LLANGADOG

 

CRYNODEB

Mae Llangadog yn dref anarferol i Dde-orllewin Cymru gan ei bod, yn ôl pob tebyg, yn tarddu o goncwest gyn Eingl-Normanaidd, a heb unrhyw ddylanwad Eingl-Normanaidd eglur arni wrth iddi ddatblygu i fod yn dref yn y ddeuddegfed/drydedd ganrif ar ddeg. Tref fach oedd Llangadog bob amser, ac ni thyfodd lawer y tu hwnt i’w ffiniau canoloesol nes bod cryn dipyn o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi mynd heibio. Mae ymchwiliadau archaeolegol yn cynnwys dau friff gwylio bach, ac felly nid yw’n hysbys pa ddyddodion archaeolegol sydd wedi goroesi.

FFEITHIAU ALLWEDDOL

Statws: Cofnodir marchnad wythnosol a ffeiriau blynyddol. Dim siarter tref.

Maint: 1326 33 o fwrdeisiaid.

Archaeoleg: Dim byd o arwyddocâd.

LLEOLIAD

Mae tref Llangadog wedi’i lleoli ar ochr ddeheuol Dyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin, ar dafod o dir gwastad rhwng Afon Sawdde ac Afon Brân (SN 706 284). Mae Dyffryn Tywi yn darparu mynediad hawdd i’r gorllewin i orllewin Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, ac i’r gogledd a’r dwyrain i Ganolbarth Cymru. Mae tref Llandeilo wedi’i lleoli 9 km i lawr y dyffryn i gyfeiriad y de-orllewin, a Llanymddyfri 8.5 km i fyny’r dyffryn i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain. Mae Cwm Sawdde yn darparu llwybr dros y Mynydd Du i’r de.

HANES

Mae hanes Llangadog yn fylchog. Mae’n debygol bod eglwys Cadog Sant wedi’i sefydlu cyn y goncwest Eingl-Normanaidd yn Ne-orllewin Cymru, a chredir, yn gyffredinol, mai hon yw’r eglwys y cyfeirir ati yn Llyfr Llandaf, er bod rhai awdurdodau’n anghytuno â hyn. Yn ystod eu concwest yn Ne-orllewin Cymru, sefydlodd yr Eingl-Normaniaid Gastell Meurig 1 km i’r de o’r eglwys, a hynny ar ddechrau’r ddeuddegfed ganrif mae’n debyg, er mai yn 1160 y ceir y cyfeiriad cynharaf ato. Cafodd ei ddinistrio yn 1209. Roedd yn gastell mwnt a beili pridd a phren, ac nid yw’n ymddangos ei fod wedi cael ei ddisodli gan gastell carreg.

Yn wahanol i drefi eraill yn Ne-orllewin Cymru, ni ddatblygodd anheddiad y tu allan i’r castell ond yn hytrach o amgylch yr eglwys. Mae’r rheswm dros hyn yn aneglur, ond mae Llyfr Du Tyddewi (1326) yn cofnodi 33 o fwrdeisiaid, pob un ohonynt ag enwau Cymraeg, ac mae’n bosibl bod Llangadog yn anarferol am ei fod yn anheddiad cyn Eingl-Normanaidd a oedd wedi’i ganoli ar yr eglwys, a hwnnw wedi datblygu i fod yn dref Gymreig. Daeth Llangadog dan nawdd Esgobion Tyddewi. Yn 1281, rhoddodd yr Esgob Bek hawl i gynnal marchnad wythnosol a ffeiriau blynyddol, ac yn 1283 sefydlodd goleg ar gyfer blaenor y gân a 21 o ganoniaid; byrhoedlog oedd hanes y coleg hwn, a chafodd ei symud i Abergwili yn 1287; mynegwyd amheuaeth pa un a gyflawnwyd y bwriad erioed. Nid oes unrhyw siarter tref yn hysbys.

Nid oes gwaith ymchwil wedi’i wneud i hanes diweddarach Llangadog. Mae map degwm 1839 yn dangos anheddiad bach a oedd yn cynnwys un stryd yn y bôn; mae’n debyg mai dyma oedd maint y dref am lawer o’r cyfnod canoloesol ac ymlaen i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dim ond yn yr ugeinfed ganrif y cafwyd gwaith datblygu i’r gogledd a’r de.

MORFFOLEG

Cyn i waith ehangu cymedrol fynd rhagddo o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen, roedd Llangadog yn cynnwys un stryd 250 m o hyd (Heol y Llan); roedd hon yn croesi Afon Brân yn ei phen gogleddol, ac roedd Sgwâr y Frenhines yn ei phen deheuol. Mae Heol y Llan yn gwyro o amgylch mynwent Cadog Sant, sy’n grwn ei siâp, yn fras, ac mae hyn yn dynodi bod y ffordd a’r dref yn dyddio o gyfnod ar ôl i’r eglwys gael ei sefydlu. Fel y nodwyd uchod, mae map degwm 1839 yn dangos maint y dref fel yr oedd, yn ôl pob tebyg, o’r drydedd ganrif ar ddeg hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae ffryntiadau’r stryd ar ddwy ochr Heol y Llan ar ffurf ffasâd bron yn ddi-dor o dai ac eiddo masnachol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan gynnwys sawl adeilad rhestredig. Tybir mai Sgwâr y Frenhines, sy’n drionglog ei siâp, oedd safle’r farchnad wythnosol a roddwyd i’r dref yn 1281.

Cynllun dychmygol o dref Llangadog fel yr oedd, o bosibl, c.1320.

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru