Cyddnabyddir bod gwlyptir Ceredigion yn safleoedd daearegol, ecolegol a phaleoamgylcheddol pwysig. Mae archwiliadau archaeolegol diweddar o lwybr pren a mwyndoddi metel yn Llangynfelyn wedi pwysleisio pwysigrwydd archaeolegol yr amgylcheddau hyn. Mae cynnydd yn lefel y môr, erydu parhaus ar yr arfordir a draenio’n golygu difrod parhaus i fawnog Cors Fochno, Llangynfelyn, yng ngogledd Ceredigion. Bydd y prosiect hwn, ar y cyd â Chyngor Cefn Gwlad Cymru (sy’n rheoli llawer o Gors Fochno), perchnogion tir, ac aelodau’r gymuned leol, yn cynyddu’n gwybodaeth am archaeoleg Cors Fochno, yn asesu’r pwysau sydd arni, ac argymell camau a fydd yn helpu i’w diogelu yn y tymor hir.
Yn dilyn arolwg Cors Fochno yn 2008-09, archwiliwyd ffiniau tir gwlyb Cors Caron (Cors Tregaron) yn 2009-10 mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. Yn ogystal â ffurfio mesurau i ddiogelu ymylon y gors yn yr hirdymor, archwiliwyd nifer o safleoedd yn fanwl, gan gynnwys arolwg geoffisegol o gastell canoloesol posibl yn Llwyngwinau ac arolwg geoffisegol, arolwg topograffeg a chloddio ar raddfa fach o ran maenor ganoloesol bosibl a phlasty/gerddi diweddarach.
Edrych dros Gors Caron o’r bryniau sydd wrth ymyl ei ochr ddwyreiniol
Arolwg geoffisegol o’r castell cloddwaith posibl yn Llwyngwinau
Cyflawni’r arolwg geoffisegol yn Llwyngwinau gyda Chors Caron yn y cefndir
Gwlyptiroedd, Arolwg Ordnans, 1922: Detholiad o fap Arolwg Ordnans o 1922 yn dangos ehangder Cors Fochno
Gwirfoddolwyr yn cloddio y llwybr pren yn Tan yr Allt, Cors Fochno