Trefi Hanesyddol

ARCHAEOLEG TREFI CANOLOESOL DE-ORLLEWIN CYMRU

Ganol yr 1970au, lluniodd yr Uned Ymchwil Drefol yn yr Adran Archaeoleg, Coleg Prifysgol Caerdydd gyfres o adroddiadau ar oblygiadau archaeolegol ailddatblygu yn nhrefi hanesyddol Cymru. Bryd hynny, nid oedd unrhyw gloddiadau archaeolegol wedi cael eu cynnal mewn trefi canoloesol yn Ne-orllewin Cymru, er y cafwyd peth gwaith ymchwil i rai o’r cestyll a’r safleoedd mynachaidd. Oddi ar hynny, mae nifer o gloddiadau, mantoliadau a briffiau gwylio wedi cael eu cynnal, ond ni chafodd y data canlyniadol eu cyfuno mewn unrhyw ffordd. Mae’r adroddiadau byr a gyflwynir yma yn cywiro hyn.

Ni wnaed unrhyw ymdrech i ddiffinio tref; y trefi a geir yn y fan hon yw’r rhai sydd wedi cael eu cynnwys yn adroddiadau’r Uned Ymchwil Drefol. Ni fu rhai, megis Tredemel a Threfilan, erioed yn drefi, tra bo eraill, megis Arberth, ddim ond wedi datblygu’n drefi yn y cyfnod ôl-ganoloesol. Ni chynhwyswyd rhai aneddiadau, megis Rhosfarced a Llandudoch, yn adroddiadau’r Uned Ymchwil Drefol, ac nid ydynt wedi’u cynnwys yma, er y byddent yn elwa ar astudiaeth ohonynt yn y dyfodol.

Yn cyd-fynd â phob cofnod tref y mae adroddiad PDF. Mae hwn yn amlinellu nifer yr adeiladau rhestredig a’r henebion cofrestredig, yn manylu ar yr ymyriadau archaeolegol, yn cynnwys mapiau hanesyddol wedi’u hatgynhyrchu, ac yn rhestru ffynonellau allweddol. Yr eithriad o ran nad oes cofnod ar ei chyfer yw tref Caerfyrddin, sef y dref fwyaf cymhleth, o bell ffordd, yn Ne-orllewin Cymru. Dim ond yn Saesneg y mae’r adroddiadau PDF ar gael.

 

 

 

 

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru