Caerau, Vici a Ffyrdd Milwrol Rhufeinig

Prosiect dros Gymru gyfan yw hwn sy’n cyfuno elfennau o astudiaethau y mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys wedi ymgymryd â hwy dros sawl blwyddyn. Mae’n adeiladu ar ddata a gasglwyd yn ystod prosiect a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn ystod 1996 ar ran Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru. Yn ystod y prosiect hwnnw llwyddwyd i ddod â’r holl dystiolaeth o ffyrdd Rhufeinig yn Ne Orllewin Cymru a gafwyd drwy luniau o’r awyr ynghyd mewn mapiau.

Mae gan y prosiect dri phrif amcan sef asesu pwysigrwydd y safleoedd milwrol Rhufeinig; gwerthuso pa mor agored i niwed yw’r safleoedd ac adolygu strategaethau meini prawf cofrestru a rheoli; a gwella’r CHA.


Yr heol Rhufeining rhwng Llanymddyfri a Phumsaint yn arddangos fel marc sych.

 

Ebrill 2004 – Mawrth 2005


Map yn dangos ffyrdd Rhufeinig yn ne orllewin Cymru.

Prif elfen y prosiect yn ystod 2004/2005 oedd gwneud arolwg o’r holl wybodaeth a wyddwyd amdano o ran yr elfen filwrol yn ne orllewin Cymru, gyda’r pwyslais ar ffyrdd. Crëwyd tablau GIS yn dangos llinellau pendant, tebygol ac awgrymedig y ffyrdd Rhufeinig. Gwnaed hyn ar y cyd gyda gwelliannau o’r HER. Crëwyd tua 200 o gofnodion newydd. Yn ogystal â hyn, gwnaed ymweliadau safle i sawl rhan o’r ffordd lle roedd tystiolaeth yn dynodi presenoldeb sarnau oedd mewn cyflwr da. Gwnaed argymhellion rhestru ar gyfer pedair rhan o’r ffyrdd.

Yn ogystal â hyn, gwnaed arolwg magnetomedr, ar y cyd gyda GAT, ar ran o’r gaer Rufeinig a ficws yn Llanymddyfri. Mae hyn yn dangos bod llawer o olion sydd wedi’u claddu yn goroesi y tu hwnt i amddiffynfeydd y gaer a welir yn sefyll. Nid yw’n amlwg pun ai os yw’r olion yn dynodi fod yna gaer gynharach wedi bod yma, anecs neu ran o ficws. Mae estyniad i’r ardal sy’n rhestredig wedi’i argymell.


Arolwg magnetomedr o gornel gogledd ddwyreiniol y gaer Rufeinig yn Llanymddyfri.

Ebrill 2005 – Mawrth 2006

Parhad o brosiect 2004-05 yw hwn wnaeth gynnwys arolwg geoffisegol o ddwy gaer /ficws – Llanio a Thrawscoed. Gwnaed y gwaith hwn ar y cyd gydag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.

Yn Nhrawscoed arolygwyd ardal sydd fwy neu lai yn hirsgwâr rhyw 160m x 120m o faint. Roedd cwadrant gogleddol y gaer yn rhan ohono ac ardaloedd i’r gogledd a dwyrain o’r amddiffynfeydd. Daethpwyd o hyd i ganlyniadau clir o ran amddiffynfeydd y gaer, ffyrdd a chyfres o chwe bloc o farics a oedd i’w gweld yn glir. Mae’n ymddangos fod y gweithgarwch aml-furfiog yn yr ardal sy’n cael ei harolygu yn cynnwys aelwydydd gwasgaredig ac amaeth, er fe allai’r peth anghyffredin sydd ar hyd y ffordd i’r gogledd dwyrain gynrychioli mansio neu adeilad mawr arall.

Yn Llanio arolygwyd dwy ardal hirsgwâr rhyw 80m x 40m a 60m x 60m o faint. Roeddynt mewn caeau oedd gyferbyn â’i gilydd a chawsant eu dylunio er mwyn samplo’r gweithgarwch all ffurfiol i’r dwyrain o’r gaer. Mae’r arolwg wedi dangos fod yna archaeoleg arwyddocaol wedi goroesi o dan y tir, a’i fod yn addas i’w arolygu’n geoffisegol. Serch hynny, mae’r ardaloedd bach o ran arolygu yn ei gwneud yn fwy anodd i ddehongli nodweddion ar raddfa fwy a hefyd patrymau anheddu cyffredinol.


Plot geoffisegol yng nghaer Trawscoed

Adroddiad Ymchwiliad Geoffisegol 2005 – Llanio a Thrawscoed – yn Saesneg – 5.39Mb (mewn ffurf Adobe Acrobat, yn agored mewn ffenestr newydd)

2006-07

Ym mis Tachwedd 2006 cynhaliwyd arolwg geoffisegol pellach ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, mewn man i’r gogledd-ddwyrain a’r dwyrain i’r Gaer Rufeinig yn Nhrawscoed. Daethpwyd o hyd i nifer o nodweddion, yn ogystal â ffyrdd, adeiladau petryal a phydewau o ddyddiad Rhufeinig tebygol, yn ogystal â nodweddion crwn a allai fod yn weddillion berfâu crwn yr Oes Efydd. Arolygwyd y gaer yn Erglodd ger Borth, Ceredigion, hefyd. Cafwyd canlyniadau da iawn a oedd yn datguddio caer a adeiladwyd o bosibl mewn dau gam a oedd yn cynnwys llawer o adeiladau. Nid oedd unrhyw arwydd o unrhyw annedd yn union y tu allan i’r gaer.


Arolwg geoffisegol Caer Trawscoes 2006-2007


Arolwg geoffisegol Caer bach Erglodd

Adroddiad ymchwiliad geoffisegol Caer Rhufeinig Trawscoed a Caer fach Erlgodd mewn ffurf Adobe Acrobat, Saesneg yn unig – yn agored mewn ffenestr newydd.

2007-08

Cynhaliwyd arolygon geoffisegol mewn tri safle yn ystod y flwyddyn: caer Pen Llwyn, Capel Bangor, Ceredigion; caer fechan Waun Ddu, Mynydd Myddfai, Sir Gaerfyrddin; a safle caer o bosibl ar fferm Old Castle ger Aberteifi. Cynhaliwyd yr arolygon ym Mhen Llwyn a Waun Ddu gan P Crane o DAT a D Hopewell o GAT, a chynhaliwyd yr arolwg yn Old Castle gan Stratscan.

Ym Mhen Llwyn, arolygwyd rhan o’r tu mewn ac ardal wastad i’r gogledd orllewin o’r gaer, ardal a ystyrir yn fwyaf tebygol o gynnwys safle anheddiad sifil (vicus), Ni chafwyd unrhyw olion o safle anheddiad. Y tu mewn i’r gaer, mae’n debyg mai adeiladau pren oedd yr holl adeiladau. Mae’n debygol bod rhan fewnol y gaer wedi dilyn y patrwm arferol yn wreiddiol, sef pencadlys, pretoriwm ac ysgubor yn y rhan ganol a barics yn y pretentwra. Mae nifer o nodweddion anghyson yn awgrymu ail gyfnod o weithgaredd.

Ystyriwyd mai naill ai caer fechan o bosibl neu safle amddiffynnol canoloesol gyda thomen, neu’r ddau, oedd Waun Ddu, sef lloc bychan, petryal gyda thomen mewn un gornel, ar weundir agored. Dangosodd arolygon topograffig a geoffisegol y bu caer fechan yno a oedd yn cynnwys amrywiol adeiladau pren petryal a ffwrnais. Daethpwyd o hyd i heol Rufeinig i’r de ddwyrain o’r gaer yn ystod yr arolwg topograffig.

Mae wedi’i awgrymu ers amser hir bod caer Rufeinig ger Aberteifi, ac mai ei lleoliad mwyaf tebygol oedd nifer o gaeau sy’n creu ffurf hirsgwar ger fferm Old Castle. Mae darganfod gwaith metel a chrochenwaith Rhufeinig gan ddarganfyddwyr metel mewn caeau cyfagos wedi cryfhau’r awgrymiad hwn. Er hynny, methodd arolwg geoffisegol â dod o hyd i unrhyw arwyddion o gaer, nac yn wir o unrhyw nodwedd archaeolegol arall. Nid oes unrhyw wybodaeth ynglyn â chyd-destun y darnau Rhufeinig.

Yn ogystal â gwaith maes, dechreuwyd ar y gwaith o gynhyrchu lluniadau ar gyfer cyfrol newydd o Roman Frontiers in Wales. Bydd mwy o luniadau’n cael eu cynhyrchu yn 2008-09.


Data geoffidegol o arolwg Penllwyn


Arolwg geoffisegol Waun Ddu

Arolwg Geoffisegol Amddifynfa Penllwyn mewn ffurf PDF (512Kb – yn agored mew ffenestr newydd).

Arolwg Geoffisegol Amddifynfa Waun Ddu mewn ffurf PDF (8.7Mb – yn agored mew ffenestr newydd).


Amddifynfa Cae Hun. Un o lawer o ddarluniau wedi eu paratoi i’r llyfr “Roman Frontiers in Wales”

Yn ystod 2007-08 dechreuodd gwaith ar baratoi testun a darluniau ar gyfer fersiwn diwygiedig o Roman Frontiers in Wales. Yn ogystal â pharatoi rhai o eitemau’r geiriadur daearyddol, mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn paratoi holl ddarluniau’r gyfrol. Bydd yna filoedd lawer o’r rhain.


Cynllun Caer Rhufeinig Llanymddyfri wedi ei baratoi i ‘Roman Frontiers in Wales’

 

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru