CASTELLNEWYDD EMLYN

CASTELLNEWYDD EMLYN

 CRYNODEB

Yn 1240, mewn tro yn Afon Teifi, adeiladwyd castell newydd yn Emlyn. Datblygodd anheddiad y tu allan i gatiau’r castell, a chafodd ei ffurfioli’n fwrdeistref yn 1303, pan roddwyd marchnad wythnosol a dwy ffair flynyddol iddo. Yn 1316 cofnodwyd 62 o diroedd bwrdais, ynghyd â 24 o denantiaid eraill. Roedd yn ymddangos mai hwn oedd uchafbwynt y dref ganoloesol gan mai dim ond 30 o fwrdeisiaid a oedd yn bresennol erbyn dechrau’r bymthegfed ganrif. Roedd y dref ganoloesol yn cynnwys tair prif stryd, sef Castle Street, Stryd y Bont a Stryd y Sycamorwydden, a oedd yn cwrdd mewn marchnad siâp triongl.

FFEITHIAU ALLWEDDOL

Statws: Marchnad wythnosol a dwy ffair flynyddol. Dim siarter tref.

Maint: 1316, 62 o diroedd bwrdais, ynghyd â 24 o denantiaid eraill.

Archaeoleg: Datgelwyd claddedigaethau a gweddillion eraill mewn cloddiadau yng Nghapel y Drindod Sanctaidd. Ymchwiliwyd i odyn grochenwaith ganoloesol i’r de o’r dref.

LLEOLIAD

Saif Castellnewydd Emlyn ar lan ddeheuol Afon Teifi yn Sir Gaerfyrddin (SN 310 407), a hynny ar benrhyn cul a ffurfiwyd gan ystum rhychog yn yr afon. Mae’r dref wedi’i lleoli ar un o fannau pontio Afon Teifi. Mae tref ganoloesol Adpar wedi’i lleoli ar y lan ogleddol, yng Ngheredigion. Mae Dyffryn Teifi yn darparu llwybr da i Aberteifi a’r arfordir i’r gorllewin, ac i Ganolbarth Cymru i’r dwyrain. Mae ffyrdd yn arwain dros dir uchel i’r de i Gaerfyrddin, ac i’r gogledd i Aberystwyth a thu hwnt.

HANES

Yn 1240, adeiladodd Maredudd ap Rhys gastell newydd yn Emlyn yn Sir Gaerfyrddin, yn nhro ystum amlwg ar Afon Teifi, a chafodd ei alw yn ‘castell newydd’ er mwyn ei wahaniaethu oddi wrth yr ‘hen gastell’ a oedd wedi’i leoli yng Nghilgerran, er bod rhai awdurdodau’n lleoli’r ‘hen gastell’ yng Nghenarth. Buan iawn y daeth y castell newydd yn ganolfan weinyddol y rhanbarth. Tybir i anheddiad ddatblygu y tu allan i gatiau’r castell, ond er yr ymosodwyd arno ac iddo newid dwylo deirgwaith yn 1287, nid oes yr un o’r ffynonellau hanesyddol yn sôn am fodolaeth anheddiad. Fodd bynnag, mae rhai awdurdodau’n cyfeirio at y clwstwr o dai a ddatblygodd y tu allan i’r castell fel ‘Trefcastell’. Roedd pont dros Afon Teifi yn bodoli yn 1257, a oedd yn cysylltu Castellnewydd â chastell ac anheddiad Adpar ar lan ogleddol yr afon, yng Ngheredigion. Ddiwedd y ddeuddegfed ganrif, ffurfiolwyd Adpar yn dref gyda marchnad wythnosol a thair ffair flynyddol. Cofnodwyd 96 o fwrdeisiaid yno yn 1326.

Roedd hi’n 1303 cyn y sefydlwyd tref o’r enw Y Drenewydd neu Drefnewydd Emlyn (a elwir yn Gastellnewydd Emlyn o’r pwynt hwn ymlaen). Cofnodwyd 26 o diroedd bwrdais y flwyddyn ganlynol. Ehangodd y dref newydd yn gyflym; cofnodwyd 54 o diroedd bwrdais yn 1305, 61 yn 1307, a 62 yn 1316, ynghyd â 24 o denantiaid eraill. Sefydlwyd dwy ffair flynyddol a marchnad wythnosol.

Saif y dref ym mhlwyf Cenarth, ac felly nid oedd ganddi eglwys – adeiladwyd yr eglwys blwyf bresennol, Eglwys y Drindod Sanctaidd, yn 1842. Fodd bynnag, roedd capel anwes a oedd wedi’i gysegru i’r Drindod Sanctaidd yn sefyll y tu allan i’r castell, ac mae i’w weld ar fap degwm 1839.

Roedd dechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg yn uchafbwynt i’r dref. Fel llawer o drefi yn y rhanbarth, cafodd y cwymp yn y boblogaeth ledled Ewrop effaith ddwys ar Gastellnewydd Emlyn, ac mae’n rhaid bod cystadleuaeth ag Adpar ar lan arall Afon Teifi wedi llesteirio twf. Ar ddechrau’r bymthegfed ganrif, adroddir bod y castell yn adfail a bod y refeniw gan y bwrdeisiaid yn ddim mwy na 30 swllt (o wybod bod y refeniw fesul tir bwrdais yn 12 ceiniog, roedd hyn yn cyfateb i 30 o fwrdeisiaid).

Nid oes gwaith ymchwil wedi’i wneud i hanes diweddarach Castellnewydd Emlyn, ond llithrodd i ebargofiant, a’i statws blaenorol bron yn angof.

MORFFOLEG

Mae’r castell wedi’i leoli ar safle sy’n cael ei amddiffyn yn dda yn naturiol gan ei fod y tu mewn i ystum rhychog ar Afon Teifi, a thua 10 m uwchben yr afon. Ychydig iawn o waith maen sy’n sefyll sydd wedi goroesi. Mae gwrthgloddiau sy’n gysylltiedig â’r castell yn cynnwys cilgant a godwyd yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr yn yr ail ganrif ar bymtheg. Mae tiroedd y castell presennol yn estyn ymhellach i’r gorllewin na hyd a lled y castell canoloesol – mae’n bosibl bod yr anheddiad gwreiddiol wedi datblygu ar yr hyn sydd bellach yn dir agored yn union i’r gorllewin o’r olion canoloesol sy’n sefyll.

Cynllun sgematig o dref Castellnewydd Emlyn fel yr oedd, o bosibl, pan oedd ar ei mwyaf yn y cyfnod canoloesol, c.1320.

Mae’r ffordd i’r castell yn dod o gyfeiriad y gorllewin, ar hyd Castle Street. Roedd y capel canoloesol, Capel y Drindod Sanctaidd, wedi’i leoli tuag at ben dwyreiniol Castle Street, y tu allan i gatiau’r castell. Yn ei phen dwyreiniol, mae Castle Street wedi cael ei hehangu i ffurfio maes parcio. Ar ochr ddeheuol y stryd, mae’r tir yn disgyn ymaith yn serth i’r afon; mae’r tir ar yr ochr ogleddol yn wastad – mae eglwys Gatholig o ddiwedd yr ugeinfed ganrif wedi’i lleoli yma. Mae’r map degwm yn dangos pen dwyreiniol Castle Street ar ffurf tir agored, ac eithrio am Gapel y Drindod Sanctaidd. Mae pen gorllewinol Castle Street yn gul ac mae adeiladau o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac adeiladau diweddarach o boptu iddi. Yn ei phen gorllewinol pellaf un, mae’r stryd yn agor allan yn farchnad siâp triongl, sydd bellach yn cael ei defnyddio gan neuadd farchnad Fictoraidd, a ddisodlodd adeilad cynharach.

Mae stryd gogledd/de, sef y briffordd trwy’r dref, yn croesi ochr orllewinol y farchnad. I’r gogledd o’r farchnad mae’n rhedeg i lawr i’r bont dros Afon Teifi, ac felly’n cael ei galw’n Stryd y Bont; i’r de fe’i gelwir ‘nawr yn Stryd y Sycamorwydden. Mae ffasâd bron yn barhaus o adeiladau’r ddeunawfed ganrif, y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif i’w gael yn rhes ar hyd y ddwy stryd hyn. Mae Lôn yr Eglwys yn rhedeg i’r gorllewin o’r farchnad, gan sicrhau mynediad i Eglwys y Drindod Sanctaidd sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae’r lleiniau tai hir, cul a rheolaidd ar Church Street, Stryd y Bont a Stryd y Sycamorwydden yn dynodi eu bod wedi cael eu sefydlu ar ffurf lleiniau tir bwrdais, a hynny mae’n debyg pan gafodd y fwrdeistref ei chreu yn 1303.

Mae map Thomas Budgen o 1811 yn dangos adeiladau ar hyd dwy ochr Stryd y Bont, Stryd y Sycamorwydden a phen gorllewinol Castle Street, gyda chanolbwynt eilaidd i’w weld o amgylch ffordd dyrpeg (yr A484 bellach) i’r de. Ychydig o newid a oedd wedi bod erbyn 1839, pan arolygwyd map degwm plwyf Cenarth. Ni chafodd tai newydd a datblygiadau eraill eu codi ar raddfa fawr o gwbl tan ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Nid oes yna dystiolaeth ar gael fod y dref ganoloesol yn gaerog, ond fel y mae ysgrifenwyr blaenorol wedi nodi, byddai wedi bod yn fater syml creu clawdd a ffos ar draws gwddf yr ystum i amddiffyn yr anheddiad o amgylch y castell.

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru