ADPAR

ADPAR

CRYNODEB

Ddechrau’r ddeuddegfed ganrif, adeiladodd yr Eingl-Normaniaid gastell mwnt a beili yn Adpar ar lan ogleddol Afon Teifi, a buan y datblygodd anheddiad o’i gwmpas. Ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, sefydlwyd yr anheddiad ar hyd llinellau bwrdeisiol, a chafodd hawl i gynnal marchnad wythnosol a thair ffair flynyddol. Yn 1326, cofnodwyd 96 o fwrdeisiaid. Dirywiodd Adpar yn gyflym, ac nid oedd yn ddim mwy na phentref erbyn diwedd y cyfnod canoloesol. Nid oes unrhyw elfen wedi goroesi i ddynodi ei bwysigrwydd blaenorol.

FFEITHIAU ALLWEDDOL

Statws: marchnad wythnosol a thair ffair flynyddol.

Maint: 1326 96 o fwrdeisiaid.

Archaeoleg: Nodweddion yn gysylltiedig â’r castell wedi’u cofnodi mewn mantoliad.

LLEOLIAD

Mae Adpar yn sefyll ar lan ogleddol Afon Teifi yng Ngheredigion (SN 309 409). Tref Castellnewydd Emlyn yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi’i lleoli ar lan ddeheuol yr afon. Mae Dyffryn Teifi yn darparu llwybr da i Aberteifi a’r arfordir i’r gorllewin, ac i Ganolbarth Cymru i’r dwyrain. Mae ffyrdd yn arwain dros dir uchel i’r de i Gaerfyrddin ac i’r gogledd i Aberystwyth a thu hwnt.

HANES

Mae’n debyg mai’r Eingl-Normaniaid a oedd yn gyfrifol am adeiladu castell mwnt a beili ar lan ogleddol Afon Teifi yn Adpar (a elwir yn Atpar mewn rhai dogfennau hanesyddol), a hynny yn ystod eu meddiant byr o Geredigion ddechrau’r ddeuddegfed ganrif. Nid oes yna unrhyw hanes yn gysylltiedig â’r castell. Mae’n debygol bod anheddiad wedi datblygu’n naturiol y tu allan i’r castell yn ystod y ddeuddegfed ganrif a’r drydedd ganrif ar ddeg. Mae hanes diweddarach Adpar yn gysylltiedig â hanes Castellnewydd Emlyn ar lan ddeheuol yr afon, lle sefydlwyd castell c.1240 a thref yn 1303. Erbyn 1257, roedd pont yn bodoli ar draws Afon Teifi rhwng Adpar a Chastellnewydd Emlyn.

Roedd Adpar ym meddiant Esgob Tyddewi ac, ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, aeth yr Esgob Bek ati i aildrefnu anheddiad Cymreig a oedd eisoes mewn bodolaeth ar linellau deiliadaeth fwrdeisiol: enwau Cymraeg oedd gan fwyafrif y bwrdeisiaid cynnar. Rhoddwyd yr hawl i Adpar gynnal marchnad wythnosol a thair ffair flynyddol. Yn 1326 cofnodwyd 96 o fwrdeisiaid, a oedd yn golygu bod hon yn dref sylweddol o’i chyfnod. Roedd un unigolyn, Griffith Vachuan, yn ddeiliad nifer o diroedd bwrdais, roedd sawl unigolyn yn ddeiliaid tiroedd bwrdais yn Adpar a Chastellnewydd Emlyn, ac roedd 15½ o diroedd bwrdais yn nwylo’r esgobion oherwydd diffyg tenantiaid – nid oedd Adpar yn ffynnu.

Nid oes cofnod o eglwys yn Adpar (roedd yr eglwys ym mhlwyf Llandisiliogogo gynt, ond erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd ym mhlwyf Llandyfrïog), er bod offeiriaid yn cael eu cofnodi yn gweinidogaethu i’r bwrdeisiaid, a allai fod yn arwydd o gapel, o leiaf, yn y dref.

Nid oes gwaith ymchwil wedi’i wneud i hanes canoloesol diweddarach Adpar; prin yw’r dystiolaeth ddogfennol sydd wedi goroesi gan y collwyd llawer ohoni mewn tân yn 1752. Rhaid bod y cwymp enfawr ym mhoblogaeth Ewrop ym mlynyddoedd canol y bedwaredd ganrif ar ddeg, a’r ffaith bod Castellnewydd Emlyn wedi cael ei sefydlu ar lan arall Afon Teifi, wedi cael effaith ar ddatblygiad Adpar. Mae’n debygol bod Adpar, i bob pwrpas, yn y cyfnod canoloesol diweddarach, wedi peidio â gweithredu fel tref gan fod yr eiddo ynddi, erbyn 1536, yn nwylo ychydig o ystadau bach. Mae llun a luniwyd yn ystod taith Dug cyntaf Beaufort trwy Gymru yn 1684 yn dangos yn eglur fwnt Adpar, y bont dros Afon Teifi, a chastell Castellnewydd Emlyn, ac mae yna bebyll wedi’u gosod yn y rhan honno lle byddai’r hen dref wedi bod. Dim ond un adeilad bach sy’n cael ei ddangos. Yn 1741, cafodd ei hamddifadu o’i statws bwrdeistref (er nad yw’n ymddangos ei bod erioed wedi cael ei anrhydeddu â siarter).

MORFFOLEG

Map yn dangos Adpar c.1320, fel yr oedd, o bosibl, pan oedd ar ei mwyaf yn y cyfnod canoloesol.

Nid oes unrhyw beth yn bodoli bellach i ddynodi pwysigrwydd blaenorol Adpar. Ar wahân i’r mwnt, ni ellir canfod unrhyw elfennau canoloesol yn yr hyn sydd bellach yn bentref gyda llawer iawn o dai modern i’r gogledd a’r gogledd-orllewin. Mae’r briffordd trwy’r pentref, y B4571, yn rhedeg o’r bont dros Afon Teifi i’r gogledd, i fyny ochr dyffryn eithaf serth. Adeiladwyd yr A475, sy’n rhedeg o’r dwyrain ar hyd ochr yr afon i’r bont, ar ôl 1844 gan nad yw i’w gweld ar fap degwm y plwyf. Efallai bod y ffordd sy’n rhedeg i’r gorllewin o’r bont, y B4333, ar hyd Teras Lloyd, hefyd yn llwybr diweddar gan fod map yn 1811 gan Thomas Budgen, sydd yn y Llyfrgell Brydeinig, yn ei darlunio’n ffordd bengaead. Ar y map degwm, mae i’r llwybr dwyreiniol/gorllewinol gwreiddiol trwy Adpar groesffordd yng nghanol yr anheddiad.

Mae’r mwnt canoloesol wedi’i leoli ar ochr ddwyreiniol y ffordd gogledd/de trwy’r pentref, 60 m i’r gogledd o’r bont. Mae tystiolaeth a ddatgelwyd mewn mantoliad archaeolegol yn awgrymu y gallai beili fod wedi’i leoli i’r gogledd o’r mwnt. Roedd yr eiddo cul, hir ar ddwy ochr Teras Lloyd, a ddangosir ar fap Ordnans 1889, wedi arwain rhai awduron i gredu eu bod yn lleiniau tir bwrdais canoloesol, ond mae archwiliad o’r mapiau cynharach yn dangos eu bod wedi cael eu codi ym mlynyddoedd canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae lleoliad yr eiddo, a ddelid gan y 96 o fwrdeisiaid yn 1326, yn aneglur, ond mae’n fwyaf tebygol eu bod wedi’u clystyru o amgylch pen y bont, ar ddwy ochr y ffordd gogledd/de ac yn gyfochrog ag isffyrdd.

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru