Cydnabyddir arwyddocâd treftadaeth forwrol Dyfrffordd Aberdaugleddau gan y ffaith iddi gael ei chofrestru yn dirlun o bwysigrwydd hanesyddol rhagorol yng Nghymru. Mae dyfroedd dyfnion a chysgodol y dyffryn a foddwyd yn ymestyn 20 km i mewn i’r tir. Mae’r angorfa gysgodol, ragorol hon wedi’i chydnabod ers amser maith ac fe’i defnyddiwyd yn fan crynhoi ar gyfer yr ymosodiad Eingl-Normanaidd ar Iwerddon, ac yn fan glanio are gyfer ymosodiadau Owain Glyndwr a Harri Tudur, ac yn lle cysgodol i angora Llynges Prydain yn y 18fed ganrif.
Er bod dwy o brif drefi/porthladdoedd Cymru yn y canol oesoedd a chyfnodau diweddarach wedi’u lleoli yn rhannau uwch y ddyfrffordd, sef Hwlffordd a Phenfro, ni wireddwyd potensial llawn y ddyfrffordd oherwydd ei lleoliad ynysig a diffyg sylfaen poblogaeth cryf tan ddiwydianeiddio diwedd y 17eg ganrif a’r 18fed ganrif. Byddai pysgota, masnachu arfordirol ac adeiladu cychod ar raddfa fechan wedi digwydd yn y cilfachau bach niferus; ond o blith y pentrefi, y tebygrwydd yw mai Dale ac Angle yn unig, ymhell i’’r gorllewin ill dau, oedd ag economi forwrol gref. Erbyn 1700, glo pyllau Landshipping, Cresswell, Hook a Llangwm oedd y prif beth a allforiwyd o ddyfrffordd Aberdaugleddau. Datblygodd nifer o geiau bychain i wasanaethu’r diwydiant hwn. Mae nifer o odynnau calch ar hyd yr arfordir yn dystiolaeth i bwysigrwydd cynyddol masnach yr arfordir. Yn wir, prin yw’r gilfach heb ei hodyn galch. Erbyn diwedd y 18fed ganrif arweiniodd yr angen am dref yn agos at yr angorfeydd dyfnion i wasanaethu llongau mawr a darparu porthladd ar gyfer pecynnau Gwyddelig at sefydlu Aberdaugleddau. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach sefydlwyd dociau’r llynges a thref Doc Penfro. Yn sgil y rheilffyrdd ynghanol y 19eg ganrif, lleihau wnaeth y fasnach arfordirol, ond byddai llongau bach yn parhau i alw yn Hwlffordd, Penfro a cheiau eraill ymhell i’r 20fed ganrif, a daeth Aberdaugleddau a Neyland fel ei gilydd yn borthladdoedd pysgota pwysig.
Ar hyn o bryd, cyfyngedig yn unig yw’r ddealltwriaeth o botensial llawn amgylchedd morwrol hanesyddol yr ardal. Mae’r gwaith a wnaed eisoes yn cynnwys Arolwg Arfordirol a ariannwyd gan Cadw ac ‘Archwiliad Hanesyddol Aberdaugleddau’ a gefnogwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a gyhoeddwyd mewn cyfres o adroddiadau o 1999-2003. Nododd hyn yn bennaf y safleoedd archaeolegol ar sail ffynonellau mapiau hanesyddol (argraffiadau 1af ac 2il mapiau Ordinans) gydag arolwg brysiog ar droed. Fodd bynnag, ni roddodd sylw i lawnder ehangder y prif borthladdoedd a’r ceiau, na mapio nifer y safleoedd a’r nodweddion a nodwyd nac asesu maint unrhyw botensial archaeolegol cysylltiedig.
Ni chafwyd unrhyw asesiad o botensial archaeolegol y ddyfrffordd ei hun. Yn ôl gwybodaeth y Cofnodion Henebion Cenedlaethol collwyd nifer o gychod yn yr aber, ond nid oes sicrwydd ynghylch presenoldeb neu absenoldeb olion llongddrylliadau yn yr ardal. Gwyddys bod gwybodaeth bellach i’w chael ar siartiau’r Morlys a’i bod ar gael gan wahanol blymwyr hamdden a grwpiau plymio sy’n plymio yn yr ardal.
Bwriad y prosiect hwn yw datblygu dealltwriaeth o archaeoleg forwrol y ddyfrffordd a photensial archaeolegol cysylltiedig ei phorthladdoedd a’i harbwrs. Cyflawnir hyn drwy asesiadau ar ben y ddesg o ffynonellau mapiau a siartiau hanesyddol sydd ar gael a chreu system fapio GIS a gaiff ei hymgorffori yn y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol rhanbarthol.
Paratowyd adroddiad ynglyn â’r prosiect a gefnogir gan dablau sy’n seiliedig ar Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol a data eraill.
Cliciwch yma am yr adroddiad mewn ffurf PDF (12Mb – Yn agored mewn ffenestr newydd).