Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol

Mae’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol, neu’r CAH, yn casglu ac yn trefnu gwybodaeth am bob safle, heneb, nodwedd ac arteffact hysbys sydd o ddiddordeb archaeolegol a/neu hanesyddol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.  Mae’r Cofnod yn cynnwys gwybodaeth o ddyddiadau sy’n amrywio o’r breswylfa ddynol hysbys cynharaf yn y rhanbarth, hyd at gyfnod y Rhyfel Oer.

Mae’r cofnodion yn cael eu creu o ystod eang iawn o ffynonellau, sy’n cynnwys cloddiadau ac arolygon archaeolegol a gynhaliwyd yn y rhanbarth, gwaith a wnaed gan ymchwilwyr academaidd, ac o ffynonellau anffurfiol fel grwpiau lleol, cymunedau ac unigolion.  Mae YAD hefyd yn gwneud gwaith ymchwil, y mae ei ganlyniadau wedi’u cynnwys yn y CAH.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymchwilio i’ch ardal leol neu ddarganfod mwy am gyfnod hanesyddol penodol, mae hwn yn lle da i ddechrau.  Os ydych chi’n gwneud gwaith ymchwil fel rhan o brosiect masnachol wedi’i ariannu, bydd angen i chi ofyn am chwiliad masnachol a byddwn yn codi tâl arnoch, yn unol â’n polisi codi tâl.

 

Gwneud cais am ymholiad y CAH.

 

Am fwy o wybodaeth am y CAH, cliciwch yma.

 

 

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru