Cartref > Tirweddau Haneyddol > Ucheldir Ceredigion >

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol De-Orllewin Ucheldir Ceredigion

Upland Ceredigion South West

Crynodebau yw'r disgrifiadau isod, cliciwch ar y llun am fwy o wybodaeth

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Afon Groes

Nodweddir tirwedd Afon Groes gan ffermydd gwasgaredig mewn tirwedd o gaeau bach â gwrychoedd o bob tu iddynt sy’n ymestyn ar hyd lloriau dyffrynnoedd nifer o afonydd bach ac sydd wedi’u hamgáu gan ucheldir.

Berthddu

Mae ffermydd gwasgaredig a chaeau o dir pori wedi’i wella a rennir gan gloddiau a gwrychoedd yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Berthddu.

Berwyn

Mae Berwyn yn cynnwys llawr a llethrau is dyffryn llethrog, ucheldirol. Mae’r caeau yn fach ac fe’u rhennir gan gloddiau caregog neu waliau sych. Nid oes ond dwy fferm yn yr ardal.

Blaen Sychnant

Mae bythynnod anghyfannedd a chaeau nas defnyddir bellach wedi’u lleoli mewn tir pori wedi’i wella a phocedi o dir pori garw yn nodweddu tirwedd hanesyddol Blaen Sychnant.

Blaenaucaron

Mae caeau a rennir gan gloddiau a gwrychoedd neu waliau sych, a ffermydd bach, gwasgaredig sy’n ymestyn ar draws llawr agored a llethrau is Afon Groes a’i rhagnentydd yn nodweddu tirwedd Blaenaucaron.

Bwlchddwyallt & Blaengorffen

Caeau mawr o dir pori wedi’i wella a ffermydd gwasgaredig yw prif elfennau ardal dirwedd hanesyddol Bwlchddwyallt a Blaengorffen. Mae clystyrau bach o goetir collddail gwasgaredig yn rhoi naws parcdir i rannau o’r dirwedd.

Capel Helaeth

Mae Capel Helaeth yn cynnwys tyddynnod a bythynnod gwasgaredig yn dyddio o’r 19eg ganrif mewn tirwedd o gaeau o dir pori. Mae llawer o’r ffiniau traddodiadol a ffurfir gan wrychoedd bellach yn ddiangen ac maent wedi’u disodli gan ffensys gwifren. Ceir nifer o fythynnod a thyddynnod anghyfannedd.

Cefn-Meurig

Caeau bach, afreolaidd eu siâp a rennir gan gloddiau a gwrychoedd neu, yn llai cyffredin, waliau sych, a phatrwm anheddu o ffermydd gwasgaredig yw prif elfennau ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Cefn-Meurig.

Cnwch

Mae Cnwch yn boced o rostir agored sydd â phlanhigfeydd o goed coniffer yn dyddio o’r 20fed ganrif o bob tu iddi bron. Nid oes unrhyw aneddiadau yn yr ardal, ond mae olion gweithgarwch cloddio am gerrig yn elfen yn y dirwedd hanesyddol.

Cors Caron

Mae Cors Caron yn gyforgors fawr o fewn rhan uchaf dyffryn Afon Teifi.

Craig y Bwlch

Rhostir agored sy’n cynnwys tystiolaeth o gyn-aneddiadau a chyn-systemau caeau, a chwarel gerrig weithredol fawr yw prif elfennau tirwedd Craig y Bwlch.

Craig-y-Fintan

Mae Craig-y-Fintan yn llain o lethr serth agored, yn ogystal â llwyfandir sy’n codi i dros 450m. Erbyn hyn gwahenir yr ardal hon a lleiniau ehangach o rostir gan blanhigfa o goed coniffer. Nid oes unrhyw aneddiadau, ond mae hen waliau carreg sych a arferai rannu caeau i’w gweld.

Craig Ystradmeurig

Mae rhostir creigiog a phocedi o dir pori wedi’i wella yn nodweddu ardal dirwedd hanesyddol fach Craig Ystradmeurig.

Cwm Berwyn

Planhigfeydd o goed coniffer a sefydlwyd yn y 1960au yw prif elfennau tirwedd hanesyddol Cwm Berwyn. Fe’u plannwyd dros rostir agored gan mwyaf, ond mae nifer o hen systemau caeau ac aneddiadau, a safleoedd angladdol a defodol yn dyddio o’r Oes Efydd hefyd wedi’u gorchuddio gan y coedwigoedd.

Cwm Gwyddyl

Ffermydd a bythynnod gwasgaredig – y mae rhai ohonynt yn anghyfannedd – a leolir mewn dyffryn llydan, agored yw rhai o brif elfennau tirwedd Cwm Gwyddyl. Ymddengys fod yr ardal hon yn cynnwys tir pori garw agored yn bennaf, ond o edrych arni’n fanylach gwelir nifer fawr o hen ffiniau caeau a phocedi o dir pori wedi’i wella.

Cyrtau & Brynhownant

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Cyrtau a Bryn-Hownant yn cynnwys caeau canolig eu maint o dir pori ar lethr rhwng tirweddau o ffermydd/tir amaeth is a rhostir agored uwch.

Dolbeudiau-Dolyrychan

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Dolbeudiau – Dolyrychain yn cynnwys ffermydd gwasgaredig a chaeau bach a chanolig eu maint o dir pori wedi’i wella.

Ffair Rhos

Mae dosbarthiad eithaf niferus o fythynnod a thyddynnod yn dyddio o’r 19eg ganrif a ddechreuodd yn ôl pob tebyg fel aneddiadau sgwatwyr, mewn tirwedd o dir pori garw ac ychydig o dir pori wedi’i wella yn ffurfio tirwedd Ffair Rhos.

Fulbrook

Mae Fullbrook yn dirwedd o ffermydd bach, gwasgaredig a chaeau bach wedi’u rhannu gan gloddiau â gwrychoedd, a leolir ar dir bryniog i’r gorllewin o Gors Caron.

Geufron Hendrefelen

Mae ychydig o ffermydd gwasgaredig a chaeau bach, afreolaidd eu siâp o dir pori a rennir gan gloddiau â gwrychoedd yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Geufron – Hendre-Felen.

Gwar Castell

Dechreuodd Gwar Castell fel anheddiad sgwatwyr yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, ond erbyn hyn mae pob un o’r tai niferus yma ar wahân i un yn anghyfannedd. Ar wahân i bocedi o dir pori wedi’i wella, mae’r tir wedi troi’n dir pori garw/rhostir unwaith eto.

Heolfryn & Dolbeudiau

Mae tirwedd Heolfryn a Dolbeudlau yn cynnwys system gaeau reolaidd o gloddiau ac arnynt wrychoedd a sefydlwyd ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, ac ychydig o ffermydd a thai gwasgaredig.

Llethr Llwyd

Mae rhostir agored a llawer o safleoedd angladdol a defodol yn dyddio o’r Oes Efydd, ac olion nifer o aneddiadau Canoloesol ac ôl-Ganoloesol yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Llethr Llwyd.

Llwynmalus

Caeau o bach a chanolig eu maint a rennir gan wrychoedd ar gloddiau yw prif elfennau ardal gymeriad tirwedd hanesyddol fach Llwynmalus. Nid oes unrhyw aneddiadau.

Mynydd Bach Cwm Ystwyth

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Mynydd Bach – Cwm Ystwyth yn cynnwys planhigfeydd o goed coniffer yn dyddio o’r 20fed ganrif. Fe’u sefydlwyd dros dir agored neu goetir collddail.

Nant Cou & Nant Ochrgarreg

Mae ffermydd bach gwasgaredig, caeau afreolaidd eu siâp, clystyrau o goetir collddail, tir pori garw a thir pori wedi’i wella ar gyrion rhostir uchel, agored yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Nant Cou a Nant Ochrgarreg.

Pantyfedwen & Crofftau

Ambell fferm wasgaredig, caeau wedi’u rhannu gan gloddiau a gwrychoedd neu waliau sych, tir pori wedi’i wella a phocedi o dir pori garw, a chlystyrau o goetir collddail a choniferaidd yw prif elfennau ardal gymeriad tirwedd hanesyddol ymylol ucheldirol Pantyfedwen a Chrofftau.

Pen-y-Graig

Caeau bach o dir pori wedi’i wella a rennir gan waliau sych ac ambell wrych ar gloddiau, ac ychydig o ffermydd gwasgaredig yw prif elfennau tirwedd hanesyddol Pen-y-Graig.

Pontrhydfendigaid

Datblygodd Pontrhydfendigaid ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn y 19eg ganrif ar y cyd â’r diwydiant cloddio plwm a oedd yn tyfu. Pentref bach ydyw, sy’n cynnwys tai gweithwyr yn dyddio o ail hanner y 19eg ganrif yn bennaf, a thai modern a chyfleusterau eraill a adeiladwyd ar gyrion y pentref.

Rhos Brynberllan

Mae Rhos Brynberllan yn fryn bach o hen rostir a orchuddir bellach gan dir pori wedi’i wella gan mwyaf sydd wedi’i amgáu â rhai ffensys gwifren. Ceir ychydig o goetir collddail ar un o’i lethrau. Lleolir bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn ar y bryn.

Sunnyhill

Mae ffermydd sylweddol gwasgaredig, caeau o dir pori wedi’i wella a rennir gan gloddiau â gwrychoedd a choetir collddail ar rai llethrau yn nodweddu tirwedd hanesyddol Sunnyhill.

Swyddffynnon

Mae patrwm anheddu tirwedd hanesyddol Swyddffynnon yn cynnwys ffermydd bach gwasgaredig a phentrefan. Fe’u lleolir mewn tirwedd o dir pori wedi’i wella a rennir yn gaeau bach gan wrychoedd ar gloddiau.

Tanygraig

Nodweddir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol fach Tanygraig gan ychydig o ffermydd gwasgaredig a chaeau o dir pori a rennir gan waliau sych.

Tregaron

Tref fach Tregaron yw’r unig anheddiad sylweddol yn ucheldir Ceredigion. Nid yw’n dref gynlluniedig ac mae ffryntiau adeiladau yn ffinio â strydoedd troellog cul. Ar wahân i’r plwyf canoloesol mae’r mwyafrif o’r adeiladau yn dyddio o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Mae’r tai yn fach ac fel arfer mewn terasau byr.

Tyn-y-banadl

Mae Tyn-y-Banadl yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol fach ar gyrion Cors Caron, sy’n cynnwys system o gaeau rheolaidd eu siâp a rennir gan gloddiau â gwrychoedd. Nid oes unrhyw aneddiadau.

Tyngraig

Mae ffermydd gwasgaredig, ffiniau caeau ar ffurf cloddiau â gwrychoedd neu waliau sych, pentrefan llinellol yn dyddio o’r 19eg ganrif, coetir collddail, planhigfeydd bach o goed coniffer, a thir pori wedi’i wella i gyd yn elfennau yn nhirwedd hanesyddol Tyngraig.

Tai-unnos

Mae bythynnod a thai anghyfannedd aneddiadau sgwatwyr yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif sydd bellach wedi’u lleoli mewn rhostir a thir pori garw yn nodweddu tirwedd hanesyddol Tai-unnos.

Y Drum

Mae’r Drum yn llain gymharol fach o rostir agored. Yn gwahanu’r ardal hon a lleiniau ehangach o dir agored ceir planhigfa o goed. Nid oes unrhyw aneddiadau, ond mae safleoedd yr hyn sy’n debygol o fod yn dai ôl-Ganoloesol yn nodi tirwedd a gâi ei defnyddio lawer mwy yn y gorffennol.

Ystrad Caron


Mae caeau rheolaidd eu siâp o dir pori wedi’i wella a rennir gan gloddiau â gwrychoedd a chwpl o ffermydd sylweddol yn nodweddu tirwedd Ystrad Caron.

Caeau Ysbyty Ystwyth

Ardal tirwedd hanesyddol system gaeau Ysbyty Ystwyth yw’r unig system o gaeau âr wedi’u hisrannu a nodwyd yn ucheldir Ceredigion. Roedd wedi’i hamgáu i ffurfio’r patrwm o gaeau bach a welir heddiw erbyn dechrau’r 19eg ganrif. Fe’i nodweddir bellach gan dir pori, tir pori garw a phlanhigfeydd bach o goed coniffer, er bod olion y system gynharach i’w gweld o hyd.

Ystrad Fflur

Saif olion Abaty Ystrad Fflur, sef eglwys ôl-ganoloesol a Great Abbey Farm yn dyddio o’r 17eg ganrif – 19eg ganrif yng nghanol tirwedd Ystrad Fflur. Fodd bynnag, yn ei hanfod tirwedd amaethyddol o ffermydd gwasgaredig a chaeau ydyw, yn cynnwys rhai olion yn gysylltiedig â’r diwydiant cloddio plwm.

Ysbyty Ystwyth & Pont-Rhyd-y-Groes

Mae Ysbyty Ystwyth a Phont-rhyd-y-groes yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol gymhleth. Mae’n cynnwys dau bentref sydd at ei gilydd yn rhai diwydiannol, ond bod Ysbyty Ystwyth wedi dechrau fel anheddiad amaethyddol. Nodweddir gweddill yr ardal gan aneddiadau sgwatwyr gwasgaredig, ambell fferm fach, ac olion y diwydiant cloddio plwm.

Ystradmeurig

Mae grwp o adeiladau yn dyddio o’r 19eg ganrif yn ffurfio pentref Ystradmeurig, a cheir tai modern yn Nhynyffordd. Fodd bynnag, at ei gilydd mae hon yn dirwedd amaethyddol o ffermydd gwasgaredig a chaeau bach o dir pori.

 

Cyswllt y prosiect: Ken Murphy

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]