Safleoedd Milwrol yr Ugeinfed Ganrif

Mae safleoedd milwrol yn dystiolaeth o hanes terfysglyd y Deyrnas Unedig yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae gan Gymru nifer o olion milwrol o wrthdaro rhyngwladol yn ystod yr ugeinfed ganrif: Y Rhyfel Byd Cyntaf, Yr Ail Ryfel Byd a’r Rhyfel Oer. Yn wahanol i leoedd eraill yn Ewrop, ni chyffyrddwyd y safleoedd hyn gan ddifrod goresgyniad a rhyfel, ond dymchwelwyd llawer ohonynt drwy gynlluniau clirio ac mae rhagor ohonynt wedi diflannu o ganlyniad i ddatblygu a gwella amaethyddol. Wrth i safleoedd milwrol yr ugeinfed ganrif symud o fyd y cof i archaeoleg a hanes, mae’n hanfodol y cânt eu cofnodi ac y caiff yr enghreifftiau gorau eu hamddiffyn a’u cadw yn yr un modd ag yr ydym yn trin bryngaerau o’r Oes Haearn a chestyll canoloesol. Bydd yr arolwg yn asesu’r hyn sydd wedi goroesi ac yn gwneud argymhellion ar gyfer amddiffyn strwythurau allweddol sy’n weddill yn statudol.

Meysydd Awyr

Yn ystod 2011-12, archwiliwyd meysydd awyr, sef y safleoedd milwrol mwyaf a mwyaf soffistigedig a sefydlwyd, yn ne-orllewin Cymru fel rhan o brosiect Cymru gyfan a gynhaliwyd gan y pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru. Adeiladwyd erodromau cynnar ar gyfer awyrlongau ac awyrennau arnofio, sef rhan o Wasanaeth Awyr y Llynges Frenhinol (RNAS), ym 1914-18 yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cynhaliwyd rhaglen ehangu meysydd awyr dan y Llu Awyr Brenhinol (RAF) yn y 1920au a 30au, ond yn ystod yr Ail Ryfel Byd (1939-45) y cynyddodd nifer a chymhlethdod meysydd awyr, gan adeiladu tua 34 ohonynt yng Nghymru, yr oedd tua 18 ohonynt yn ne-orllewin Cymru. Lleihaodd nifer y meysydd awyr yn sylweddol ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gyda’r rhai a oroesodd yn arbenigo mewn hyfforddi neu, fel Breudeth ger Tyddewi, yn cael eu cyfarparu i letya Awyrennau Bomio V yn ystod y Rhyfel Oer (1946-89).

Yn dilyn ymchwilio meysydd awyr, trodd y sylw yn ystod 2012-13 a 2013-14 i safleoedd meysydd awyr gwasgaredig. Mae’r rhain yn cynnwys y safleoedd cefnogol megis blociau llety, yr adran salwch, ardaloedd cymunedol a gwasanaethau eraill a oedd wedi’u lleoli i ffwrdd o’r prif ardaloedd technegol a meysydd hedfan er mwyn lleihau difrod pe bai yr ymosodwyd arnynt.  Roedd bannau llywio, safleoedd trawsyrru radio a hudwyr bomio i gyd wedi’u lleoli i ffwrdd ô’r prif gyfadeiladau eu hunain ac mae llawer o safleoedd yn dangos y symudiadau ymlaen cyflym a newidiol o ran technoleg a oedd yn digwydd yn ystod y rhyfel.  Yn ogystal, ystyriwyd amddiffynfeydd hefyd –  mae rhai meysydd awyr yn cadw cylch o amddiffynfeydd a adeiladwyd i roi ffordd o amddiffyn os digwydd goresgyn y maes awyr ei hun. Mae rhai safleoedd o ddiddordeb technegol yn goroesi, gan gynnwys blocdai bach suddedig (caerau Pickett Hamilton ) sydd â lifftiau hydrolig i’w codi pan fo angen.


Roedd yr Awyrendy Pothellog hwn ym Maes Awyr Breudeth hefyd yn hyfforddwr gynyddiaeth, ag offer a rigiau y tu mewn iddo i efelychu amodau brwydro.


Twr rheoli neu swyddfa wylio ym Maes Awyr Caeriw. Adferwyd y dyluniad anarferol hwn gan grwp brwdfrydig lleol ac mae bellach ar agor i’r cyhoedd.


Doc Penfro oedd y ganolfan awyrennau môr mwyaf yn y byd. Roedd awyrennau môr Sunderland a oedd yn gweithredu o’r fan hon yn hedfan patrolau rhagchwilio am longau tanfor ac yn achub criwiau o longau a drawyd gan dorpidos yn ystod rhyfel yr Iwerydd. Mae’r llun hwn o’r awyr o 1943 yn dangos dau awyrendy unigryw ar gyfer awyrennau môr a guddliwiwyd i edrych yn debyg i dai teras, ynghyd â nifer o awyrennau môr Sunderland yn yr iard longau. Ffotograff trwy garedigrwydd John Evans.


Graffiti wedi’i gerfio ar goeden yn Llandyfái gan swyddogion y Llu Awyr Brenhinol a oedd wedi’u lleoli gerllaw yn Noc Penfro yn ystod yr Ail Ryfel Byd


Adeilad Cyfeirleoli Amledd Uchel (a gafodd y llysenw Huff-Duff) ym maes awyr Angle. Ei ddiben oedd arwain awyrennau i lanio ym maes awyr Angle trwy ddarparu signalau radio i awyrennau weld ble’r oeddent


Morter sbigot – arf gwrth-danciau sy’n amddiffyn y gyffordd i’r dwyrain o faes awyr RAF Carew Cheriton


Wal friciau a oedd yn amgylchynu gwaelod twr pren Darganfod Cyfeiriad Amledd Uchel) ar gyfer helpu awyrennau i lywio eu ffordd yn ôl i Faes Awyr Tyddewi


Adeiladau maes awyr nodweddiadol yn RAF Talbenni

Saleoedd Milwrol yr Ugeinfed Ganrif – Meysydd Awyr

Safleoedd Damweiniau Awyrennau

Ar y cyd â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, bu’r pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru yn archwilio safleoedd damweiniau awyrennau milwrol, gan ganolbwyntio ar y safleoedd hynny sy’n debygol o fod ag olion o hyd. Yn Nyfed, nodwyd tua 80 o safleoedd i ddechrau ond, yn dilyn ymchwil bellach, cwtogwyd y rhestr hon i hanner dwsin o safleoedd yn unig. Ymwelwyd â’r safleoedd hyn i asesu beth sydd ar y ddaear o hyd.


Safle damwain awyren filwrol Fairey Battle yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar Fynydd y Preseli. Wrth lwc, ni chafodd y criw ei anafu

Adroddiad Damweiniau Awyrennau Milwrol 2012-13

Gwersylloedd a Meysydd yr Ail Ryfel Byd

Mae’r astudiaeth o wersylloedd a meysydd yn canolbwyntio ar safleoedd a ffurfiai ran o’r ymlediad milwrol anferth a ddigwyddodd yn uniongyrchol cyn ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd llawer o’r safleoedd hyn yn rhai dros dro ac wedi’u hadeiladu’n gyflym. Meddiannwyd tai mawr yn orfodol i wasanaethu fel pencadlysoedd gyda milwyr yn cael eu lletya yn y ty neu ar y safle. Mae hanes cymhleth ynghlwm â safleoedd yn aml, gan i’w swyddogaeth a’u defnydd newid wrth i’r rhyfel fynd rhagddo. Mae gwersylloedd a meysydd wedi’u hastudio sir wrth sir, yn dechrau gyda Sir Gaerfyrddin, yna Ceredigion a gorffen gyda Sir Benfro.


Awyrlun fertigol o 1946 yn dangos y storfan byffrau yn Abergwili

Ail Ryfel Byd a diweddarach – Gwersylloedd a Meysydd Tanio yn Sir Gar – Adroddiad Dros Dro 2014-15

Ail Ryfel Byd a diweddarach – Gwersylloedd a Meysydd Tanio Ceredigion – Adroddiad Dros Dro 2014-15

Ail Ryfel Byd a diweddarach – Gwersylloedd a Meysydd Tanio Ardal Preseli, Gogledd Sir Benfro – Adroddiad Dros Dro 2016-17

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru