Sefydliad annibynnol yw Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, sy’n ymroddedig i hybu dealltwriaeth, cadwraeth a gwerthfawrogiad o’r amgylchedd hanesyddol.
Mae tîm Gwasanaethau Archaeolegol proffesiynol Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn cynnig ystod eang o wasanaethau masnachol, gan gynnwys cloddio, gwerthuso, asesiadau pen desg, arolygon adeiladu, arolygon tirwedd a dehongli treftadaeth.
Er bod gennym ymrwymiad rhanbarthol cryf, rydym yn cynnig gwasanaethau proffesiynol dros ardal eang, yng Nghymru a’r tu hwnt.
Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn elusen addysgol nid-er-elw ac yn gwmni cyfyngedig preifat. Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth ym 1975 yn rhan o rwydwaith o bedwar sefydliad archaeolegol annibynnol yn cwmpasu Cymru gyfan. Yr amcan y sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth ar ei gyfer yw gwella addysg y cyhoedd ym maes archaeoleg. Mae’r Ymddiriedolaeth wedi’i llywodraethu gan Fwrdd Ymddiriedolwyr. Trwy wahoddiad yr Ymddiriedolwyr yn unig y mae dod yn aelod o’r Ymddiriedolaeth, ac mae’n cynnig ystod eang o arbenigedd academaidd a phroffesiynol mewn archaeoleg a meysydd cysylltiedig.
Mae gennym weithlu proffesiynol llawn cymhelliant sydd ag ystod eang o sgiliau a phrofiad. Caiff hyn ei ategu gan gysylltiadau a phartneriaethau hirsefydlog ag arbenigwyr allanol a sefydliadau eraill, sy’n ein galluogi i gynnig gwasanaethau ymgynghori a gweithredu helaeth.
(Cwmni Cyfyngedig Rhif 1198990) (Elusen Gofrestredig Rhif 504616)
Dogfennaeth a Pholisïau Corfforaethol