Paleolithig – y dynion cynharaf
Ar ôl darganfod creiriau fflint ac esgyrn wedi’u bwtsiera ym
mhrosiect Happisburgh yn Norfolk, sylweddolwyd fod homininiau (cyn-ddynion) wedi bodoli
ym Mhrydain yn ystod y Paleolithig cynnar, o bosib rhwng 800,000 – 900,000 o flynyddoedd
yn ôl. Dyma’r darganfyddiadau hynaf o’u bath hyd yma yng ngogledd Ewrop,
ac maen nhw’n dod o ddyddodiad rhyngrewlifol (cyfnod o dywydd cynhesach) ynghyd agolion
o blanhigion ac anifeiliaid sy’n dangos mai hinsawdd debyg i un Sgandinafia, gyda
fforestydd bythwyrdd a phaith, oedd yma ar y pryd. Roedd yr homininiau cynharaf hyn yn byw
ochr yn ochr â mamothiaid, llewod a hienas.
Daw’r dystiolaeth gynharaf sydd gennym yng Nghymru am ddynion cynnar, neu Neanderthal,
o’r cyfnod Is Baleolithig diweddar. Er eu bod yn perthyn i’r un genws, Homo, â ni, roedden
nhw’n wahanol iawn ac mae’n debygol nad oedden nhw wedi addasu cystal â dynion modern i’w
hamgylchfyd cyfnewidiol. Wrth i’r ia gilio, symudodd dynion a merched Neanderthal tua’r gorllewin
i hela, a chawsant gysgod yng Nghymru mewn ogofâu calchfaen, megis Ogof Pontnewydd yn Sir Ddinbych, lle
roedd pobl yn byw tua 230,000 o flynyddoedd yn ôl ynghanol cyfnod rhyngrewlifol, ac Ogof Coegan yn Sir
Gaerfyrddin, lle darganfuwyd bwyelli llaw Neanderthal diweddar (60,000–35,000 o flynyddoedd yn ôl).
|