglwys blwyf Dewi Sant ar lôn ochr i’r de. Mae sawl eiddo cul, hir sydd bob ochr i’r Stryd Fawr, ac a ddangosir ar fap degwm y plwyf yn 1840 a mapiau Ordnans o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn olion tiroedd bwrdais a gafodd eu sefydlu ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg/ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Byddai’n hawdd cynnwys y 25 o diroedd bwrdais a gofnodwyd yn 1326 yn yr ardal hon.

Ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, adeiladwyd Rheilffordd Cyffordd Canolbarth Cymru a Chaerfyrddin i’r gogledd o Abergwili, ac ers yr Ail Ryfel Byd mae tai newydd wedi cael eu hadeiladu yn y craidd hanesyddol ac i’r gogledd a’r de ohono. Erbyn hyn, mae’r A40 yn osgoi Abergwili ac yn rhedeg ar hyd llinell yr hen reilffordd.

 

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru