ABERYSTWYTH

ABERYSTWYTH

CRYNODEB

Sefydlwyd Aberystwyth yn 1277. Sefydlwyd strydoedd y dref ar batrwm grid, a chodwyd mur cerrig i’w gwarchod. Mae arolwg sy’n dyddio o 1305 yn cofnodi 147 o diroedd bwrdais. Ymddengys mai hwn oedd y nifer uchaf yn y cyfnod canoloesol; yn yr unfed ganrif ar bymtheg dim ond 60-80 o dai cyfannedd a oedd ar gael. Heblaw am lond llaw o ymchwiliadau bach iawn, nid oes unrhyw waith cloddio archaeolegol wedi cael ei gynnal yn y dref.

FFEITHIAU ALLWEDDOL

Statws: Siarter tref, marchnad wythnosol, dwy ffair flynyddol.

Maint: 147 o diroedd bwrdais yn 1307. Lle i lawer mwy y tu mewn i furiau’r dref.

Archaeoleg: Llond llaw o ymchwiliadau bach iawn, gyda chanlyniadau gwael.

LLEOLIAD

Mae tref Aberystwyth wedi’i lleoli ar bentir isel ym Mae Ceredigion, yn union i’r gogledd o aber Afon Rheidol (SN 580 815), Ceredigion. Mae Cwmrheidol a Chwmystwyth yn darparu llwybrau i fewndir Ceredigion ac ymhellach i’r dwyrain. Mae ffordd arfordirol yr A487 yn mynd i Aberteifi tua’r de, ac i Ogledd Cymru tua’r gogledd.

HANES

Mae Aberystwyth yn dref gynlluniedig a gafodd ei chreu trwy gyfrwng siarter y Brenin Edward I yn 1277. Cafodd ei henwi’n Llanbadarn Gaerog i ddechrau, ar ôl eglwys a safle mynachaidd Llanbadarn Fawr 2 km i’r dwyrain. Rhoddwyd ei henw cyfredol, Aberystwyth, iddi yn ystod y bymthegfed ganrif.

Ddechrau’r ddeuddegfed ganrif, llwyddodd yr Eingl-Normaniaid i gael troedle yng ngogledd Ceredigion, ac aethant ati i adeiladu dau gastell. Mae tystiolaeth dda ar gael o safle un ohonynt, tra bo lleoliad yr ail yn destun dadl. Fodd bynnag, roedd Edward I o’r farn bod y ddau safle’n anaddas ar gyfer ei gastell a’i dref newydd; dewisodd bentir isel yn union i’r gogledd o’r fan lle mae Afon Rheidol yn mynd i mewn i’r môr. Aeth y gwaith o adeiladu amddiffynfeydd y dref rhagddo’n gyflym. Erbyn 1278, roedd ffos tref wedi cael ei chreu, a dwy flynedd yn ddiweddarach, dechreuwyd adeiladu muriau’r dref. Erbyn 1278, roedd melin wedi cael ei chodi, ac yn 1281 adeiladwyd cored ar Afon Rheidol i ddarparu pysgod i drigolion y dref newydd. Nid aeth y cynnydd yn y gwaith adeiladu rhagddo’n ddidrafferth; yn 1282, dinistriodd y Cymry y castell a muriau’r dref, a phum mlynedd yn ddiweddarach llosgasant y dref.

Anogwyd cyfanheddwyr i’r dref newydd, ac, yn wahanol i Aberteifi, Caerfyrddin a threfi eraill i’r de, lle nad oedd croeso i Gymry, cofnodwyd bwrdeisiaid o Loegr a Chymru yn Aberystwyth yn ystod teyrnasiad Edward I. Roedd amddiffynfeydd y dref yn sicrhau gwarchodaeth ffisegol i bobl y dref, a darparwyd amddiffyniad economaidd iddi trwy gyfrwng yr hawl i gynnal marchnad wythnosol a dwy ffair flynyddol, ynghyd â hawliau a breintiau eraill.

I ddechrau, nid oedd gan y dref ei heglwys ei hun; roedd yn rhaid i addolwyr gerdded neu farchogaeth i Lanbadarn Fawr, 2 km i ffwrdd. Bu’n rhaid aros tan ganol y bymthegfed ganrif cyn i’r Santes Fair gael ei chodi yn agos at y castell a’r môr. Yn 1762, adroddwyd bod erydiad arfordirol wedi dinistrio’r eglwys flynyddoedd ynghynt.

Mae’n anodd asesu poblogaeth y dref yn y degawdau cyntaf wedi iddi gael ei sefydlu, a hefyd, yn wir, yn ddiweddarach, yn y cyfnod canoloesol a modern cynnar. Yn 1298-1300, cofnodwyd 141½ o diroedd bwrdais, ond yn 1300-01 dim ond 120 o’r rhain a oedd yn gyfannedd. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, yn 1305, roedd yna 147 o diroedd bwrdais. Ni chofnodir faint o’r rhain a oedd yn gyfannedd.

Mae dogfennau canoloesol hwyr a modern cynnar yn darlunio tref nad oedd yn cyflawni ei llawn botensial: ddiwedd y bymthegfed/ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg, roedd tiroedd bwrdais gwag yn cyfrif am ran o’r rhent o £8 8s 6d na ellid ei gasglu; yn 1539, dim ond 68 o ddynion rhwng 16 ac 68 oed yr oedd Aberystwyth yn gallu eu mwstro, o gymharu â 372 o Gaerfyrddin a 160 o Ddinbych-y-pysgod; yn yr 1540au, dim ond 9% o gyfoeth trethadwy Caerfyrddin oedd cyfoeth trethadwy Aberystwyth; ac yn amser Elizabeth I, dim ond 60-80 o dai a oedd yn gyfannedd.

Mae bras-fap Lewis Morris sy’n dyddio o c.1740 yn nodi adfeilion y castell, yr eglwys, muriau’r dref (gyda rhai rhannau ar hyd y môr, yn ôl pob golwg, wedi’u dinistrio) a thai y tu mewn i furiau’r dref. Er mai bras-fap yn unig yw hwn, mae fel petai’n dangos llawer iawn o leoedd gwag y tu mewn i’r muriau a dim tai y tu allan iddynt. Cyn hwyred â dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd peth tir yn dal heb ei ddatblygu yng nghraidd hanesyddol y dref, fel y dangosir ar fap degwm Llanbadarn Fawr yn 1845 a’r cynllun o’r dref gan John Wood yn 1834.

MORFFOLEG

Cynllun dychmygol o Aberystwyth c.1320.

Er bod tref Aberystwyth ar dir isel, mae ei hamddiffynfeydd naturiol yn dda. Mae’n ffinio â’r môr i’r gogledd a’r gorllewin, ac aber Afon Rheidol i’r de. Erbyn hyn, mae yna adeiladau ar y tir gwastad i’r dwyrain a’r gogledd-ddwyrain, ond tan ddiwedd y ddeunawfed ganrif, byddai rhannau ohono wedi bod yn gors, ac efallai’n destun llifogydd llanwol achlysurol – roedd Morfa Swnd yn y gogledd a Morfa Mawr i’r dwyrain a’r de-ddwyrain.

Mae’r dref yn debyg i’r trefi hynny yng Ngogledd Cymru a sefydlwyd gan Edward I ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg; yn y bôn, roedd yn cynnwys strydoedd ar batrwm grid, a’r rheiny wedi’u hamgáu y tu mewn i furiau tref a oedd yn cael eu hangori gan gastell carreg sylweddol. Dwy brif stryd, sef y Stryd Fawr, sy’n rhedeg yn fras i’r dwyrain/gorllewin o’r castell, a Stryd y Bont/Heol y Wig, sy’n rhedeg yn fras i’r gogledd/de, sy’n ffurfio prif echelinau’r dref y mae patrwm grid y strydoedd wedi’u halinio â nhw. Heb os, cafodd y ddwy brif stryd hyn eu sefydlu pan sylfaenwyd y dref. Maent yn cwrdd ar groesffordd lle nad yw ffyrdd y gogledd/de yn union gyferbyn â’i gilydd; mae’r rheswm dros hyn yn aneglur, ond efallai mai hwn oedd safle’r farchnad ganoloesol a’i fod felly’n ardal agored fach yn hytrach na chroestoriad strydoedd. Cofnodir bod neuadd tref yn sefyll yma yn y cyfnod modern cynnar. Nid yw’n eglur a gafodd y strydoedd eraill eu sefydlu pan sylfaenwyd y dref neu a ydynt yn tarddu o gyfnod mwy diweddar, efallai cyn hwyred â’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn sicr, gellid cynnwys y 147 o diroedd bwrdais a gofnodwyd yn 1305 ar y Stryd Fawr, Stryd y Bont a Heol y Wig. Mae pob awdur sydd wedi ysgrifennu ar hanes Aberystwyth yn nodi bod llwybr mur y dref ganoloesol yn hawdd ei olrhain yn y patrwm strydoedd modern, er nad oes tystiolaeth yn bodoli ar ei gyfer nac ar gyfer gatiau’r dref. Nodwyd union linell mur y dref ar gyffordd Stryd y Ro a Than-y-cae wrth dorri ffos prif bibell ddŵr yno yn yr 1950au. Nid yw union linell y mur mewn mannau eraill yn hysbys. Yn yr 1970au, yn ystod gwaith ffordd a oedd yn croesi Heol y Wig ar linell a oedd, yn fras, yn dilyn canol Stryd y Brenin, nodwyd sylfeini mur trwchus wedi’i blastro â morter. Ymhellach i’r gorllewin, mae’n bosibl bod y mur wedi cael ei lyncu gan y môr. Yn agos at y fan hon neu o dan yr hyn a elwir bellach yr Hen Goleg, dinistriwyd Eglwys y Santes Fair gan y môr. Tybir bod yr eglwys y tu mewn i furiau’r dref, ac felly credir bod y muriau yn y lleoliad hwn wedi cael eu dinistrio gan y môr hefyd.

Mae pob awdurdod yn gosod gatiau’r dref ym mhen dwyreiniol y Stryd Fawr, pen deheuol Stryd y Bont a phen dwyreiniol y Porth Bach. Ar wahân i’r enw modern amlwg, nid yw’r rheswm dros fodolaeth gât yn y Porth Bach yn eglur, a hithau’n eithaf agos at yr un ar y Stryd Fawr. Lleoliad mwy amlwg ar gyfer trydedd gât i’r dref fyddai ar Heol y Wig, yn agos at y môr.

 

 

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru