Clostiroedd wedi’u hamddiffyn o’r Cyfnod Cynhanesyddol

Cyflwyniad

Nodweddion o’r Oes Haearn yn Ne Orllewin Cymru yw clostiroedd wedi’u hamddiffyn. Amrywia’r aneddiadau hyn o gaerau mawr wedi’u hamgylchynu gan argloddiau a ffosydd mawr i glostiroedd o lai na 0.3 hectar a amddiffynwyd yn rhannol. Cynhaliodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd astudiaeth o Gymru gyfan yn 2003-04 a gwelwyd bod 613 o enghreifftiau o glostiroedd wedi’u hamddiffyn yn Ne Orllewin Cymru. Mae 235 o’r rhain yn Henebion Cofrestredig. Mae pum cant a deuddeg ohonynt yn wrthgloddiau sy’n parhau i sefyll, ceir olion cnydau ar gyfer 68 ohonynt ac mae 30 wedi’u cofnodi drwy enwau llefydd neu ffynonellau dogfennol yn unig ac nid yw tri wedi’u pennu. Ni wyddys beth yw cyflwr presennol llawer o’r safleoedd nad ydynt yn rhai cofrestredig gan nad oes archaeolegydd wedi archwilio y rhan fwyaf ohonynt ers dros 30 o flynyddoedd. Nid yw archaeolegwyr ond wedi ymweld â nifer fach o’r safleoedd a ddarganfuwyd drwy luniau o’r awyr. O ganlyniad mae’r prosiect hwn sy’n cynnwys Cymru gyfan yn gyfle i archwilio, nodweddu ac asesu’r dosbarth pwysig hwn o henebion o’r cyfnod cynhanesyddol.

Ebrill 2004 – Mawrth 2005

Cyflawnwyd yr astudiaeth gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn 2004-05 mewn swyddfa, gan gynnwys Siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro. Dynodwyd 1079 o amgaeadau amddiffynnol cynhanesyddol pendant a phosib yn y tair sir. Mae’r cyfanswm hwn yn cynnwys 164 o safleoedd a adnabyddir oherwydd enwau lleoedd ond does yna ddim presenoldeb ffisegol. Mae’r 915 o safleoedd sy’n weddill yn cynnwys bryngaerau o waith pridd ac amgaeadau amddiffynnol, ac amgaeadau sydd â nodau cnydau, mae 215 o’r safleoedd hyn yn Gofebion Hynafol Rhestredig.

Crëwyd 201 o gofnodion o safleoedd newydd yn ystod yr astudiaeth. Daeth y wybodaeth ar gyfer y cofnodion newydd hyn o ddwy brif ffynhonnell: system GIS sydd bellach wedi dod i ben a luniwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ar ran RCAHMW yn 1996-97, a’r cofnodion a grëwyd gan RCAHMW dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn bennaf o ganlyniad i ffotograffiaeth o’r awyr gwaith a wnaed gan Toby Driver. Mae gwybodaeth a gasglwyd yn ystod yr astudiaeth wedi’i ychwanegu i’r Cofnod o Safleoedd a Chofebion Rhanbarthol.

Yn y blynyddoedd sydd i ddod ymgymerir ag ymweliadau safle. Y nodau cyffredinol yw: defnyddio diffiniadau, dosbarthu, mesur a dosbarthiad amgaeadau amddiffynnol; asesu arwyddocâd archaeolegol y safleoedd hyn; asesu pa mor fregus yw’r safleoedd hyn ac arolwg o feini prawf rhestru/strategaethau rheoli; gwella HER/END.

Map yn dangos lleoliad yr amgaeadau amddiffynnol/bryngaerau yn ne orllewin Cymru.

Adroddiad Clostiroedd wedi’u hamddiffyn o’r Cyfnod Cynhanesyddol yn llawn mewn ffurf PDF yn Saesneg – 1.6Mb (yn agored mewn ffenestr newydd)

2005-2006 – Arolwg o Glostiroedd wedi’u hamddiffyn yng Ngheredigion

Aelodau o’r gweithgor Prosiect Amgaeadau Amddiffynnol ar ymweliad maes â bryngaer yng Nghwm Ystwyth, Ceredigion.

Mae yna 227 o gaeadleoedd amddiffynnol a safleoedd perthynol yng Ngheredigion a gellir eu rhannu i mewn i’r mathau canlynol o safleoedd: Bryngaer 35, Caer Bentir 30, Caer Bentir bosibl 1, Caead Amddiffynnol 137, Caead Amddiffynnol bosib 20, Caead 4. Mae 49 o’r rhain yn Gofebion Hynafol Rhestredig. Pan oedd yr arolwg yn cael ei wneud gwelwyd bod y rhan fwyaf o’r cofebau gwrthglawdd mawr, megis bryngaerau a chaerau pentir mewn cyflwr da a sefydlog. Serch hynny, mae rhai o’r safleoedd gwrthglawdd llai o faint wedi dirywio dros y 30 – 40 mlynedd diwethaf. Safleoedd ag ôl cnydau yw’r rhan fwyaf o’r caeadau amddiffynnol llai o faint – mae prosiect ar y gweill ar hyn o bryd i asesu’r safleoedd hyn.

Er mwyn iddynt fod yn haws i’w defnyddio mae’r rhestrau o safleoedd wedi’u trefnu yn ôl sgwariau grid 10cilomedr yr Arolwg Ordnans. Mae pob rhestr yn cynnwys un neu fwy o fapiau 1:50,000 yn dangos lleoliad cyffredinol pob safle ac yn dilyn hynny cofnod unigol ar gyfer pob safle. Mae pob cofnod yn cynnwys: allbrint o’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol, gan gynnwys disgrifiad o’r safle; map 1:500; a phan fydd ar gael ffotograff o’r ddaear ac o’r awyr.
Mae nifer o’r mapiau 1;500 yn dangos manylion o’r safle wedi’u nodi gan yr ôl cnydau a welir ar y ffotograffau o’r awyr. Cedwir y rhain gan RCAHMW Hawlfraint y Goron ©.

Cliciwch yma i is-lwytho adroddiad yr arolwg mewn ffurf Adobe Acrobat (yn Saesneg).
Yn agored mewn ffenestr newydd – maint y ffeil 620kb. 

Mae’r rhestrau o safleodd mewn ffurf Adobe Acrobat (PDF). Gallwch is-lwytho rhestr drwy glicio yn y sgwar addas. Fe fydd yn agored mewn ffenestr newydd. Mae’r adroddiadau yn enfawr – mae eu maint yn rhedeg o 1.4Mb i 13Mb felly cymerir amser i’w is-lwytho. Gallwch weld maint bob ffeil drwy adael eich pwyntydd dros y sgwar addas.

2006 – 2007– Arolwg o Amgaeadau Amddiffynedig yn Sir Benfro

Yn 2006-07, aeth y prosiect yn ei flaen gydag ymweliadau â phob safle heb raglen ac 1 o bob 10 safle â rhaglen yn Sir Benfro. Mae 367 cae amddiffynnol a safleoedd cysylltiedig yn Sir Benfro, ac fe’u dosrannir yn ôl y mathau canlynol o fathau o safle: Bryngaer 9, Bryngaer posibl 6, Caer Benrhyn 96, Caer Benrhyn bosibl 5, Cae Amddiffynnol 211, Cae Amddiffynnol posibl 40. O blith y rhain, mae 127 yn Henebion a Raglennwyd. Yn ystod yr arolwg, darganfuwyd bod yr henebion pridd mwy, fel y bryngeyrydd a’r caerau penrhyn mewn cyflwr da a sefydlog. Fodd bynnag, mae rhai o’r safleoedd pridd llai wedi dirywio dros y 30 – 40 mlynedd diwethaf. Argymhellodd yr adroddiad y dylid rhaglenni 51 cae amddiffynnol ac y dylid adolygu tiriogaeth y tri safle a raglennwyd. Gwnaed argymhelliad ar gyfer arolwg a gwaith cofnodi arall ar gyfer llawer o safleoedd eraill.

Y gaer bentir fechan yn Ninas Fach, ger Niwgwl.

Er mwyn iddynt fod yn haws i’w defnyddio mae’r rhestrau o safleoedd wedi’u trefnu yn ôl sgwariau grid 10cilomedr yr Arolwg Ordnans. Mae pob rhestr yn cynnwys un neu fwy o fapiau 1:50,000 yn dangos lleoliad cyffredinol pob safle ac yn dilyn hynny cofnod unigol ar gyfer pob safle. Mae pob cofnod yn cynnwys: allbrint o’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol, gan gynnwys disgrifiad o’r safle; map 1:500; a phan fydd ar gael ffotograff o’r ddaear ac o’r awyr.
Mae nifer o’r mapiau 1;500 yn dangos manylion o’r safle wedi’u nodi gan yr ôl cnydau a welir ar y ffotograffau o’r awyr. Cedwir y rhain gan RCAHMW Hawlfraint y Goron ©.

Cliciwch yma i is-lwytho adroddiad yr arolwg mewn ffurf Adobe Acrobat (yn Saesneg).
Yn agored mewn ffenestr newydd – maint y ffeil 1.1Mb. 

Mae’r rhestrau o safleodd mewn ffurf Adobe Acrobat (PDF). Gallwch is-lwytho rhestr drwy glicio yn y sgwar addas. Fe fydd yn agored mewn ffenestr newydd. Mae’r adroddiadau yn enfawr – mae eu maint yn rhedeg o 2.3Mb i 23Mb felly cymerir amser i’w is-lwytho. Gallwch weld maint bob ffeil drwy adael eich pwyntydd dros y sgwar addas.

 

2007 – 2008 Arolwg o Gaeau Amddiffynnol yn Sir Gaerfyrddin

Eglwys Llangan, un o’r safleon sydd un cael ei archwilio fel rhan o brosiect Clostiroedd Amddiffynol eleni

Yn 2007-2008, ymchwiliwyd llociau amddiffynnol yn Sir Gaerfyrddin, a chyflawnwyd ymweliadau maes ar yr un sail â blynyddoedd blaenorol. Nodwyd 214 lloc amddiffynnol a safleoedd cysylltiedig yn Sir Gaerfyrddin gan yr arolwg, ac mae’r mathau o safleoedd fel a ganlyn: Bryngaerau 15, Caerau Pentir 32, Caer Bentir bosibl 1, Llociau Amddiffynnol 116, Llociau Amddiffynnol posibl 36, Llociau 4, Llociau posibl 10. O’r rhain, mae 46 yn Henebion Cofrestredig. Yn ystod yr arolwg, gwelwyd bod y rhan fwyaf o’r henebion gwrthglawdd mwyaf, megis bryngaerau a chaerau pentir, mewn cyflwr da a sefydlog. Er hynny, roedd rhai o’r safleoedd gwrthglawdd llai wedi dirywio dros y 30 – 40 mlynedd diwethaf.

Cliciwch yma i is-lwytho adroddiad yr arolwg mewn ffurf Adobe Acrobat (yn Saesneg).
Yn agored mewn ffenestr newydd – maint y ffeil 41Kb.

Mae’r rhestrau o safleodd mewn ffurf Adobe Acrobat (PDF). Gallwch is-lwytho rhestr drwy glicio yn y sgwar addas. Fe fydd yn agored mewn ffenestr newydd. Mae’r adroddiadau yn enfawr – mae eu maint yn rhedeg o 3.8Mb i 9.8Mb felly cymerir amser i’w is-lwytho. Gallwch weld maint bob ffeil drwy adael eich pwyntydd dros y sgwar addas.

Yn ystod 2008-09 fe ymwelwyd a thua 30 safle amgaead ymddifyniadwy nad oedden wedi eu ymweld yn gynharach.

Mae adroddiad o’r gwaith yma i’w gael fel PDF (yn agored mewn ffenestr newydd). 

Hefyd yn ystod 2008-09 fe gynhyrchwyd cyfres o luniau i lyfr ar drefedigaethau Oes Haearn yn Nghymru. Fe gynhyrchwyd y llyfr gan Cadw gyda chyfrynniadau oddiwrth y bedair ymddiriedolaeth archaeolegol Cymraeg.

Engraifft o ddau lun: map yn dangos dosbarthiad pob safle diffyniadwy Oes Haearn yng Nghymru, a llun o rhan o Garn Fadryn

 

Cyswllt y Prosiect: Ken Murphy

SN69 - 14Mb SN58 - 6Mb SN68 - 13Mb SN78 - 10Mb SN57 - 6Mb SN67 - 10Mb SN77 - 10Mb SN46 - 4Mb SN56 - 6Mb SN66 - 6Mb SN76 - 10Mb SN15 - 1.4Mb SN25 - 4Mb SN35 - 5Mb SN45 - 4Mb SN55 - 7Mb SN65 - 6Mb SN75 - 10Mb SN14 - 1.4Mb SN24 - 13Mb SN34 - 8Mb SN44 - 4Mb SN54 - 7Mb SN64 - 6Mb SN04,14 -9.9Mb SN04,14 - 9.9Mb SN70,80 - 2.3Mb SN90,00 - 23.8Mb SM73,83,93 - 16.8Mb SM72,82 - 11.2Mb SM92 - 15.8Mb SN02 - 22Mb SN10,11,12 - 17.3Mb SN71,81,91 - 17.1Mb SN01 - 20Mb SN03,13,23 - 19.8Mb SR89,99 SS09,19 - 11.9Mb SN20, SN21 - 6Mb SN22,SN23,SN24 - 5.2Mb SN31 -3.9Mb SN32,SN33,SN34 - 5.8Mb SN 40, 41, 42, 43, 44 - 9.9Mb SN 51, 52 , 54 - 4.7Mb SN 51, 52 , 54 - 4.7Mb SN61, 62, 63, 64 - 7Mb SN 72, 73, 74, 83, 84 - 5.2Mb SN 72, 73, 74, 83, 84 - 5.2Mb SN01, 02, 10, 11, 12 - 8.6Mb
Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru