Cloddiadau ac Arolygon Maes

Mae rhai o fanteision cymryd rhan mewn cloddiadau archaeolegol a gwaith maes yn cynnwys cyffro darganfod hanes o dan eich traed, dysgu sgiliau newydd, manteision iechyd gweithio yn yr awyr agored, gwneud ffrindiau newydd, treulio amser â hen rai hefyd – a llawer mwy!

Gweithio ar gloddiadau ac arolygon archaeolegol yw un o’r cyfleoedd gwirfoddoli mwyaf poblogaidd rydym yn eu cynnig.

Rydym yn gweithio ar safleoedd amrywiol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru