Ffynhonnau Sanctaidd De-Orllewin Cymru

Rhai o’rs afleoedd archaeolegol mwyaf diddorol yng Nghymru yw ffynhonnau sanctaidd, ond maent hefyd ynr haio’r rhai y deellir lleiaf amdanynt ac a astudir lleiaf. Mae rhai wedi’u hesgeuluso a’u gordyfu, rhai’n ddim byd ond pantiau mwdlyd, ac mae llawer wedi’uc olli a’u hanghofio. Mae llawer o ffynhonnau’n tarddu o’r cyfnodau cyn Cristnogaeth, ac mae’r traddodiadau o offrymau addunedol a rhinweddau gwellhaol yn goroesi ar rai safleoedd. Mabwysiadodd Cristnogaeth ffynhonnau paganaidd, ac nid yw’n anarferol gweld ffynnon sanctaidd ger eglwys, neu ffynnon wedi’i chysegru i sant.

Nododd arolwg diweddar gan y rYmddiriedolaeth bron 200 o ffynhonnau sanctaidd yn ne-orllewin Cymru. O’r rhain ymwelwyd â bron 100 safle er mwyn cael gwybodaeth am eu cyflwr. Dangosodd y gwaith hwn yr ystod eang o ffynhonnau sanctaidd ar draws y rhanbarth. Nid oedd rhai ohonynt erioed yn unrhywbeth ond tarddell naturiol, ond roedd gan rai strwythurau neu adeiladau coeth yn gysylltiedig â nhw. Caiff arferion traddodiadol eu perfformio o hyd o flaen ychydig o ffynhonnau. Rhagwelir fel rhan o’r arolwg hwn, y caiff safleoedd gorau’r ffynhonnau sanctaidd eu dynodi yn henebion cofrestredig, a disgwylir y bydd y rYmddiriedolaeth, mewn partneriaeth â chymunedau ac eraill, yn gallu dod o hyd i’r modd o adfer rhai o’r safleoedd.

Dywedir bod y tair ffynnon yn Ffynnon Ddrewi, Ceredigion, yn gwella gwahanol anhwylderau

Gweddillion Ffynnon Gybi, Ceredigion, adeilad cofrestredig

Adroddiad Ffynhonnau Sanctaidd (mewn ffurf PDF – yn agored mewn ffenestr newydd)

Safleoedd Ychwanegol Ffynhonnau Sanctaidd 2012 (mewn ffurf PDF – yn agored mewn ffenestr newydd)

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru