CAS-WIS

CAS-WIS

CRYNODEB

Sefydlwyd Cas-wis gan Wizo, ac mae’n un o sawl anheddiad a grëwyd gan wladychwyr o Fflandrys yn Sir Benfro ar ddechrau’r ddeuddegfed ganrif. Codwyd eglwys a chastell, a sefydlwyd anheddiad. Roedd Cas-wis yn llwyddiannus i ddechrau, ond yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg, efallai ynghynt, dirywiodd, ac erbyn y cyfnod canoloesol diweddarach nid oedd fawr mwy na phentref, ffurf y mae’n ei chadw hyd heddiw. Mae ymchwiliadau wedi dangos y potensial uchel fod olion archaeolegol sy’n dyddio o’r ddeuddegfed ganrif ac yn ddiweddarach yn goroesi ym mhob ardal annatblygedig yn yr hen dref.

FFEITHIAU ALLWEDDOL

Statws: Ddim yn dref.

Maint: Anhysbys.

Archaeoleg: Mae sawl ymchwiliad archaeolegol wedi datgelu dyddodion canoloesol.

LLEOLIAD

Mae anheddiad Cas-wis wedi’i leoli ar grib gron, tua 110 m o uchder, yng nghanol Sir Benfro (SN 022 181), a hynny mewn tirwedd amaethyddol lle mae porfa wedi’i gwella yn tra-arglwyddiaethu, a lle ceir ychydig dir âr. Mae tref Hwlffordd 7 km i’r de-orllewin a thref Arberth 9 km i’r de-ddwyrain. Saif Llawhaden, a arferai fod yn dref fach, ar y grib 4 km i’r dwyrain.

HANES

Ddiwedd y ganrif gyntaf OC, sefydlodd y Rhufeiniaid gaer yng Nghas-wis, a hynny 500 m i’r gogledd o’r pentref presennol. Datblygodd anheddiad sifil i’r de o’r gaer a pharhaodd i fodoli tan y bedwaredd ganrif, ymhell wedi i’r fyddin ymadael. Nid oedd unrhyw anheddiad hysbys yn yr ardal rhwng y bedwaredd ganrif a’r ddeuddegfed ganrif.

O’r enw Fflandrysaidd, Wizo, y cafodd Cas-wis ei enw. Cyrhaeddodd Wizo Dde-orllewin Cymru ychydig cyn OC 1112, yn dilyn y goncwest filwrol Eingl-Normanaidd. Roedd Fflandryswyr yn gwasanaethu fel hurfilwyr yn y goncwest, ond daeth Wizo draw gyda grŵp o gyfanheddwyr i wladychu’r rhanbarth yn fwriadol. Sefydlwyd castell ac eglwys yng Nghas-wis, ond ni cheir cyfeiriad dogfennol uniongyrchol at Gas-wis tan 1147, pan gipiwyd y castell gan Hywel ab Owain. Am weddill y ddeuddegfed ganrif, ac ymlaen i’r drydedd ganrif ar ddeg, bu’r cyfanheddwyr a’r Cymry a gafodd eu trechu yn dadlau ynghylch y diriogaeth, a newidiodd y castell ddwylo yn rheolaidd. Yn 1220, dinistriodd Llywelyn ap Iorwerth y castell a llosgi’r dref – dyma’r cyfeiriad penodol cyntaf at y dref. Mae’n debygol na chafodd y castell ei atgyweirio yn dilyn yr ymosodiad hwn; codwyd castell newydd ym Mhictwn, 5 km i’r de.

Nid oes bron dim tystiolaeth ddogfennol yn bodoli ar gyfer tref Cas-wis, sy’n adlewyrchu ei dirywiad yn y cyfnod canoloesol diweddarach a’r cyfnod modern. Bu dadlau ynghylch a gafodd Cas-wis statws bwrdeistref erioed (nid oes siarter wedi cael ei nodi). Fodd bynnag, cynhelid ffair flynyddol a marchnad wythnosol yno tan tua 1600, ac o’r ffynonellau dogfennol prin sydd ar gael, mae’n amlwg bod y trigolion o’r farn bod gan yr anheddiad statws bwrdeistref; bu iddynt barhau i ethol maer cyn hwyred â’r ugeinfed ganrif. Nid yw’n glir pryd y dirywiodd poblogaeth Cas-wis, ond mae’n bosibl mai llosgi’r dref yn 1220 ac adleoli’r castell i Bictwn yn dilyn hynny oedd y sbardun. Yn dilyn y cwymp yn y boblogaeth ledled Ewrop ym mlynyddoedd canol y bedwaredd ganrif ar ddeg, mae’n debyg nad oedd Cas-wis fawr mwy nag eglwys, castell adfeiliedig ac ychydig o dai.

MORFFOLEG

Prin y gellir galw Cas-wis yn bentref bellach gan nad yw fawr mwy na chasgliad o dai gwasgaredig, eglwys ganoloesol, castell mwnt a beili, ac ysgol fodern.

Cynllun sgematig yn dangos gosodiad awgrymedig anheddiad Cas-wis pan oedd ar ei fwyaf yn y drydedd ganrif ar ddeg/bedwaredd ganrif ar ddeg.

Castell Cas-wis yw’r enghraifft orau o gastell mwnt a beili yn Ne-orllewin Cymru. Mae mwnt sylweddol sydd wedi’i goroni â gorthwr amlonglog carreg yn tra-arglwyddiaethu ar feili mawr i’r de. Mae’n bosibl bod y beili, a amddiffynnir gan glawdd a ffos, yn lloc amddiffynnol o’r Oes Haearn sydd wedi’i ailddefnyddio (mae llawer o enghreifftiau o’r fath yn y rhanbarth), ac mae’n ddigon mawr i fod wedi lletya tai ton gyntaf Wizo o gyfanheddwyr. Mae’r maenordy, a oedd yn wreiddiol, yn ôl pob tebyg, yn adeiladwaith Elisabethaidd ond sydd bellach wedi’i gyfyngu i’r adain wasanaethu, yn sefyll ar y Grîn, man agored i’r dwyrain o’r castell.

Saif Eglwys y Santes Fair i’r de o’r castell. Ac eithrio’r eglwys a’r maenordy, mae’r adeiladau eraill yn brin ac yn wasgaredig, ac yn dyddio i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Mae’r gwaith datblygu ym mlynyddoedd olaf yr ugeinfed ganrif yn cynnwys ysgol yn union i’r gorllewin o’r castell ac ychydig o dai gwasgaredig. Mae’r gwrthgloddiau ym Maes yr Eglwys, yn union i’r gogledd o’r eglwys, ar y Grîn ac i’r de o’r Grîn, ar ochr arall y ffordd, yn dynodi olion safleoedd tai a thiroedd bwrdais.

Awgrymwyd mai’r castell a’r eglwys a oedd yn ffurfio craidd canoloesol Cas-wis, a bod tiroedd bwrdais wedi’u sefydlu ochr yn ochr â’r ffordd sy’n rhedeg i’r de o ochr orllewinol yr eglwys, ac ochr yn ochr â ffordd gyfochrog 300 m i’r dwyrain (llwybr troed yw hon bellach). Fodd bynnag, methodd gwaith geoffisegol graddfa fawr ganfod unrhyw dystiolaeth o diroedd bwrdais yn yr ardaloedd hyn. Dangosir cynllun mwy tebygol o Gas-wis fel yr oedd, o bosibl, yn y ddeuddegfed ganrif a’r drydedd ganrif ar ddeg, a hynny’n seiliedig ar dystiolaeth hanesyddol, dopograffig ac archaeolegol, yn y llun cysylltiedig.

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru