Tîm Rheoli Treftadaeth Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yw’r curadur archaeolegol rhanbarthol sy’n cwmpasu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Rydym yn darparu gwybodaeth a chyngor i helpu i ddeall, gwerthfawrogi a rheoli’r amgylchedd hanesyddol, gan gynnwys darganfyddiadau unigol, safleoedd a thirweddau.
Rydym yn cydweithio â llywodraeth genedlaethol a lleol, sefydliadau anllywodraethol, grwpiau cymunedol ac unigolion ar lefel strategol a lefel leol. Ein nod yw gwneud yn siŵr fod penderfyniadau sy’n effeithio ar yr amgylchedd hanesyddol yn rhai gwybodus.
Mae gan yr adran ddwy isadran; mae’r Tîm Cynllunio yn cydweithio ag awdurdodau cynllunio lleol i ddarparu cyngor archaeolegol, ac mae’r Tîm Rheoli Treftadaeth yn cynnig cyngor ar faterion eraill nad ydynt yn ymwneud â chynllunio.
Cliciwch yma i ddysgu mwy am waith y Tîm Cynllunio.
Cliciwch yma i ddysgu mwy am waith ein Tîm Rheoli Treftadaeth.