Mynachlogydd

Cafodd tystiolaeth ar gyfer safleoedd mynachaidd yn ne-orllewin Cymru ei hadolygu gyda’r nod o asesu a yw’r ardaloedd o henebion cofrestredig yn cynnwys archaeoleg hysbys yn ei chyfanrwydd, a hefyd a yw safleoedd sydd heb eu cofrestru ar hyn o bryd yn haeddu cael eu hargymell ar gyfer dynodiad fel henebion cofrestredig. Yn ogystal ag adolygu’r dystiolaeth ar gyfer safleoedd mynachaidd mawr, megis Abatai Hendy-gwyn, Talyllychau ac Ystrad Fflur, y mae pob un ohonynt yn henebion cofrestredig, cafodd safleoedd crefyddol llai megis ysbytai, lleiandai a meudwyfâu eu cynnwys yn y prosiect.


Priordy Hwlffordd


Abaty Llandudoch

 

Adroddiad 2012 mewn ffurf PDF (Saesneg yn unig – yn agored mewn ffenestr newydd).

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru