PENFRO

PENFRO

CRYNODEB

Rhoddodd y Brenin Harri I siarter tref i Benfro yn 1100. Tyfodd y dref yn gyflym, gan estyn i’r dwyrain o’r castell ar hyd y Stryd Fawr. Mae morffoleg Penfro yn dynodi bod y dref wedi cael amddiffynfeydd yn gynnar yn ei hanes. Parhaodd y boblogaeth i dyfu, a chafodd tiroedd bwrdais eu sefydlu ymhellach i lawr y Stryd Fawr, i gyfeiriad y dwyrain. Ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg codwyd muriau o amgylch y dref gyfan. Yn 1326-7, cofnodwyd 238½ o diroedd bwrdais, a oedd yn golygu bod yna boblogaeth o dros 1,000 yn y dref. Nid oes unrhyw ymchwiliadau archaeolegol graddfa fawr wedi cael eu cynnal yn y dref, ond cofnodwyd dyddodion canoloesol a diweddarach sylweddol a haenedig dwfn yn ystod mantoliad o diroedd bwrdais ger y castell.

FFEITHIAU ALLWEDDOL

Statws: Siarter tref 1100.

Maint: 1326 238½ o diroedd bwrdais.

Archaeoleg: Prin yw’r ymchwil archaeolegol sydd wedi cael ei chynnal yn y dref, ond mae gwaith yn agos at y castell wedi datgelu dyddodion haenedig dwfn.

LLEOLIAD

Mae tref Penfro wedi’i lleoli ar gefnen galchfaen isel ar Afon Penfro, sy’n gangen o Ddyfrffordd Aberdaugleddau yn ne Sir Benfro (SM 986 014). Saif y castell ar flaen gorllewinol y gefnen, ac mae’r dref yn estyn tua’r dwyrain ar hyd brig y gefnen. Mae glannau’r Ddyfrffordd wedi gweld cryn ddiwydiannu ers dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond cyn hynny roedd tref Penfro wedi’i lleoli mewn tirwedd amaethyddol a oedd yn cynnwys peth o’r tir fferm mwyaf ffrwythlon yng Nghymru.

HANES

Yn 1093, goresgynnodd Roger de Montgomery Dde-orllewin Cymru a sefydlu castell ym Mhenfro. Nid oes yna dystiolaeth uniongyrchol o oresgyniad ym Mhenfro cyn y goncwest Eingl-Normanaidd, ond ymddengys bod Roger wedi anelu’n syth at Benfro, sy’n awgrymu ei fod yn awyddus i gaffael safle pwysig a oedd eisoes mewn bodolaeth. Olynwyd Roger gan ei fab Arnulf. Rhoddodd Arnulf Eglwys Sant Nicholas ‘within his castle at Pembroke’ i abaty Normanaidd Sant Martin, Séez, ac yn fuan wedi hynny, sefydlodd Briordy Cil-maen i’r de o’r castell. Fodd bynnag, yn 1100 cymerodd y Brenin Harri I holl lein-ddaliadau Arnulf oddi arno. Cyhoeddodd Henry siarter ar gyfer Penfro, a chreu maer, bwrdeisiaid a rhyddfreinwyr. Bu hyn yn gymhelliant i fewnfudwyr o orllewin Lloegr a Fflandrys gyfanheddu yn y dref gynnar. Yn 1138, crëwyd Gilbert de Clare yn Iarll Penfro, ac o hynny ymlaen tan Ddeddf Uno 1536, roedd iarllaeth balatin ifanc Penfro yn cael ei gweinyddu o Gastell Penfro, gan felly hyrwyddo swyddogaeth fasnachol y dref ymhellach. Roedd tref Penfro yn unigryw am nad ymosodwyd arni erioed yn ystod y rhyfeloedd rhwng y Cymry a’r Saeson a oedd yn nodweddiadol o bron holl hanes De-orllewin Cymru yn ystod y ddeuddegfed ganrif/drydedd ganrif ar ddeg.

Mae siarter y dref yn tystio i bwysigrwydd masnachol Penfro gan ei bod yn gorchymyn, ‘all ships with merchandise which enter the port of Milford (Milford Haven) and wish to sell or buy on land shall come to the bridge at Pembroke and buy or sell there’. Mae’r ddogfen hon yn dangos yn eglur fod pont wedi cael ei hadeiladu ar ochr ogleddol y dref yn fuan ar ôl iddi gael ei sefydlu; buan y dilynwyd y bont hon gan bont yn cysylltu Penfro â Chil-maen i’r de. Cofnodir melin lanw ar bont y gogledd yn 1199, ac un ar bont y de erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg.

Cadarnhawyd William Marshall yn Iarll Penfro yn 1199, ac ef a’i feibion a fu’n gyfrifol am adeiladu llawer o’r castell gwaith maen a welwn heddiw. Cafodd y gwaith diweddarach, gan gynnwys mur y ward allanol, ei gwblhau gan William de Valance, a fu’n dal Penfro o 1247 hyd at 1296. Er bod hanes y castell wedi’i gofnodi’n dda, nid yw hynny’n wir am y dref. Sefydlwyd Eglwys y Santes Fair, bron yn sicr, yn ystod blynyddoedd cynnar y dref, i wasanaethu’r boblogaeth a oedd yn tyfu. Erbyn 1291, ac mae’n debyg sawl degawd ynghynt, roedd ail eglwys, San Mihangel, wedi cael ei sefydlu i wasanaethu’r dref a oedd yn ehangu. Sefydlwyd marchnad newydd, gyda thiroedd bwrdais ar y naill ochr a’r llall iddi. Dadleuwyd bod William de Valance wedi dechrau adeiladu’r muriau o amgylch y dref gyfan ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, a bod ei fab, Aymer de Valance, wedi eu cwblhau ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Yn 1324 cofnodwyd 220 o leiniau tir bwrdais, a chododd y cyfanswm hwn i 238½ yn 1326-7, gan olygu bod y boblogaeth ymhell dros 1,000.

Sefydlwyd Priordy Cil-maen, fel y nodwyd uchod, ar ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg. Mae’n debygol bod anheddiad bach wedi datblygu’n agos at y Priordy, a oedd wedi’i wahanu oddi wrth Benfro ond yn gysylltiedig â ffyniant y dref a’r castell. Roedd Cil-maen wedi cael dwy ffair erbyn yr 1480au. Diddymwyd y Priordy yn 1593.

Nid oes gwaith ymchwil wedi’i wneud i hanes canoloesol diweddarach y dref, ond fel trefi eraill yn Ne-orllewin Cymru, dirywiodd oherwydd y cwymp yn y boblogaeth ledled Ewrop ym mlynyddoedd canol y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae map John Speed o 1611 yn dangos aneddiadau y tu allan i’r muriau, ond adroddodd am ‘more houses without inhabitants than I saw in any one city throughout my journey’, a dywedodd George Owen mewn disgrifiad o Benfro ychydig flynyddoedd ynghynt ei bod yn ‘very ruinous and much decayed’. Yn dilyn Deddf Uno 1536, collodd tref Penfro fwyafswm ei swyddogaeth weinyddol, ac roedd ei masnach forwrol hefyd wedi dioddef erbyn hynny gan fod Hwlffordd wedi datblygu i fod yn brif borthladd ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau; cafodd y ddwy dref eu rhoi yn y cysgod yn ddiweddarach pan sefydlwyd trefi Aberdaugleddau a Doc Penfro. Bu’n rhaid i Benfro aros tan ddiwedd y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i brofi gwelliant yn ei ffyniant. Mae’r gwaith datblygu modern wedi mynd rhagddo y tu allan i graidd hanesyddol y dref.

MORFFOLEG

Mae tref Penfro wedi’i lleoli ar benrhyn calchfaen hir, cul, gyda’r castell yn sefyll ar ei flaen gorllewinol. Yn y bôn, mae’r dref yn cynnwys un stryd hir, y Stryd Fawr, sy’n rhedeg i’r dwyrain/gorllewin ar hyd asgwrn cefn y pentir. Yn y cyfnod canoloesol, roedd cilfachau llanw i’w cael o boptu’r pentir ar ei ochr ogleddol a’i ochr ddeheuol, gan ddarparu amddiffynfeydd naturiol gwych i’r dref a’r castell; mae’r gilfach ar yr ochr ddeheuol wedi cael ei draenio ond mae’r ochr ogleddol yn parhau i fod yn llyn llanw.

Cynllun dychmygol o Benfro c.1150.

Mae’r castell yn un o’r rhai mwyaf yn y rhanbarth, a hefyd yn un o’r rhai sydd wedi cael eu cynnal a’u cadw orau. Mae wedi’i adeiladu o garreg, ac yn dyddio’n bennaf o’r drydedd ganrif ar ddeg a’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae’n cynnwys ward fewnol a ward allanol, gorthwr crwn enfawr, a phorthdy sylweddol sy’n wynebu’r de. Ar y dechrau, byddai’r castell wedi cael ei warchod gan amddiffynfeydd pridd a phren. Byddai’r cyfanheddwyr cyntaf, yn ôl pob tebyg, wedi byw yn ward allanol y castell, ond roedd yn amlwg bod gan Harri I gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Penfro, a gellir felly dybio bod tiroedd bwrdais wedi cael eu sefydlu ar hyd y Stryd Fawr o gatiau’r castell yn ystod degawd cyntaf y ddeuddegfed ganrif. Mae’r patrwm cydlynol o diroedd bwrdais a oroesodd, ac sy’n estyn 400 m o gatiau’r castell i’r dwyrain, yn dynodi mai hwn oedd cam cyntaf y dref gynlluniedig. Sefydlwyd oddeutu 80 o leiniau tir bwrdais, ond mae’n annhebygol y byddai cyfanheddwyr wedi byw ym mhob un o’r rhain ar unwaith; mae’n bosibl y byddai llawer wedi bod yn wag am ddegawdau. Roedd y dref gynlluniedig hon yn cynnwys Eglwys y Santes Fair a phont dros yr afon i’r gogledd. Mae lleoliad y farchnad yn aneglur, ond mae’n bosibl ei bod y tu allan i gatiau’r castell neu wrth gyffordd y Stryd Fawr/Stryd Porth y Gogledd lle mae’r Stryd Fawr yn lledu ychydig. Er mwyn denu cyfanheddwyr, mae’n rhaid bod amddiffynfeydd wedi cael eu darparu ar gyfer y dref gynlluniedig hon – dyma lle y byddai’r pentir wedi bod ar ei gulaf, 400m o’r castell. Yn sicr, mater syml fyddai adeiladu clawdd a ffos ar draws y pentir yn y fan hon, a gellid dibynnu ar y llethrau serth a’r dyfrgyrsiau o boptu i ddarparu amddiffynfeydd naturiol i gyfeiriad y de a’r gogledd. Mae yna bant bach yn y Stryd Fawr, 400 m o’r castell, ac mae’n bosibl mai ffos wedi’i mewnlenwi, a oedd yn rhan o’r amddiffynfeydd hyn, sy’n ei achosi. Fodd bynnag, awgrymwyd bod y teulu Marshall wedi adeiladu clawdd a ffos amddiffynnol yn y lleoliad hwn ar ddechrau’r drydedd ganrif ar ddeg, ac y byddai’r dref gynharaf wedi bod yn fach iawn ac wedi cael ei hamgáu gan amddiffynfa tref a oedd wedi’i lleoli rhwng Stryd Porth y Gogledd a’r castell.

Ehangodd y dref yn gyflym. Er mwyn lletya’r boblogaeth a oedd yn tyfu, crëwyd tiroedd bwrdais newydd ymhellach i’r dwyrain ar hyd y Stryd Fawr – cafodd cynifer ag 80 o leiniau newydd eu sefydlu. Roedd hwn yn ddatblygiad cynlluniedig, sy’n amlwg o faint cyson y lleiniau, sydd fymryn yn lletach na’r rhai i’r gorllewin, a’r ffaith bod marchnad lydan, siâp sigâr wedi cael ei chreu ar y Stryd Fawr (sydd erbyn hyn wedi’i mewnlenwi’n rhannol â thai). Mae dyddiad y datblygiad arfaethedig newydd hwn yn aneglur, ond mae’n dyddio o gyfnod cyn sefydlu Eglwys San Mihangel, a godwyd ar gyfer pobl newydd y dref ac a gofnodir gyntaf yn 1291; mae dadansoddiad map yn dangos bod y fynwent wedi’i naddu o leiniau tir bwrdais a oedd eisoes yn bodoli.

Cynllun dychmygol o Benfro pan oedd y dref ar ei mwyaf yn y cyfnod canoloesol, c.1320.

Mae’n debygol bod y dref wedi cael yr amddiffynfeydd cerrig sy’n bodoli o hyd ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg/ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Nid oes yna dystiolaeth ddogfennol ar gael i gefnogi hyn, ond mae cofnodion diweddarach yn cyfeirio at ailadeiladu ac atgyweirio’r muriau. Nid oedd pob rhan o’r dref y tu mewn i’r cylch amddiffynnol; yn 1326-7, cofnodwyd 238½ o diroedd bwrdais, a thua 160 ohonynt oedd y tu mewn i’r muriau. Roedd y gweddill wedi’u lleoli y tu allan i Borth y Dwyrain, ac i’r gogledd o bont y gogledd. Roedd yna dai eraill i’w cael yn agos at Briordy Cil-maen, i’r de o’r castell. Mae 1326-7, neu’n fuan wedi hynny, yn nodi uchafbwynt yn hanes y Benfro ganoloesol; daeth diboblogi ar ei gwarthaf yn gyflym.

Er bod Penfro yn borthladd canoloesol pwysig, nid oes yna dystiolaeth iddo erioed feddu ar gei. Roedd lleoliad cysgodol Penfro ac amrediad llanw uchel yn golygu ei bod yn bosibl llwytho a dadlwytho llongau a oedd wedi’u hangori ar y blaendraeth.

Mae muriau tref ganoloesol Penfro a’r lleiniau tir bwrdais, a ddiffinnir yn bennaf gan furiau carreg, yn rhai o’r enghreifftiau sydd wedi cadw orau ym Mhrydain Fawr, er gwaethaf rhywfaint o gyfuno ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a dylid gwneud pob ymdrech i’w gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru