Archwilio Pen Dinas : Prifddinas Canolbarth Cymru yn yr Oes Haearn

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed mewn partneriaeth â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi cael grant gwerth £143,243 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ogystal â chyllid ychwanegol gan Cadw ar gyfer prosiect cymunedol dwy flynedd i ddysgu mwy am y fryngaer sydd mor amlwg uwchlaw tref Aberystwyth a’i chymydog, Penparcau.

Er i’r safle gael ei gloddio yn y 1930au, mae rhyw ddirgelwch yn perthyn o hyd i’r fryngaer drawiadol hon, fel cymaint o rai eraill ar draws bryniau Cymru. Ai er mwyn dangos grym y gymuned leol yn yr Oes Haearn y cafodd y fryngaer ei hadeiladu, neu a oedd iddi ddiben ymarferol fel lle i gadw gwartheg a grawn yn ddiogel? Beth yr oedd y bobl a oedd yn byw yma’n ei wneud ar y safle hwn ar y bryn?

Bydd y prosiect yn ceisio cael atebion i gwestiynau tebyg i’r rhain, gan weithio gydag aelodau o Fforwm Penparcau a grwpiau cymunedol eraill. Mae’r prosiect dwy flynedd yn cynnwys arolwg geoffisegol a gwaith cloddio a fydd yn taflu goleuni ar y modd yr oedd ein cyndeidiau’n defnyddio’r safle.

Cafodd y syniad ar gyfer y prosiect ei gynnig gan aelodau o’r gymuned leol sydd wedi mynegi awydd i gael gwybod mwy am y fryngaer a’i gweld yn cael ei chynnal a’i chadw yn well. Mae amryw weithgareddau cymunedol wedi’u cynllunio, a fydd yn cynnwys gweithio gydag arbenigwyr lleol ar fywyd gwyllt er mwyn clirio rhedyn ac eithin a gwella’r safle ar y bryn ar gyfer y planhigion, yr adar, yr anifeiliaid di-asgwrn-cefn a’r pryfed prin sy’n byw ym Mhen Dinas.

Bydd gwneud ffilmiau, creu crochenwaith, prosiectau ysgolion, teithiau tywys a gweithgareddau adrodd straeon i gyd yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn, a phenllanw’r cyfan fydd gŵyl ar benwythnos i ddangos canlyniadau’r holl weithgareddau hyn.

Ynglŷn â Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:

Gan ddefnyddio arian a godir gan y Loteri Genedlaethol rydym yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau er mwyn i dreftadaeth y DU greu newid cadarnhaol a pharhaol er budd pobl a chymunedau, yn awr ac yn y dyfodol.

https://www.heritagefund.org.uk/cy/node/107838

Diolch i’r bobl sy’n cymryd rhan yn y Loteri Genedlaethol, mae dros £30 miliwn yn mynd i achosion da ar draws y DU bob wythnos.

 

Gwaith cloddio a gyflawnwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn 2021, gan ddefnyddio technegau archaeolegol modern i ailagor y ffosydd a gloddiwyd yn wreiddiol yn y 1930au. © Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed

Mae’r llun hwn o’r awyr yn dangos mor gymhleth a thrawiadol yw amryw fynedfeydd, ffosydd a chloddiau bryngaer Pen Dinas. © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC)

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru