Yn Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, rydym yn cydweithio ag athrawon i greu adnoddau addysg a dysgu, naill ai fel rhan o un o’n prosiectau neu gan fod ysgol wedi cysylltu â ni i’w helpu i gyflwyno meysydd o’r Cwricwlwm Cenedlaethol.
Gallwch fanteisio ar ein gwybodaeth a’n harbenigedd i addysgu’r rhan fwyaf o gyfnodau’r Cwricwlwm. Gallwn helpu i gyfoethogi profiadau dysgwyr drwy ddarparu deunyddiau cyd-destun ategol sy’n briodol ar gyfer oedrannau a galluoedd penodol.
Rydym yn awyddus i drafod cyfleoedd i gydweithio â’r rhai sy’n gweithio ym myd addysg. Os oes gennych ddiddordeb yn ein gwaith ag ysgolion ac addysgwyr, cliciwch yma.
Gweler ein hadnoddau addysgol a luniwyd ar gyfer sawl un o’n prosiectau mwy isod.