TALACHARN

TALACHARN

CRYNODEB

Ddechrau’r ddeuddegfed ganrif, sefydlwyd castell yn Nhalacharn, a buan y datblygodd anheddiad y tu allan i gatiau’r castell. Fodd bynnag, dim ond yn 1247 y rhoddodd Guy de Brian siarter tref i Dalacharn, ac roedd hi’n 1465 cyn y rhoddwyd trwydded i godi muriau ar gyfer y dref. Roedd y drwydded hon, bron yn sicr, yn rhoi caniatâd i ddisodli amddiffynfeydd pridd a phren â rhai carreg. Roedd ardal y dref gaerog yn fach iawn, ac erbyn y cyfnod canoloesol diweddarach, mae’n debygol bod y rhan fwyaf o’r dref y tu allan i’r amddiffynfeydd. Dirywiodd y dref o leiaf o ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg ymlaen, ac ni ddechreuodd pethau wella yno tan ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Mae ymchwiliadau archaeolegol wedi dangos bod dyddodion archaeolegol canoloesol a diweddarach sylweddol yn debygol o fod wedi goroesi mewn sawl lleoliad yn y dref.

FFEITHIAU ALLWEDDOL

Statws: Siarter tref 1247, marchnad wythnosol a ffair flynyddol.

Maint: Anhysbys – yn 1592 cofnodwyd 161½ o diroedd bwrdais.

Archaeoleg: Mae gwaith cloddio wedi datgelu dyddodion archaeolegol sy’n dyddio o’r ddeuddegfed/drydedd ganrif ar ddeg.

LLEOLIAD

Mae tref Talacharn wedi’i lleoli ar lan orllewinol Afon Taf yn ei chydlifiad â’r afon fach, Afon Coran (SN 302 108), Sir Gaerfyrddin. Yn union i lawr yr afon o Dalacharn, mae Afon Taf yn uno ag Afon Tywi ac Afon Gwendraeth, gan ffurfio aber helaeth. Ar lanw uchel, mae’r dŵr yn llepian o amgylch troed y castell a thref Talacharn; ar lanw isel, mae’r aber yn ehangder eang o dywod a mwd, gydag Afon Taf yn sianel gul ynddo. Mae trefi Caerfyrddin, Cydweli a Sanclêr hefyd wedi’u lleoli ar aberoedd llanw Afon Tywi/Afon Taf/Afon Gwendraeth.

HANES

Daeth gwaith cloddio yn y castell o hyd i dystiolaeth o feddiannaeth Rufeinig (OC, yr ail ganrif-y bedwaredd ganrif), ac, o bosibl, waith amddiffynnol a oedd wedi mynd rhagddo yn union cyn y cyfeiriad dogfennol cynharaf at y castell yn OC 1116. Yn yr un modd â chestyll eraill yn Ne-orllewin Cymru, roedd Talacharn yn pendilio rhwng rheolaeth Gymreig a rheolaeth Seisnig. Fodd bynnag, yn 1247, cymerodd Guy de Brian reolaeth ar y castell, ac arhosodd yn nwylo teulu de Brian tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg. Roedd y castell cyntaf o bridd a phren wedi cael ei ddisodli gan gastell carreg ar ddiwedd y ddeuddegfed ganrif, ond y teulu de Brian a drawsnewidiodd y castell yn gadarnle pwysig.

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, newidiodd John Perrot y gaer ganoloesol segur yn blasty Tuduraidd. Gadawyd y gwaith heb ei gwblhau ar ei farwolaeth yn 1592. Ar wahân i warchae yn 1644 yn ystod y Rhyfel Cartref, gadawyd i’r castell ddadfeilio’n dawel tan 1973, pan roddodd y Wladwriaeth ef dan warchodaeth a dechrau rhaglen o’i adfer.

Tybir bod anheddiad wedi datblygu’n naturiol y tu allan i gatiau’r castell yn ystod y ddeuddegfed ganrif. Yn 1247, rhoddodd Guy de Brian siarter tref i Dalacharn, ynghyd â marchnad wythnosol a ffair flynyddol. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, llosgodd Rhys Fychan y dref. Rhoddwyd siarter newydd yn 1278-82, a hynny, mae’n debyg, mewn ymgais i adfywio tref a oedd yn diffygio yn dilyn cael ei llosgi. Nid oes cofnod ar gael o faint y dref yn y cyfnod canoloesol.

Yn 1465, rhoddwyd trwydded i’r dref godi muriau. Mae’n debygol bod y drwydded hon yn rhoi caniatâd i newid amddiffynfeydd pridd a phren yn rhai carreg.

Roedd arolwg yn 1592 wedi cofnodi 161½ o diroedd bwrdais yn y dref.

Mae’n ymddangos bod y dref wedi dirywio o ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg ymlaen gan fod cofnodion Corfforaeth Talacharn yn nodi’r canlynol yn 1751, ‘ye whole street from the Gate above the Market House to the Cross the Church of be Ruinous’. Fodd bynnag, mae map degwm 1840 yn dangos tua’r un nifer o diroedd bwrdais ag a gofnodwyd yn arolwg 1592.

Ddiwedd y ddeunawfed ganrif, datblygodd Talacharn i fod yn lle poblogaidd i ymddeol ynddo ar gyfer y rhai na allent fforddio Caerfaddon a threfi sba eraill yn Lloegr. Arweiniodd hyn at adeiladu nifer o dai Sioraidd deulawr a thrillawr godidog. Fodd bynnag, o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen, dirywiodd y dref yn raddol, gan brofi dim ond twf cymedrol hyd at ganol yr ugeinfed ganrif, pan godwyd ystad fach o dai ar gyrion deheuol y dref.

Mae eglwys blwyf San Martin, sydd i’r gogledd o graidd y dref, yn adeilad canoloesol sylweddol ac iddo fawr ddim tystiolaeth o sail gyn-Normanaidd.

MORFFOLEG

Mae’r castell wedi’i leoli yng nghanol y dref. Mae’r brif stryd, Heol y Farchnad, yn arwain yn union i’r gogledd o’r castell. Heol Wogan a Duncan Street sy’n arwain o Heol y Farchnad i’r gorllewin, a Lôn y Farchnad i’r dwyrain. Mae’r strydoedd hyn, ynghyd â’r farchnad ar gyffordd Heol y Farchnad a Lôn y Farchnad, sydd bellach yn gartref i Neuadd y Dref/Neuadd y Farchnad, yn ffurfio craidd y dref ganoloesol. Mae dadansoddiad o arolwg 1592 yn dangos mai dim ond 25 o diroedd bwrdais a oedd i’w cael yn y dref gaerog (32½ os yw un yn cynnwys y 7½ a gafodd John Perrot ar gyfer gardd ger y castell – roedd y rhain wedi’u lleoli ar ochr ddeheuol Lôn y Farchnad). Ar wahân i rywfaint o gyfuno a rhannu, gellir olrhain cynllun y tiroedd bwrdais canoloesol ar fap degwm 1840 ac ar fapiau mwy diweddar.

Cynllun dychmygol o dref Talacharn fel yr oedd, o bosibl, c.1150.

Roedd y cylch amddiffynnol yn amgáu ardal fach. Safai un o gatiau’r dref ym mhen gogleddol Heol y Farchnad, un ar waelod naill ai Heol Wogan neu Duncan Street, ac un, mae’n debyg, yn agos at ben Victoria Street. Mae rhai awdurdodau wedi awgrymu bod yr amddiffynfeydd yn amgáu ardal fwy; mae’n debyg nad yw hyn yn gywir, ond mae’n bosibl bod blociau cerrig enfawr a ddatgelwyd wrth adeiladu tai yn Moir Gardens ddechrau’r 1980au yn rhan o gylch amddiffynnol estynedig na chafodd erioed ei orffen yn iawn.

Cynllun dychmygol o dref Talacharn fel yr oedd, o bosibl, c.1320.

Mae’n hynod o debygol bod tiroedd bwrdais wedi cael eu sefydlu ar hyd Heol y Brenin yn y cyfnod canoloesol, sy’n parhau llinell Heol y Farchnad i’r gogledd. Mae arolwg 1592 yn cofnodi 34½ o diroedd bwrdais ar ochr orllewinol Heol y Brenin a 18 ar yr ochr ddwyreiniol; o ganiatáu ar gyfer uno rhai a rhannu eraill, gellir eu holrhain yn hawdd ar fapiau modern.

Hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd eglwys blwyf San Martin yn sefyll mewn lleoliad ynysig i’r gogledd o’r dref. Dim ond ers hynny y mae’r datblygiad rhuban wedi cysylltu’r ddwy ran.

Yn draddodiadol, y Grist ar waelod Heol Wogan yw safle Eglwys Crist, a hynny oherwydd y gweddillion dynol sydd wedi dod i’r golwg yno, ond gallai’r enw gyfeirio at felin ŷd hefyd (grist = ŷd i’w falu). Roedd y Grist bron yn sicr yn gilfach lanw yn y cyfnod canoloesol, ac efallai’n lleoliad glanfeydd a cheiau.

Y tu ôl i fur cerrig uchel ar gyrion y Grist yng ngwaelod Heol Wogan y mae Island House, adeiladwaith sydd o bosibl yn cynnwys elfennau modern cynnar. Mae gwaith cloddio wedi datgelu dyddodion canoloesol haenedig dwfn yng ngardd Island House, a’r rheiny’n dyddio’n ôl i’r drydedd ganrif ar ddeg, o leiaf, ac, o bosibl, yn gysylltiedig â’r porthladd. Mae yna adroddiadau o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg am olion Rhufeinig a ddarganfuwyd yma. Gyferbyn ag Island House oedd y felin, ac mae ei hadeiladwaith wedi goroesi ond wedi cael ei addasu’n helaeth.

Mae Heol Gosport yn troelli i fyny’r llethr i’r de o’r Grist. Mae arolwg 1592 yn cofnodi 84 o diroedd bwrdais ar ochr ddeheuol y Grist ac ar Heol Gosport. Mae map degwm c.1840 yn rhoi darlun gweddol gywir o’r lleiniau hyn.

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru