Safle Gwaith Callestr Penpant

Mae mannau callestr gwasgaredig a briodolir yn fras i’r cyfnod mesolithig yn adnabyddus ar hyd morlin deheuol penrhyn Tyddewi. Cafodd man gwasgaredig lithig toreithog (a’i ganol ar SM 7870 2506 – Ffig. 1) ei adnabod mewn caeau wedi’u haredig ym Mhenpant yn y 1980au ac mae dadansoddi dilynol o fwy na 20,000 o eitemau’n dangos bod y rhain yn cynnwys deunydd mesolithig cynnar a diweddarach yn ogystal â deunydd neolithig ac o’r Oes Efydd.

Nod y gwaith maes a ddisgrifir yma oedd arfarnu potensial isarwynebol y man gwasgaredig hwn. Digwyddodd mewn cae trionglog bach, na chafodd ei aredig ers dros 30 o flynyddoedd, sydd ger y man gwasgaredig. Yn dilyn yr arolwg geoffisegol, cafodd 39 o byllau prawf eu cloddio fel prosiect archaeolegol cymunedol. Dangosodd y rhain fod y man gwasgaredig yn ymestyn trwy’r cae cyfan, a chadarnhaodd gweithgarwch o’r cyfnod mesolithig a diwedd y cyfnod cynhanesyddol yno. Fodd bynnag, ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw stratigraffeg neu nodweddion wedi’u cadw, a dangoswyd bod y posibilrwydd o wahaniaethu a dyddio dilyniant y gweithgarwch hwn yn wael.


Ffotograffau sy’n dangos lleoliad y gloddfa

Detholiad o offer mesolithig o Benpant

 

Adroddiad dros-dro Penpant 2013 (mewn ffurf PDF – yn agored mewn ffenestr newydd)

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru