Parciau Ceirw

Nod y prosiect hwn oedd nodi safleoedd parciau ceirw yn ne-orllewin Cymru, asesu eu cyflwr a gwneud argymhellion ar gyfer yr enghreifftiau gorau i roi gwarchodaeth statudol iddynt.

Roedd parciau ceirw canoloesol yn ardal o dir, wedi’i hamgáu fel arfer, a oedd wedi’i neilltuo ar gyfer rheoli ceirw ac anifeiliaid gwyllt eraill er mwyn darparu cyflenwad bwyd cyson a chynaliadwy trwy gydol y flwyddyn. Yn y cyfnod ôl-ganoloesol, symudodd swyddogaeth y parc ceirw o fod yn ased economaidd i fod yn rhan o dirwedd addurnol wedi’i dylunio ar gyfer gwerthoedd amwynder a bri. Nododd y prosiect 14 o barciau ceirw o ddyddiad canoloesol, a thri o ddyddiad ôl-ganoloesol yn ne-orllewin Cymru.

N

Detholiad o fap 1578 Christopher Saxton yn dangos parciau ceirw yn ne Sir Benfro

Adroddiad Asesu Bygythiad i Barciau Ceirw (mewn ffurf PDF – yn agored mewn ffenestr newydd)

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru