Capel Sant Padrig, Porthmawr, Tyddewi

View of the site from the beach

Mae Capel Sant Padrig i’r gorllewin o Dyddewi ac mor agos â phosib at ei wlad ei hun – Iwerddon. Mae wedi mynd â’i ben iddo erbyn hyn. (George Owen, 1603)

Saif Capel Sant Padrig uwchlaw traeth Bae Porth Mawr yn Nhyddewi, sir Benfro. Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am y Capel, gyda’r unig gyfeiriad hanesyddol ato yn ymddangos yng ngwaith Description of Pembrokeshire , George Owen, yn 1603.

Mae erydu arfordirol wedi bod yn broblem yn y safle ers dechrau’r 20fed ganrif, wrth i feddi ddod i’r golwg yn y twyni tywod yn aml.

Yn 2004, ceisiodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro arafu’r erydu drwy osod cerrig mawr rhwng y môr a’r twyni tywod. Roedd hyn yn llwyddiannus tan 2014 pan gafodd y cerrig mawr eu colli yn dilyn stormydd difrifol, gan ddatgelu’r beddi unwaith eto.

Oherwydd y difrod cyson i’r safle roedd angen mynd ati ar frys i gloddio er mwyn adfer cymaint o wybodaeth â phosib. Gwnaed y gwaith cloddio gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a Phrifysgol Sheffield, gyda chefnogaeth gan Cadw, the Nineveh Charitable Trust a Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae 100 bedd wedi dod i’r golwg hyd yma yn sgil y gwaith cloddio yn y fynwent. Mae dulliau dyddio radiocarbon wedi dangos bod y fynwent yn cael ei defnyddio rhwng y 8fed ganrif a’r 11eg ganrif O.C.

Mae dadansoddiad ym Mhrifysgol Sheffield o’r sgewrbydau wedi datgelu poblogaeth gymysg o ddynion, menywod a phlant o bob oed.

Roedd y beddi wedi’u gosod o’r dwyrain i’r gorllewin, gyda’r pen tua’r gorllewin. Yn unol â’r traddodiad Cristnogol, nid oedd unrhyw eiddo yn cael ei gladdu gyda’r cyrff.

Roedd rhai o’r sgerbydau mewn beddi cist – beddi ag ochrau carreg a cherrig mawr gwastad ar ben y beddi. Roedd hyn yn draddodiad claddu cyffredin ar draws gorllewin Prydain yn ystod yr oesoedd canol cynnar.

Daethpwyd ar draws defod gladdu unigryw hefyd: roedd plant wedi cael eu claddu gyda cherrig cwarts ar ben y beddi cist.

Mae llawer iawn o dystiolaeth yn dal heb gael ei chloddio, gan gynnwys strwythur carreg diddorol sy’n dyddio’n ôl i gyfnod cyn y beddi.

Cafwyd cyllid Ewropeaidd ar gyfer cloddio dyfodol yn 2019, 2020 a 2021. Y nod yw parhau â’r ymchwil i Gapel Sant Padrig oherwydd gallai’r dystiolaeth archaeolegol drawsnewid ein dealltwriaeth o’r cymunedau Cristnogol ar hyd yr arfordir yn sir Benfro lle’r oedd pobl yn byw ac yn marw yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar.

 

Darllenwch y Dyddiaur Cloddio diweddaraf – Capel Sant Padrig Medi 2019

 

 

View of the site from the beach
Golwg ar y safle o’r traeth

Excavating some of the long cist graves
Cloddio rhai o’r beddau cist

A long cist grave and skeleton
Bedd cist hir ac ysgerbwd

 

Darganfod Donoec: Darganfyddiadau degawd o gloddio ym Mhorth Mawr:

 

Adroddiad dros dro 2014 Capel Sant Padrig (mewn ffurf PDF – yr agor mewn ffenestr newydd)

Adroddiad dros dro 2015 Capel Sant Padrig (mewn ffurf PDF – yr agor mewn ffenestr newydd)

Adroddiad dros dro 2016 Capel Sant Padrig (mewn ffurf PDF – yr agor mewn ffenestr newydd)

Adroddiad dros dro 2019 Capel Sant Padrig (mewn ffurf PDF – yr agor mewn ffenestr newydd)

Adroddiad terfynol 2022 Capel Sant Padrig (mewn ffurf PDF – yr agor mewn ffenestr newydd)

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru