(English) FISHGUARD

ABERGWAUN

CRYNODEB

Mae gwreiddiau Abergwaun yn aneglur, ond roedd yn anheddiad cymharol fach a di-nod tan yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif, pan ddatblygodd i fod yn brif dref gogledd Sir Benfro. Nid oes tystiolaeth iddi fod yn dref yn y cyfnod canoloesol. Mae’r unig ymchwiliad archaeolegol a gynhaliwyd yng nghraidd hanesyddol Abergwaun wedi bod ar raddfa fach, ond datgelodd ddyddodion haenedig yn mynd yn ôl i’r cyfnod canoloesol.

FFEITHIAU ALLWEDDOL

Statws: pentref

Maint: anhysbys

Archaeoleg: nodwyd archaeoleg ganoloesol mewn mantoliad yng nghanol Abergwaun.

LLEOLIAD

Mae tref Abergwaun wedi’i lleoli ar arfordir gogledd Sir Benfro (SN 958 370), uwchben harbwr naturiol da. Mae craidd hanesyddol Abergwaun, y dref uchaf, yn sefyll ar dir uchel 70 m uwchben lefel y môr. Mae’r dref isaf wedi’i lleoli o amgylch cildraeth cysgodol sydd 0.5 km i’r gorllewin. Mae’r harbwr yn Wdig, 1.8 km i’r gogledd, bellach yn ganolfan fasnachol/ddiwydiannol ar gyfer Abergwaun.

HANES

Nid oes llawer o ffynonellau na hanes cyhoeddedig ar gael am Abergwaun yn yr Oesoedd Canol a’r cyfnod modern cynnar. Ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg, yn ôl traddodiad, yn ystod ton gyntaf y goncwest Eingl-Normanaidd yn Ne-orllewin Cymru, cafodd ‘Abergwaun’, ynghyd â thiroedd eraill yn yr hyn a oedd i ddod yn arglwyddiaeth Cemais, eu rhoi i Jordan de Cantington, a hynny gan ffigur niwlog o’r enw Martin o Tours. Nid oes yna dystiolaeth hanesyddol i gefnogi’r traddodiad hwn, ond yr hyn sy’n sicr yw bod Cemais, erbyn 1115, yn nwylo’r arglwydd Eingl-Normanaidd, Robert Fitzmartin. Sefydlodd y teulu Fitzmartin gastell yn eu harglwyddiaeth yn Nanhyfer, gan ei drosglwyddo i Drefdraeth ar ddiwedd y ddeuddegfed ganrif, a sefydlu tref yno hefyd. Mae’n annhebygol y byddai’r teulu Fitzmartin wedi goddef ail dref yng Nghemais i gystadlu â’u tref newydd yn Nhrefdraeth, ac felly mae’n rhaid cwestiynu bodolaeth anheddiad sylweddol yn Abergwaun cyn y drydedd ganrif ar ddeg. Nid oes yna unrhyw siarter tref ganoloesol yn hysbys ac nid oes cofnod o farchnad na ffair ar gael chwaith. Cyfeiriodd Comisiynwyr Corfforaethau Bwrdeisiol 1835 at arolwg yn 1653 a oedd yn ystyried Abergwaun yn dref ac yn crybwyll tiroedd bwrdais. Yn 1586 etholwyd porthfaer, ac mae dogfennau diweddarach yn cofnodi bwrdeisiaid. Mae’r dystiolaeth hon yn dangos nad oedd Abergwaun yn ddim mwy na phentref yn y cyfnod canoloesol, ac mai yn y cyfnod modern cynnar yr enillodd statws uwch a dod yn brif dref gogledd Sir Benfro.

Cofnodwyd eglwys blwyf y Santes Fair yn 1291 – mae’r adeilad presennol yn dyddio o 1855-57 a thybir ei fod ar safle’r eglwys ganoloesol.

Mae cyfeiriadau o’r ddeunawfed ganrif yn cyfeirio at dref uchaf a thref isaf.

MORFFOLEG

Oherwydd prinder tystiolaeth hanesyddol, mae diffinio cymeriad a maint yr Abergwaun ganoloesol yn broblem, os nad yn amhosibl bron. Mae’n rhesymol tybio bod yr Eglwys y Santes Fair bresennol, sy’n deillio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn meddiannu safle’r eglwys ganoloesol, a bod y patrwm strydoedd yng nghyffiniau’r eglwys a ddangosir ar fap degwm 1843 wedi bodoli ers sawl canrif. Y strydoedd hyn yw: Y Sgwâr, Y Wesh a’r Heol Fawr. Mae’n debyg bod y Sgwâr yn gweithredu fel maes/marchnad y pentref, gyda thai yn glwstwr o’i gwmpas, ond ni wyddys faint o dai a pha mor bell yr oeddent yn estyn ar hyd y strydoedd a enwir uchod.

Rhaid cymryd yn ganiataol bod anheddiad wedi datblygu yn ystod y cyfnod canoloesol yn y man a dyfodd yn ddiweddarach i fod yn dref isaf o amgylch harbwr naturiol da.

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ehangodd y trefi uchaf ac isaf, a pharhau i wneud hynny gydol yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain.

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru