TREFDRAETH
CRYNODEB
Sefydlodd William Fitzmartin Drefdraeth ar ddiwedd y ddeuddegfed ganrif, gan osod y strydoedd ar batrwm grid; patrwm sy’n dal i fod yn amlwg. Yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg, symudodd ffocws y dref o’r pen gogleddol i’r pen deheuol, yn agos at yr eglwys a’r castell, ac arweiniodd hyn at enciliad o’r rhan honno o’r dref a oedd yn agos at yr aber. Datgelodd gwaith cloddio archaeolegol yn rhan ogleddol anghyfannedd y dref batrwm o diroedd bwrdais ac anheddau a oedd yn gysylltiedig â chyfnod sefydlu’r dref. Yn gyffredinol, mae’n ymddangos bod y dref wedi dioddef o ddiboblogi o’r drydedd ganrif ar ddeg ymlaen; roedd gwaith cloddio ar gyfer mantoliad ar dir annatblygedig yn rhan ddeheuol y dref wedi nodi’r diboblogi hwn, a’r tir ei hun, i raddau, yn nodweddiadol o’r elfen hon. Mae odynau crochenwaith o’r cyfnod canoloesol hwyr a ddarganfuwyd yn 1921, ac sydd wedi goroesi mewn cyflwr da, yn dangos y gellir dod o hyd i olion archaeolegol pwysig ymron unrhyw leoliad yn y dref.
FFEITHIAU ALLWEDDOL
Statws: Siarter tref 1241.
Maint: 1434, 233 o diroedd bwrdais yn nwylo 76 o fwrdeisiaid.
Archaeoleg: Mae gwaith cloddio wedi dangos bod dyddodion sy’n dyddio o’r cyfnod canoloesol wedi goroesi yn y dref.
LLEOLIAD
Mae Trefdraeth yn wynebu’r gogledd ac wedi’i leoli ar wastadedd arfordirol teg ar ochr ddeheuol aber Afon Nyfer yng ngogledd Sir Benfro (SN 058 393), 1.2 km o’r môr. I’r de o’r dref, mae’r tir yn codi’n serth i gopa creigiog Carn Ingli, sy’n 346 m o uchder. Mae cefnffordd arfordirol yr A487 yn rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin trwy’r dref.
HANES
Sefydlwyd Trefdraeth gan William Fitzmartin c.1197. Roedd y teulu Fitzmartin wedi cipio rheolaeth ar ogledd Sir Benfro ar ddechrau’r ddeuddegfed ganrif, ac wedi sefydlu castell yn Nanhyfer, ychydig gilometrau i fyny’r afon o Drefdraeth. Newidiodd Castell Nanhyfer ddwylo sawl gwaith yn ystod y ddeuddegfed ganrif, gyda’r Cymry, dan Rhys ap Gruffudd, yn tra-arglwyddiaethu yn ystod y rhan helaeth o’r blynyddoedd ar ddiwedd y ganrif. Pan adenillodd y teulu Fitzmartin reolaeth tua diwedd y ganrif, gadawsant Nanhyfer yn anghyfannedd er mwyn sefydlu tref a chastell newydd yn Nhrefdraeth. Cadarnhawyd y breintiau a roddodd William Fitzmartin i’r dref yn 1197 mewn siarter gan ei fab, Nicholas, a hynny c.1241. Roedd y drydedd ganrif ar ddeg yr un mor dymhestlog â’r ganrif flaenorol; yn 1215 dinistriodd Llywelyn ap Iorwerth Gastell Trefdraeth, ac yn 1257 cafodd ei fwrw i’r llawr eto, y tro hwn gan Llywelyn ap Gruffudd.
Trefdraeth fel yr oedd, o bosibl, c.1220.
Mae’n debyg mai castell gwreiddiol William Fitzmartin oedd yr amddiffynfa gylch, a elwir bellach yr Hen Gastell, sydd ar lan yr aber. Gosodwyd dwy stryd hir, Stryd Hir a Heol y Santes Fair, yn rhedeg i’r de o’r castell hwn. Mae’n debyg bod y castell wedi cael ei adleoli i’w safle presennol ym mhen deheuol y dref yn dilyn ymosodiad 1215 neu ymosodiad 1257. Symudodd canolbwynt y dref o’r aber a’r Hen Gastell i’r de, yn agos at y castell newydd, a gosodwyd y strydoedd ar batrwm grid. Roedd holl nodweddion bwrdeistref ganoloesol – yr eglwys, croes y farchnad a neuadd sir – wedi’u lleoli yn rhan ddeheuol y dref.
Mae arolwg o 1434 yn cofnodi 233 o leiniau tir bwrdais yn nwylo 76 o fwrdeisiaid. Mae’r arolwg yn cofnodi bod y dref, erbyn 1434, wedi ehangu, gyda lleiniau wedi’u sefydlu ar hyd Heol Gorllewin, Heol Dwyrain a Stryd y Bont. Fodd bynnag, gyda dim ond 76 o fwrdeisiaid wedi’u cofnodi, mae’n debygol bod rhai o’r tiroedd bwrdais yn wag erbyn hynny. Yn sicr, cadarnhaodd cloddiad archaeolegol ar Stryd Hir yn 1991 fod lleiniau yn rhan ogleddol y dref wedi cael eu gadael yn anghyfannedd ar ddechrau’r drydedd ganrif ar ddeg ac na chawsant eu cyfanheddu fyth wedyn.
Mae rhentiad dyddiedig 1594 yn cofnodi diboblogi pellach, gyda dim ond 44 o’r 211 o leiniau tir bwrdais wedi’u cyfanheddu, a’r rheiny i gyd yn glwstwr yn rhan ddeheuol y dref. Yn rhan ogleddol y dref, yn agos at yr Hen Gastell, roedd lleiniau wedi cael eu cydgrynhoi yn gaeau bach. Mae’n amlwg bod y dref yn prysur ddadfeilio, ac ni ddechreuodd pethau wella tan ddiwedd y ddeunawfed ganrif, pan nododd Richard Fenton: ‘mae’r bylchau yn ei strydoedd amhoblog yn llenwi’n gyflym ag adeiladau’.
Cei bach yw Parrog, sydd i’r gorllewin o’r dref ac yn agos at geg yr aber, ac mae wedi bod yn gei ers o leiaf y ddeunawfed ganrif; ni ellir bod yn sicr ynghylch ei statws cynharach. Mae’n debygol bod ‘porthladd’ gwreiddiol Trefdraeth ger yr Hen Gastell, ond wrth i’r aber siltio symudodd i Barrog; gallai hyn fod wedi digwydd yn ystod y cyfnod canoloesol.
MORFFOLEG
Mae gan Drefdraeth nodweddion clasurol bwrdeistref ganoloesol a gafodd ei sefydlu a’i chynllunio, ac mae llawer ohoni yn ddarllenadwy ar fapiau modern ac ym morffoleg y dref. Mae Stryd Hir a Stryd y Santes Fair yn rhedeg yn gyfochrog o’r aber i’r de am 550 m, ac yn cael eu ffinio ar yr ochr orllewinol gan Afon Felin ac i’r dwyrain gan Afon Ysgolheigion. Mae’r strydoedd a’r nentydd yn pecynnu’r hyn a oedd, yn ôl pob tebyg, yn gam cyntaf y dref, yn betryal taclus. Mae tiroedd bwrdais cul, hir i’w cael ar ddwy ochr y strydoedd hyn: yn eu pen deheuol, mae tai ac adeiladau masnachol o waith cerrig sy’n dyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif/ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn llenwi’r lleiniau, ynghyd ag ychydig o adeiladau diweddarach; yn eu pen gogleddol, mae’r lleiniau’n wag neu wedi cael eu cyfuno i ffurfio caeau bach. Mae ysgol gynradd o ddiwedd yr ugeinfed ganrif yn llenwi sawl llain tuag at ben gogleddol Stryd Hir.
Trefdraeth fel yr oedd, o bosibl, c.1320.
Cynrychiolir ail gam y dref gan batrwm grid y strydoedd ym mhen deheuol y dref. Mae’n debyg bod Heol Gorllewin, Heol Dwyrain, Stryd yr Afr a Stryd y Bont yn ganlyniad i gyfnodau ehangu pellach. Mae canlyniadau mantoliad archaeolegol yn 2011 yn dangos bod y tiroedd bwrdais ar Stryd yr Afr wedi cael eu sefydlu ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg/ddechrau’r bymthegfed ganrif. Mae mwyafrif y tiroedd bwrdais yn rhan ddeheuol y dref yn gartref i dai cerrig o’r ddeunawfed ganrif/bedwaredd ganrif ar bymtheg, a rhai adeiladau diweddarach. Prin yw’r lleiniau gwag.
Nid oes yna dystiolaeth yn y forffoleg fod y dref wedi cael amddiffynfeydd. Fodd bynnag, mae cloddiwr mantoliad yn 2011 yn awgrymu y gallai ffos ddwbl, a oedd yn cynddyddio’r tiroedd bwrdais ar Stryd yr Afr, fod wedi gweithredu fel nodwedd amddiffynnol a oedd yn gysylltiedig â chyfnod cynnar yn hanes y dref.
Mae Castell Trefdraeth, sy’n wrthglawdd sylweddol ac iddo waith maen yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, yn bennaf, yn sefyll ar bwynt uchel ym mhen deheuol y dref. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg adeiladwyd tŷ i mewn i’r porthdy, sy’n cael ei gyfanheddu o hyd.
Tybir bod Eglwys y Santes Fair wedi cael ei sefydlu ar yr un pryd â’r dref. Mae’r adeilad presennol yn ganoloesol i raddau helaeth; cafodd ei adfer sawl gwaith yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Saif mewn mynwent yn rhan ddeheuol y dref, o dan y castell.
Mae yna dai modern i’w cael ar leiniau sengl yng nghanol y dref, ond mae tai diweddar wedi’u cyfyngu, i raddau helaeth, i gyrion y dref, y tu allan i’r craidd canoloesol a gofnodwyd yn arolwg 1434.
Mae’r gwaith cynharach o isrannu caeau ym mhen gogleddol ochr orllewinol Stryd Hir i’w weld ar ddelweddau LiDAR. Cyn-diroedd bwrdais yw’r rhain, a gofnodwyd yn 1434. Nid oes unrhyw israniadau o’r fath i’w gweld ym mhen gogleddol ochr ddwyreiniol Stryd Hir nac ym mhen gogleddol ochr ddwyreiniol Stryd y Santes Fair. Mae cae chwaraeon wedi’i leoli ar ochr ddwyreiniol Stryd Hir – mae’n debygol bod hwn wedi cael ei dirlunio. Yn ôl pob tebyg, mae amaethyddiaeth dros sawl canrif wedi dileu’r dystiolaeth arwynebol o diroedd bwrdais ar ochr ddwyreiniol Stryd y Santes Fair.